AR GAEL – ARIAN YMCHWIL BIOAMRYWIAETH AC ECOSYSTEMAU

Hoffech chi wneud gwaith ymchwil er mwyn rhoi hwb i fioamrywiaeth ac ecosystemau iach yma yng Nghymru?


Mae Rhaglen Anghenion Tystiolaeth ac Ymchwil Bioamrywiaeth ac Ecosystemau (BEERN) yn croesawu ceisiadau ar gyfer prosiectau ymchwil bach a fydd yn cefnogi ein dealltwriaeth, ein tystiolaeth, a’n gwaith o fonitro bioamrywiaeth ac ecosystemau’r genedl.

Mae arian ar gael er mwyn helpu myfyrwyr i gynnal ymchwil ar gydnerthedd bioamrywiaeth ac ecosystemau sy’n bodloni gofynion Cynllun Adfer Natur Cymru – ein strategaeth fioamrywiaeth sy’n ceisio mynd i’r afael â’r hyn sydd wrth wraidd colli bioamrywiaeth.

Mae hyd at £1000 o arian prosiect BEERN ar gael i bob cais, tuag at gostau prosiect ymchwil penodol a gynhelir gan fyfyrwyr israddedig, meistr ac ôl-raddedig.  O ganlyniad i’r cyfyngiadau ar waith maes oherwydd y pandemig COVID-19, rydym yn disgwyl ffocws gwahanol ar geisiadau eleni. Rydym yn disgwyl y bydd ffocws ar ddadansoddi/cloddio setiau data cyfredol neu fetaddadansoddi data, ac efallai y bydd ceisiadau am gyllid ar gyfer meddalwedd, prynu haenau system gwybodaeth ddaearyddol, gwelliannau digidol ac ati.

I wneud cais, ewch ati i lenwi ac e-bostio’r ffurflen gais atodedig erbyn 30 Mehefin am 5pm.

Gweler y daflen atodedig am ragor o fanylion a sut i ymgeisio.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .