Cynghorydd Arbenigol Data Ecolegol

https://naturalresources.wales/about-us/jobs-and-placements/jobs/201411-ecology-data-specialist/?lang=cy

Dyddiad Cau: 11 Ebrill 2023 | Cyflog: £37,308 – £40,806 (Gradd 6) | LleoliadHyblyg

Math o gontract: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos. 

Rhif swydd: 201411

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae’r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cyfuniad o weithio gartref ac yn y swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy’n addas i chi pan fyddwch yn cael eich penodi, os ydych yn llwyddiannus.

Byddwch yn cael eich contractio i’r swyddfa CNC agosaf i’ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda’ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

Disgrifiad o’r swydd

Rydym yn chwilio am rywun i reoli’r data a gasglwn ar gyfer gwaith ecolegol yn CNC. Yn y rôl arbenigol dechnegol hon, byddwch yn rheoli ac yn datblygu’r gwaith o weinyddu data monitro ac arolygu bioamrywiaeth daearol a morol a data ffisegol cysylltiedig. Bydd hyn yn cynnwys arwain ar ddefnyddio a datblygu data ecolegol a storfeydd data CNC, cynghori ar safonau data, a gweithio gyda’n partneriaid i wella llif data.  

Er enghraifft, o ddydd i ddydd efallai y byddwch yn:

  • cynghori ar ddatblygu storfeydd data a chronfeydd data newydd
  • siarad â staff mewn adrannau eraill am ddata y mae angen ei gatalogio a’i archifo’n gywir
  • datblygu safonau data a rhoi cyngor ar weithredu
  • nodi mecanwaith ar gyfer trin cofnodion rhywogaethau a gyflwynir i CNC gan eraill
  • cysylltu â cheidwaid data eraill ar draws CNC i gefnogi’r broses o ddatblygu strategaethau data ehangach

Bydd angen gwybodaeth dechnegol arbenigol arnoch sy’n ymwneud â monitro ecoleg a data bioamrywiaeth. Yn ogystal â’r sgiliau hyn bydd angen i chi roi sylw i fanylion a mwynhau cydweithio ag eraill.

Byddwch wedi’ch lleoli yn y Tîm Ecosystemau a Rhywogaethau Daearol, sef tîm o arbenigwyr ar gynefinoedd a rhywogaethau yn y Gyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu. Ond byddwch yn gweithio ar draws CNC, gan gydweithio â chydweithwyr morol a monitro, yn ogystal â’r rhai sy’n gweithio ar reoli data ecolegol, polisïau a gweithdrefnau rheoli data a systemau TGCh. Byddwch hefyd yn gweithio gyda phartneriaid allanol ar ddatblygu a rheoli systemau data fel Marine Recorder.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i’r person sydd â’r sgiliau cywir i helpu CNC i gael y gorau o’n data, drwy arwain a chefnogi’r gwaith o reoli data ecoleg ar draws CNC.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .