Gwirfoddoli, rhannu, cyflwyno

Gwneud gwahaniaeth: gwirfoddoli

Rydym bob amser yn awyddus i rannu ein platfform gyda gweithwyr proffesiynol a graddedigion yn gynnar yn eu gyrfa sy’n chwilio am y cyfle i ddisgleirio a rhannu eu gwaith gyda chynulleidfa ehangach. P’un a yw’n golygu ymuno â ni fel cofnodwr, cyd-gyflwynydd neu drefnydd gwirfoddol yn ein cynhadledd flynyddol, helpu i redeg un o’n hysgolion haf neu gyflwyno eich poster neu bapur cyntaf – byddem wrth ein bodd yn gweithio gyda chi ac yn eich helpu i feithrin eich sgiliau.

Mae nid yn unig yn hwb gwych i’ch CV, ond yn gyfle gwirioneddol i rwydweithio, cael effaith a sefydlu cysylltiadau o ansawdd uchel â’n cymuned ehangach.

Camu i’r llwyfan: cyfleoedd siarad

Rydym yn cydweithio’n rheolaidd ag academyddion, arbenigwyr a gweithwyr proffesiynol i rannu eu harbenigedd yn ein digwyddiadau byw fel siaradwr, cyflwynydd neu aelod o’r panel. Gydag aelodaeth yn cynrychioli wyth Prifysgol yng Nghymru, JNCC, Cyfoeth Naturiol Cymru ac UKCEH – mae ein cymuned ehangach yn cynrychioli arbenigeddau sy’n gysylltiedig â’r amgylchedd morol a daearol, dŵr croyw, pysgodfeydd, priddoedd, coedwigaeth, ansawdd aer, ecoleg, cadwraeth, datgarboneiddio a mwy.

Ond rydym bob amser yn chwilio am leisiau newydd ac onglau newydd. Cysylltwch â ni os oes gennych lansiad, llyfr neu ddigwyddiad arbennig yr hoffech dynnu sylw ato yn ein cymuned. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Lle i’ch llais: ysgrifennu drosom

Eisiau adrodd eich stori a helpu i fagu cefnogaeth a diddordeb yn eich gwaith? Beth am weithio gyda ni ac ysgrifennu blog neu erthygl wadd sy’n tynnu sylw at eich ymgyrch, maes arbenigedd neu eich ‘galwad i weithredu’? Gyda chynnydd yn niddordeb y cyhoedd yn yr amgylchedd a materion yn ymwneud â’r argyfwng hinsawdd, nid oes amser gwell i adrodd eich stori.

Erbyn hyn, mae sefydliadau academaidd a chymunedau ymchwil yn rhoi sylw i bwysigrwydd gwyddoniaeth dinasyddion ac agweddau cymdeithasol eu hymchwil. Mater i ni i gyd yn awr yw ysbrydoli pobl i gael effaith wirioneddol gyda’r gwaith a wnawn. Felly… beth ydych chi am ei ddweud? Pwy ddylai weithredu a pham?

Cysylltwch â ni

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyrau a’n diweddariadau i fod y cyntaf i wybod pryd mae’r cyfleoedd hyn yn mynd yn fyw neu cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r ffurflen isod i gofrestru eich diddordeb mewn ardal benodol, fel y gallwn gysylltu â chi pan fydd angen siaradwyr a gwirfoddolwyr arnom mewn digwyddiadau sydd i ddod.


Comments are closed.