Dewch o hyd i’ch Dyfodol

Darganfodwch eich Dyfodol mewn Gyrfa Amgylcheddol

Dyddiad: Dydd Iau, 9 Mawrth 2023

Amser: 17:30 – 19.00

Trefn:  Ar-lein  drwy Zoom

Mae’r digwyddiad yn agored iI’r holl staff a fyfyrwyr sy’n mynychu, neu sydd wedi graddio o, unrhyw un o brifysgolion Cymru – Archebwch eich lle yma

Mae’r digwyddiad wedi’i gynllunio i hysbysu ac ysbrydoli myfyrwyr a graddedigion, ledled Cymru, sy’n gobeithio ymgorffori’r amgylchedd a chynaliadwyedd yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Bydd y digwyddiad yn arddangos sut mae sefydliadau’n mynd i’r afael â materion amgylcheddol allweddol a mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Bydd gyflogwyr graddedig, cynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd a gweithwyr proffesiynol ar ddechrau eu gyrfa sy’n gweithio yn y sector amgylcheddol yn rhannu eu harbenigedd a’u dealltwriaeth o sut i lywio cyfleoedd gyrfa yn y sector hwn ac archwilio rhai o’r heriau a’r cyfleoedd yn eu diwydiannau.

Bydd pob siaradwr yn cyflwyno eu hunain, yn amlinellu taith eu gyrfa ac arddangos ymchwil a/neu brosiectau byw sy’n adlewyrchu’r gwaith y maent yn eu gwneud sydd wedi arwain at effeithiau cadarnhaol ar yr amgylchedd. Bydd y panel hefyd yn ateb cwestiynau gan y Cadeirydd a’r gynulleidfa, a fydd yn cynnig cyfle i drafod rhai o’r pynciau llosg a thrafod beth sydd ei angen i lwyddo yn y llwybr gyrfaol hwn. 

Cynhelir y digwyddiad hwn gan Andy Schofield, Platfform Amgylchedd Cymru

Siaradwyr:

Richard Cardwell, Rheolwr Tystiolaeth Integredig, Cyfoeth Naturiol Cymru

Tamzin Wood, Cyfarwyddwr Cyswllt / Arweinydd Tîm, RSK

Jean-Francois Dulong, Swyddog Llifogydd a Dŵr, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Dr Tyra Oseng-Rees, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr, Oseng-Rees Reflection Ltd

Natalie Rees, Pennaeth Datblygu Cynaliadwy a Newid Hinsawdd, Trafnidiaeth Cymru

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .