Cyhoeddi cyfle: Galwad gan Lywodraeth Cymru am aelodau i ymuno â’r Panel Cynghori ar Aer Glân.

Yn dilyn cyhoeddi’r ddogfen ddrafft Rhaglen Aer Glân i Gymru, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu penodi Panel Cynghori ar Aer Glân i ddarparu cyngor ar faterion ansawdd aer yng Nghymru.  Bydd cyngor y Panel yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu polisi a deddfwriaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth i wella ansawdd aer er lles iechyd dynol a’r amgylchedd naturiol.

Bydd y Panel Cynghori ar Aer Glân yn dod â grŵp amlddisgyblaethol o lunwyr polisi, ymchwilwyr ac ymarferwyr ansawdd aer ac iechyd cyhoeddus at ei gilydd. Bydd yn;

  • Darparu cyngor gwyddonol annibynnol i gefnogi datblygiad polisi aer glân Llywodraeth Cymru
  • Cefnogi’r broses o sefydlu targedau ar gyfer lleihau allyriadau llygryddion aer.
  • Cydweithio ag adrannau perthnasol o’r Llywodraeth a grwpiau cynghori eraill ar lefel y DU, Cymru a lleol.
  • Annog a manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i gael atebion arloesol sy’n helpu i wella lefelau llygredd yn yr awyr.
  • Cynghori Llywodraeth Cymru ar anghenion tystiolaeth y dyfodol a sut y gellir eu diwallu.

Bydd y panel yn cyfarfod yn chwarterol yn Neuadd y ddinas, Caerdydd a bydd cyfarfodydd arbennig ychwanegol fel y bo angen. Bydd yn ofynnol i aelodau’r Panel wneud y canlynol;

  • Mynychu cyfarfodydd
  • Adolygu a rhoi sylwadau ar bapurau neu adroddiadau perthnasol
  • Ymgymryd ag adolygiadau a gwaith ar y cyd fel y bo angen er mwyn hwyluso’r gwaith o wneud penderfyniadau yn brydlon.

Gwahoddir datganiadau o ddiddordeb gan arbenigwyr ym meysydd;

  • ansawdd aer (monitro, modelu neu bolisi)
  • asesu iechyd cyhoeddus neu iechyd amgylcheddol o ran ansawdd aer
  • rheoleiddio diwydiannol
  • polisi trafnidiaeth neu gynllunio.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth. Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion beth bynnag yw eu hoedran, statws priodasol (gan gynnwys priodas gyfartal a phriodas o’r un rhyw) a phartneriaeth sifil, cyfeiriadedd rhywiol, rhywedd, hunaniaeth o ran rhywedd, anabledd, hil, crefydd neu gred neu feichiogrwydd a mamolaeth.

Mae rhagor o fanylion a chylch gorchwyl cyflawn ar gael yma

Ar hyn o bryd, bwriedir cynnal cyfarfod cyntaf y Panel ar 3 Mawrth 2020 yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd. Nodwch isod a allwch fynychu’r cyfarfod hwn ai peidio. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno mynegiant o ddiddordeb yw hanner nos, dydd Iau 20fed Chwefror. Byddwn yn hysbysu pob ymgeisydd o’r canlyniad erbyn dydd Mercher 26 Chwefror 2020.

Nid yw’n ofynnol mynychu’r cyfarfod cyntaf er mwyn dod yn aelod o’r Panel.

Please select a valid form

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .