Ar Gael – arian ymchwil bioamrywiaeth ac ecosystemau

Hoffech chi wneud gwaith ymchwil er mwyn rhoi hwb i fioamrywiaeth ac ecosystemau iach yma yng Nghymru?

Mae Rhaglen Anghenion Tystiolaeth ac Ymchwil Bioamrywiaeth ac Ecosystemau (BEERN) yn croesawu ceisiadau ar gyfer prosiectau ymchwil bach a fydd yn cefnogi ein dealltwriaeth, ein tystiolaeth, a’n gwaith o fonitro bioamrywiaeth ac ecosystemau’r genedl.

Mae arian ar gael er mwyn helpu myfyrwyr i gynnal ymchwil ar gydnerthedd bioamrywiaeth ac ecosystemau sy’n bodloni gofynion Cynllun Adfer Natur Cymru – ein strategaeth fioamrywiaeth sy’n ceisio mynd i’r afael â’r hyn sydd wrth wraidd colli bioamrywiaeth.

Mae hyd at £1000 o arian prosiect BEERN ar gael i bob cais, tuag at gostau prosiect ymchwil penodol a gynhelir gan fyfyrwyr israddedig, meistr ac ôl-raddedig.  Gall prosiectau amrywio o ran cynnwys, a gallant gynnwys ymchwil gwaith maes neu waith desg, arolygon a gweithgareddau gwyddoniaeth dinasyddion. Gall costau gynnwys cyfarpar, defnyddiau traul, costau teithio a chynhaliaeth ar gyfer gwaith maes hanfodol.

I wneud cais, ewch ati i lenwi ac e-bostio’r ffurflen gais atodedig erbyn 31 Gorffennaf am 5pm.

Gweler y daflen atodedig am ragor o fanylion a sut i ymgeisio.

Comments are closed.