Eich helpu i wneud cysylltiadau newydd
Rydym yn darparu cymorth i’n haelodau i ehangu eu rhwydweithiau ac i wneud cysylltiadau newydd. Ein nod yw creu cyfleoedd ar gyfer sefydliadau yng Nghymru i gyflwyno ceisiadau ariannu, ar raddfa fawr, sy’n cwmpasu sefydliadau, sectorau a disgyblaethau gwahanol.
Rydym am gynyddu ymgysylltiad yng Nghymru â Chronfa Blaenoriaethau Strategol UKRI a phrif destunau Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol. Byddwn yn cynnal digwyddiadau pwll tywod ymchwil drwy gydol y flwyddyn er mwyn cefnogi’r broses o ddatblygu syniadau ar gyfer testunau a chynigion y dyfodol mewn ymateb i alwadau penodol. Gallwch ddod o hyd i fanylion pellach am ein digwyddiadau yma.
Os oes gennych syniad ar gyfer digwyddiad pwll tywod ymchwil, byddem wrth ein boddau’n ei drafod â chi er mwyn gweld beth y gallwn ei wneud er mwyn ei roi ar waith.
Cyfleoedd sydd ar y gweill
Cymrodoriaid Penderfyniadau Tirweddau – cyhoeddi cyfle
Bydd yr alwad am gymrodoriaethau gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol fel rhan o raglen Penderfyniadau Tirweddau Cronfa Blaenoriaethau Strategol UKRI yn dod i ben ar 26 Mawrth 2020.
Mae tri math o gymrodoriaeth ar gael, sy’n para hyd at ddwy flynedd:
- Cymrodoriaethau cyfuno ymchwil
- Cymrodoriaethau trosi ymchwil
- Cymrodoriaethau tirweddau ar gyfer cymunedau
Cysylltwch â ni:
- Os oes gennych ddiddordeb mewn datblygu cais am gymrodoriaeth.
- Os ydych am gymorth wrth ddod o hyd i’r cysylltiadau cywir yn Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru neu rywle arall.
- Os ydych am gwrdd ag eraill a rhyngweithio â nhw er mwyn datblygu ceisiadau.