Platfform Amgylchedd Cymru yn Ffair Yrfaoedd Cymru Gyfan 2021

Awydd gyrfa a all helpu i achub y blaned?

Cyfarfod â ni yn Ffair Yrfaoedd Cymru Gyfan i drafod gyrfaoedd gwyrdd mewn ymchwil, polisi a thystiolaeth.

Dydd Iau 14 Hydref 2021, 10yb-3yp

Unwaith eto, bydd Platfform Amgylchedd Cymru yn partneru gyda holl Brifysgolion Cymru a llu o sefydliadau sector preifat a chyhoeddus eraill yn Ffair Yrfaoedd Cymru 2021. Wedi’i gynnal ar y cyd â GTI a Target Connect, mae’n gyfle i raddedigion a myfyrwyr Cymru gwrdd â chyflogwyr , derbyn cyngor a syniadau sy’n hybu llwybrau gyrfaoedd newydd a cyfleoedd annisgwyl posib yn y maes ymchwil, tystiolaeth a pholisi.

Erbyn 2025, bydd Gen z yn cynrychioli 27% o’r gweithlu

Cylchgrawn Forbes

Wrth i Gen Z bwyso tuag at yrfaoedd gydag ystyr ac effaith, gallai rolau yn y sector amgylchedd a chynaliadwyedd fod yn addas iawn i’r rhai sy’n ceisio alinio eu bywydau gwaith â’u gwerthoedd a’u safonau moesegol eu hunain.

Yn y ffair yrfaoedd ar-lein, byddwn yn gwahodd graddedigion i gwrdd â ni i siarad am yrfaoedd a hyfforddiant sydd ar gael i’r rhai sy’n chwilfrydig am y mathau o rolau mewn gwyddor yr amgylchedd, ymchwil a llunio polisïau. Byddwn hefyd yn cynnig cyngor ar ddilyn astudiaeth bellach, p’un a yw hynny’n gymhwyster Meistr, PhD neu cymhwyster broffesiynol sy’n ofynnol ar gyfer meysydd astudio penodol.

Dywed Cyfarwyddwr Platfform Amgylchedd Cymru, Andy Schofield:

“Mae’n amser gwych i ystyried gyrfa sy’n helpu i lunio’r polisïau sy’n llywodraethu ein bywydau bob dydd. Wrth i ni baratoi ar gyfer COP 26, ni fu erioed amser mwy hanfodol i ddenu pobl angerddol i’r proffesiynau gan helpu i edrych ar ôl ein planed, p’un a yw hynny mewn gallu ymchwil a chasglu tystiolaeth neu ar gyfer cwmnïau sy’n amddiffyn ac yn eiriol dros yr amgylchedd. Mae llawer o’r ymchwilwyr a’r sefydliadau rydyn ni’n gweithio gyda nhw yn dod o gefndir actifydd ac wedi mireinio’u gyrfaoedd i ategu eu credoau, sydd fel y gwyddom yn ystyriaeth allweddol i Gen Z. Rydyn ni’n falch iawn o chwifio’r faner am y gyfleoedd gwych yma yng Nghymru gyda sefydliadau partner fel Llywodraeth Cymru, Adnoddau Naturiol Cymru yn ogystal ag ymgynghoriaethau a busnesau sydd â diddordebau breintiedig mewn amddiffyn ein hamgylchedd Cymreig anhygoel. ”

Dewch i ddweud shw-mae – cwrdd a ni yn y ffair (Cofrestwrch yma)


Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .