Newyddion Platfform Amgylcheddol Cymru, Medi 2021

‘Nôl i’r ysgol / tymor newydd ar y ffordd

Wrth i’n partneriaid prifysgol baratoi i gamu’n ôl i’r ystafell ddosbarth, labordai ymchwil a neuaddau darlithio, dyma gymryd eiliad i ddymuno’n dda i’n holl bartneriaid, dilynwyr a thanysgrifwyr ar gyfer tymor newydd yr hydref. Mae’n teimlo ychydig yn rhyfedd addasu i ‘normalrwydd’ eto, er wrth gwrs mae llawer o fesurau diogelwch yn dal ar waith yn ein gweithleoedd wrth i’r pandemig barhau i gyflwyno heriau newydd. Rydyn ni’n gobeithio y bydd y flwyddyn i ddod yn dod ag iechyd, lles a mwy o chwilfrydedd i chi i ddatrys a mynd i’r afael â heriau ein hoes… a gobeithiwn y cawn fwy o gyfle i gwrdd wyneb yn wyneb eto yn ystod y flwyddyn i ddod!

Pennod newydd i Blatfform yr Amgylchedd Cymru: cyflwyno ein Cyfarwyddwr newydd

Yr haf hwn, bu rhai newidiadau staff ym mhencadlys Platfform yr Amgylchedd Cymru, wrth i’n cyn-reolwr ymchwil GW4, Andy Schofield, gymryd yr awenau fel cyfarwyddwr newydd ein platfform. Cawson ni sgwrs gydag Andy dros yr haf i ddysgu am ei gefndir, ei lwybr gyrfa a’i obeithion ar gyfer y platfform yn y dyfodol. Cysylltwch ag Andy i glywed am sut y gall y platfform eich helpu chi, i drafod syniad am gydweithrediad neu gyfle yr hoffech ei rannu gyda’r gymuned ymchwil amgylcheddol yng Nghymru.

Gwyddoniaeth ar raddfa fawr: argyfwng yr amgylchedd yn enbydus

Mae’n siŵr eich bod wedi sylwi bod dadl yr hinsawdd yn parhau i fod yn amlwg yn yr agenda newyddion. Dan arweiniad y Cenhedloedd Unedig, ymunodd y lleisiau mwyaf yn y ddadl ar yr hinsawdd i danlinellu difrifoldeb y sefyllfa o’n blaenau oni bai bod pethau’n newid ar unwaith. Mewn iaith oedd yn ddigon i sobri rhywun, nododd adroddiad y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd heb flewyn ar dafod fod hwn yn rhybudd difrifol iawn, neu’n ‘code red for humanity’. Rhybuddiodd yr astudiaeth am donnau gwres, sychder a llifogydd cynyddol eithafol, ac y bydd terfyn tymheredd allweddol yn cael ei dorri mewn ychydig dros ddegawd oni bai bod y byd yn gweithredu’n gyflym. Mae amseru’r adroddiad yn cyd-daro â thymheredd uchel ar draws Gwlad Groeg a Chanada a llifogydd digynsail yn Tennessee. Er gwaethaf hyn, yn agosach at adref yng Nghymru, roedd llai na hanner sampl arolwg diweddar a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru yn credu y byddai newid yn yr hinsawdd yn ‘effeithio llawer ar eu hardal’. Er y gallai hyn achosi syndod, roedd 84% o gyfranogwyr yr astudiaeth yn dal i feddwl bod angen i’w bywydau newid ac roedden nhw’n poeni am newid hinsawdd.

Dyddiadau ar gyfer y dyddiadur

Gweddarllediad Platfform yr Amgylchedd Cymru ‘Mewn: cysylltiad’: Diogelwch Tomenni Glo, 20 Medi, 14.00-15.00

Unwaith eto, bydd Platfform yr Amgylchedd Cymru’n dechrau cynnal gweminarau Zoom byw i daflu goleuni ar syniadau newydd gwych yn y gymuned tystiolaeth amgylcheddol. Ar 20 Medi, byddwn yn cynnal gweminar ar broblem gynyddol diogelwch tomenni glo yng Nghymru gyda phanel gwadd bychan. Fe’i cyflwynir gan ein Cyfarwyddwr newydd Andy, bydd cyfle i glywed gan arweinwyr meddwl yn y maes, arbenigwyr diogelwch ac ymchwilwyr – ac wrth gwrs amser i drafod a Holi ac Ateb. Cofrestrwch am y digwyddiad – ac i glywed mwy am gymryd rhan mewn digwyddiad llunio polisi yn y dyfodol ar ddiogelwch tomenni glo.

Ffair Yrfaoedd Rithwir Cymru Gyfan: 14 Hydref (Trwy’r dydd)

Yn dilyn llwyddiant y ffair yrfaoedd prifysgolion ledled Cymru, a welodd holl brifysgolion Cymru (a Phlatfform yr Amgylchedd Cymru) yn uno i gefnogi israddedigion Cymru gyda cham nesaf eu teithiau gyrfa… mae’n ôl unwaith eto! Bydd Ffair Yrfaoedd Rithwir Cymru Gyfan yn cynnal digwyddiad undydd arall ym mis Hydref 2021. Bydd presenoldeb Platfform yr Amgylchedd Cymru unwaith eto yn taflu goleuni ar y cyfleoedd ar gyfer graddedigion yn y gwyddorau amgylcheddol. Byddem ni wrth ein bodd yn clywed gennych os all eich sefydliad neu gwmni gynnig cefnogaeth, cyngor neu siaradwr gwadd cyffrous a bywiog ar gyfer y rhaglen.

Lansiad Cynghrair Hinsawdd GW4, Mercher 20 Hydref, 13.00-15.00

Ymunwch â gwesteion a’r siaradwr gwadd Syr Tim Smit KBE (cyd-sylfaenydd The Eden Project) yn ogystal ag arddangosfa o ymchwil hinsawdd gan bedair prifysgol – Caerfaddon, Bryste, Caerdydd a Chaerwysg. I dderbyn E-wahoddiad, cofrestrwch gyda’r gynghrair ar wefan GW4.

Lleoliadau Hyfforddi Doethurol / Cymrodoriaethau

Fel erioed, mae Platfform Amgylchedd Cymru yn parhau â’i bartneriaeth â Llywodraeth Cymru i ddod â llu o gyfleoedd i chi gyda thimau llunio polisi amrywiol ar draws ei gyfarwyddiaethau, gan arbenigo mewn pynciau o Ansawdd Aer i Wyddoniaeth Filfeddygol. Cadwch olwg ar gyfleoedd byw trwy ein tudalen Hyfforddiant Doethurol a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol i weld y newyddion diweddaraf.

Cyfleoedd byw ar ein safle >

Cyfle am Gymrodoriaeth Llywodraeth Cymru: Addysg (Dyddiad cau: Medi 14 )

Cyfle am Gymrodoriaeth Llywodraeth Cymru: Rhagwelediad (Dyddiad cau: Medi 14)

Cyfle am Gymrodoriaeth Llywodraeth Cymru: Sero Net ac Amaethyddiaeth (Dyddiad cau: Medi 14)

Cyfleoedd, interniaethau a swyddi gwag | Ariannu a grantiau

Swydd Rheolwr Rhaglen Ymgysylltu â’r Cyhoedd Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol ar gael

Rôl contract amser llawn, tymor penodol, nod cyffredinol Rheolwr y Rhaglen Ymgysylltu â’r Cyhoedd yw comisiynu a thrafod cyflwyno gweithgareddau ymgysylltu â’r cyhoedd, gan gynnwys cefnogi ymchwilwyr yn eu hymgysylltiad cyhoeddus, ac adeiladu proffil ymgysylltiad â’r cyhoedd a Chyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol gyda rhanddeiliaid perthnasol, gan gynnwys y rheini yn y gymuned academaidd. Y dyddiad cau yw hanner nos, 12 Medi. Mwy o wybodaeth/gwneud cais.

Cyfoeth Naturiol Cymru – wrthi’n recriwtio!

Mae aelodau Platfform yr Amgylchedd Cymru CNC yn recriwtio ar gyfer nifer o swyddi mewn amrywiaeth o feysydd gan gynnwys carbon, yr amgylchedd, tipio anghyfreithlon, coedwigaeth, grantiau, hydroleg, afonydd, cyfathrebu a chyngor strategol. Gweler yr holl swyddi gwag diweddaraf yma.

Cymdeithas Ecolegol Prydain: Grŵp Polisi Cymru (Amrywiol swyddi gwirfoddol)

Mae Cymdeithas Ecolegol Prydain yn chwilio am aelod craidd, Cadeirydd ac Is-gadeirydd fel rhan o’i grŵp polisi yng Nghymru. Dyma gyfleoedd cyffrous i helpu i gynrychioli ecoleg Cymru a helpu i’w chysylltu â llunio polisïau. Y dyddiad cau yw 5 Medi. Mwy o wybodaeth/gwneud cais.

Cyfle am gyllid (Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol): ‘Gwneud gwyddoniaeth amgylcheddol yn gyfartal, yn amrywiol, ac yn gynhwysol’.

Nod y cyfle hwn yw rhoi hyblygrwydd a hwb i sefydliadau, neu gonsortia sefydliadau (gyda sefydliad arweiniol), i archwilio a gwella cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant o fewn eu disgyblaeth/au amgylcheddol (a chyda chyfranogiad sefydliadol ehangach yn cael ei annog) ac arwain at fwy o amrywiaeth yn y gwyddorau amgylcheddol. Mae hyd at £600,000 ar gael i ariannu hyd at 12 dyfarniad am gyfnod o hyd at 6 mis. Rhaid i’r cynigion fod rhwng £50,000 – £100,000 (100% FEC). Disgwylir i brosiectau llwyddiannus ddechrau erbyn 1 Rhagfyr 2021 fan bellaf a chael eu cwblhau erbyn 31 Mai 2022. Mwy o wybodaeth/gwneud cais.

Cymrodoriaeth ymchwil annibynnol Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol 2021

Dyluniwyd cynllun cymrodoriaeth ymchwil annibynnol Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol i ddatblygu arweinyddiaeth wyddonol ymhlith y gwyddonwyr amgylcheddol gyrfa gynnar mwyaf addawol, trwy roi pum mlynedd o gefnogaeth i bob cymrawd, a fydd yn caniatáu digon o amser iddyn nhw ddatblygu eu rhaglenni ymchwil ac ennill cydnabyddiaeth ryngwladol. Mwy o wybodaeth/gwneud cais.

UKRI Gateway to Research (GtR) – Cymharu’ch syniadau a’ch diddordebau ymchwil chi yn erbyn yr hyn sydd eisoes wedi’i ariannu gan y Cynghorau Ymchwil

Datblygwyd gwefan Gateway to Research (GtR) gan Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI) i alluogi defnyddwyr i chwilio a dadansoddi gwybodaeth am ymchwil a ariennir yn gyhoeddus > https://gtr.ukri.org/

O’r we: pytiau o newyddion am bartneriaid, y bwrdd ac aelodau cysylltiol

Amgueddfa Genedlaethol Cymru: Mae diwylliant yn perthyn i ni i gyd (Phil George, Cadeirydd, Cyngor Celfyddydau Cymru a Roger Lewis, Llywydd, Amgueddfa Cymru)

Tanysgrifiwch i’n diweddariadau newyddion (e-byst Mailchimp)


Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .