Cystadleuaeth ffotograffiaeth 2020

Ucheldiroedd Cymru: ddoe, heddiw ac yfory

Mae Platfform yr Amgylchedd Cymru yn dathlu ucheldiroedd Cymru gyda delweddau sy’n darlunio pobl, lleoedd a natur. Wrth arwain at ein cynhadledd yn 2020: ‘Cydnerthedd Ucheldiroedd Cymru – Safbwynt Tystiolaeth’ rydyn ni’n cydweithio gyda phrosiect Cymru Fyw i arddangos y tirweddau pwysig hyn a’r bobl sy’n byw ynddyn nhw.

Mae dros 80% o dirwedd Cymru yn ucheldir. Rydyn ni’n annog ffotograffwyr a phobl sy’n frwd dros dynnu lluniau i ddefnyddio eu mannau ffafriol unigryw i ddal hanfod ucheldiroedd Cymru.

Os hoffech gymryd rhan, cyflwynwch ddelwedd rydych chi’n teimlo sy’n cynrychioli un neu ragor o’r categorïau canlynol. Bydd enillydd pob categori yn derbyn £100 o dalebau Amazon i’w gwario neu eu rhoi fel y dymunan nhw. 

Pobl

Pwy yw’r bobl sy’n byw yn yr ucheldiroedd? Dangoswch eu personoliaeth a’u cymeriad – anogir portreadau a siots prysur, yn ogystal â lluniau o nifer o bobl a delweddau o unigolion. 

Tirwedd

Zip World Fforest / Treetops Adventure Betws y Coed North Wales

Dangoswch y tymhorau, ansoddau, lliwiau a golygfeydd sy’n darlunio bywyd yn yr ucheldiroedd. Pa olygfeydd ydych chi’n eu gweld ar eich ffordd i’r gwaith neu o ffenest eich ystafell wely?

Bywyd Gwyllt a Da Byw 

Pa anifeiliaid a bywyd gwyllt allwch chi eu gweld yn yr ucheldiroedd? Sut mae’r dirwedd hon yn eu cynnal? Pa rôl maen nhw’n chwarae mewn ffermio ac yn y cymunedau lleol?

O Dan 18

Sut beth yw bod yn berson yn eich arddegau yn yr ucheldiroedd? Sut ydych chi’n cymdeithasu, dysgu a chyfathrebu gydag eraill yn yr ucheldiroedd? Beth rydych chi’n rhagweld fydd eich dyfodol?

O Dan 12

Sut beth yw bod yn blentyn yn yr ucheldiroedd? Beth yw eich hoff beth am fyw ble rydych chi’n byw? Beth ydych chi eisiau bod/ei weld ar ôl tyfu i fyny?

Eich llais chi

Fe’ch anogir hefyd i gyflwyno delweddau o’r gorffennol rydych chi’n teimlo sy’n creu darlun o’r dirwedd ac yn llunio ei hanes cymdeithasol ac amgylcheddol. Mae croeso i chi gyflwyno cyfres o dair delwedd o dan un categori os ydych chi’n teimlo bod hyn yn darlunio ‘ddoe, heddiw ac yfory’ yn well. Os ydych chi’n byw, gweithio neu astudio yn ucheldiroedd Cymru, rydym yn awyddus i chi rannu eich stori.

CANLLAWIAU / TELERAU AC AMODAU

SUT I GYSTADLU

Peidiwch ag e-bostio na phostio eich delweddau, os gwelwch yn dda. Dylid cyflwyno delweddau yn ddigidol yn unig, gan ddefnyddio rhaglenni neu feddalwedd rhannu delweddau mewn ffeiliau mawr, er enghraifft – Google Drive, We Transfer, Send Big File, a.y.y.b. Anfonwch eich cynigion at info@epwales.org.uk. Sicrhewch fod eich ENW LLAWN, cyfeiriad a chyfeiriad e-bost yn y nodyn/neges esboniadol yn ogystal ag ym mha gategori rydych chi’n cyflwyno’r ymgais. Er y caniateir golygu ‘ysgafn’, nid ydym yn annog triniaeth / ffilteri digidol trwm na delweddau sydd wedi cael eu trin yn graffig ac ni chaiff y rhain eu dewis ar gyfer ein harddangosfa.

BLE FYDD Y LLUNIAU YN CAEL EI ARDDANGOS?

Cyn cyhoeddi’r enillwyr, byddem yn cysylltu gyda chi dros e-bost a threfnu sut i anfon eich gwobr. Byddem wedyn yn cyflwyno’r enillwyr terfynol ar ein sianeli marchnata a chyfryngau cymdeithasol. Drwy ymgeisio yn y gystadleuaeth, rydych chi’n caniatáu inni ddefnyddio eich delweddau fel rhan o’r marchnata o gwmpas y digwyddiad Tystiolaeth Amgylcheddol 2020 ar ein safle, sianeli cyfryngau cymdeithasol a deunydd wasg.

COVID-19 & DIOGELWCH YR UCHELDIR

Dylech nodi, yn unol â Chyngor y Llywodraeth, NA DDYLECH DEITHIO I ARDALOEDD YR UCHELDIR I DYNNU LLUNIAU. Rydym yn annog pobl sydd eisoes yn byw yn yr ucheldiroedd i ystyried tynnu lluniau wrth ymarfer corff / mynd am dro yn ystod y dydd neu gyflwyno ffotograffiaeth a dynnwyd cyn cychwynnodd y cyfnod caethiwo (‘lockdown’). Caniateir tynnu lluniau ar ymweliadau blaenorol ag ardaloedd ucheldir hefyd.

DYDDIAD CAU CYSTADLEUAETH

Oherwydd y sefyllfa bresennol, rydym wedi llacio’r dyddiad cau gwreiddiol i alluogi mwy o bobl ar draws yr ucheldiroedd ac yn ein rhwydweithiau prifysgol i gymryd rhan. Ein nod yw cyhoeddi oriel o’r rhai sy’n cyrraedd y rownd derfynol ddiwedd mis Mai/dechrau Mehefin, yn dibynnu ar lefel y ceisiadau a dderbyniwn. Rydym wedi derbyn delweddau hardd iawn hyd yn hyn – felly os nad ydych eisoes wedi, edrychwch ar eich archifau a’ch casgliad ar eich ffôn i gymryd rhan!


Am ragor o wybodaeth neu i ofyn cwestiynau, cysylltwch â gemma.TF@epwales.org.uk  

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .