Beth sy’n Newydd? | Newyddion Mehefin 2020

Cynhadledd Cydnerthedd Ucheldiroedd 2020 – yn digwydd ar-lein!

Tystiolaeth yr Amgylchedd 2020: Rhaglen Wedi’i Chyhoeddi!  

Amdani! Rydym bellach wedi cyhoeddi’r rhaglen ar gyfer ein cynhadledd ar-lein ym mis Medi – ac rydym yn hapus iawn  i fod yn gweithio mewn partneriaeth â’r tîm ardderchog yn WHOVA i ddarparu profiad cynhadledd diogel a rhyngweithiol i chi. Gyda Whova, byddwn yn gallu ffrydio ein prif areithiau, cynnal grwpiau ar wahân, cael rhith-seibiannau paned a sgyrsiau byr, arddangos a ffrydio cyflwyniadau poster yn ôl y gofyn a chynnal rhith-ffyrdd o gyfarfod a chael mynediad at ein noddwyr. Gall cynrychiolwyr lawrlwytho’r ap i gael y profiad cofleidiol cyflawn neu gael gafael arno trwy gyfrifiadur bwrdd gwaith. Cymerwch olwg ar y rhaglen a chofrestrwch nawr drwy ein gwefan. 

Tystiolaeth yr Amgylchedd 2020: dolenni Rhaglen / Cofrestru


Noddwr Newydd i’r Gynhadledd – Hybu Cig Cymru  

Mae’r Cynllun Hyrddod Mynydd yn rhan o’r Rhaglen Datblygu Cig Coch a ariennir trwy Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Rydym yn falch dros ben o allu cyhoeddi bod gennym ni ein noddwr cyntaf ar gyfer ein cynhadledd ym mis Medi, sy’n ein cynorthwyo i ddarparu ein profiad cynhadledd ar-lein. Bydd Hybu Cig Cymru yn gweithio gyda ni yn ystod y cyfnod yn arwain at y gynhadledd ac yn westeion yn un o’n gweminarau ‘In:Conversation’ sydd ar fin cael eu cynnal. 

Meddai Hybu Cig Cymru am eu rhan yng nghynhadledd ‘Cydnerthedd yn yr Ucheldiroedd’ Tystiolaeth yr Amgylchedd 2020:  

“Un o’r agweddau canolog ar genhadaeth HCC yw gweithio ochr yn ochr â phartneriaid i sicrhau bod y sector cig coch yng Nghymru yn barod ar gyfer dyfodol sy’n gynaliadwy – yn amgylcheddol, yn economaidd ac yn ddiwylliannol. Mae cynhyrchu cig oen, cig eidion a phorc o ansawdd wedi bod yn gonglfaen i economi Cymru, a gall y ffordd yr ydym ni’n gwneud hynny – gyda llai o fewnbynnau artiffisial a systemau llai dwys na llawer o amgylch y byd – fod yn fodel i eraill. Ond mae angen i bob sector chwarae rhan i gyrraedd nodau cymdeithas o ran yr amgylchedd. 

“Mae HCC yn arwain y gwaith ar ‘Fap Ffordd Cynaliadwyedd’ uchelgeisiol i lywio ein cyfeiriad yn y dyfodol. Mae gennym brosiectau ar y gweill hefyd fel rhan o’r Rhaglen Datblygu Cig Coch a ariennir gan yr UE a Llywodraeth Cymru, fel y Cynllun Hyrddod Mynydd sy’n cynorthwyo ffermwyr mynydd i ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i wella proffidioldeb a chynaliadwyedd eu busnesau.”


Cyhoeddi Enillwyr Cystadleuaeth Ffotograffiaeth Ucheldiroedd Cymru

Rob Millar – ennillydd y categori ‘Tirwedd’

Diolch i gyfranogiad ein dilynwyr ar-lein a’r rheiny yn ein rhwydweithiau, derbyniwyd 95 o geisiadau ar gyfer ein cystadleuaeth ffotograffiaeth ‘Ucheldiroedd Cymru – y gorffennol, y presennol a’r dyfodol’ a chyhoeddwyd enillwyr y categorïau terfynol yn ddiweddar. 

Cynhaliwyd y gystadleuaeth ar adeg arbennig o deimladwy – yn anterth y cyfyngiadau symud. Derbyniwyd ceisiadau o odre Aberystwyth, pentrefi yn Eryri a threfi’r Cymoedd. Roedd y ceisiadau i gyd yn adrodd hanesion unigryw am fywyd a chymunedau’r ucheldir, o lwybrau troed Rhufeinig ac adeiladau diwydiannol adfeiliedig i dirweddau gwyllt a harddwch natur a bywyd gwyllt. Roedd Robert Millar, Seren Friel, Brad Carr, Dr Emyr Roberts, Jon Moorby a Tamás Kolossa ymhlith yr enillwyr.

Myfyriwr Blwyddyn 12 yn Ysgol Gyfun Cwm Rhondda yw Seren Friel, yr oedd ei phortread ‘teuluol’ du a gwyn a dynnwyd yn Llanwynno yn adrodd hanes gwydnwch a chysylltiad teuluol ar adeg pan mae myfyrwyr Blwyddyn 6 a Blwyddyn 12 wedi methu’r ‘defodau newid byd’ traddodiadol sy’n gysylltiedig â gadael eu hysgolion am fywyd newydd. 

Treuliodd y ffotograffydd brwd, Bradley Carr, 7 wythnos yn dilyn alarches a’i hwyau ar lannau Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog, ychydig filltiroedd y tu allan i’r Trallwng. Wrth fynd am dro yn feunyddiol yn ystod y cyfyngiadau symud, llwyddodd i ddal ‘gorffennol, presennol a dyfodol’ un o wyrthiau bob dydd mwyaf cyffredin bywyd: elyrch yn dodwy wyau, genedigaeth y cywion elyrch ac yna’r elyrch bach yn mentro i’r dŵr am y tro cyntaf. 

Tynnodd enillydd y categori ‘Tirwedd’, Robert Millar, gyfres o luniau yn Nyffryn Ogwen cyn y cyfyngiadau symud – yn ystod cyfnod oer ym mis Chwefror 2019. Mae ei lun pen mynydd yn dangos llonyddwch tawel y llwybr llaethog uwchlaw copâu dyffryn Ogwen – pan oedd y tymheredd yn -14 gradd oer iawn ar ben y mynydd! 

Mae llun buddugol Dr Emyr Roberts o ‘Owie Bryn Eithin’ yn crisialu ysbryd a gwydnwch cenedlaethau hŷn yn gofalu am y tir, ‘yr hen a’r newydd’ o ran technoleg symudol a’r heriau sy’n wynebu amaethyddiaeth yng Nghymru yn y dyfodol. 

Mae llun enillydd y categori ‘Cymeradwyaeth uchel’, Jon Moorby, o alpacaod yn codi cwestiwn am ddefnydd tir posibl yng Nghymru yn y dyfodol, tra bod llun ‘North Wales Glow’ Tamás Kolossa yn dangos gwead, lliwiau a bryniau hardd tirweddau Cymru. 

Gweler y categorïau buddugol a rhai o’n hoff luniau ar ein tudalen newyddion ac yn y fideo isod…

Detholiad o enillwyr y gystadleuaeth ffotograffiaeth a’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol

Lleisiau’r Ucheldir – rhannu straeon cymunedau ucheldiroedd Cymru

Llun gan Seren Friel

Efallai bod y bryniau a’r mynyddoedd yma yn llawn myth a chwedlau, ond y tu hwnt i brysurdeb dinasoedd a threfi mwyaf Cymru, mae cymunedau’r ucheldioedd weithiau’n cael eu hanwybyddu mewn diwylliant poblogaidd ehangach. 

Fel rhan o’n cynhadledd yn 2020, ‘Cydnerthedd Ucheldiroedd Cymru’ rydym yn chwilio am gyfraniadau fideo gan unigolion, teuluoedd a grwpiau sy’n cynnwys cân arbennig, darlleniad o stori, darn o farddoniaeth neu hyd yn oed rysáit i’w rhannu, sy’n crisialu hanes lleol yr ucheldiroedd. 

Hoffem yn fawr gasglu straeon a chyfraniadau ledled Cymru yn barod ar gyfer cynhadledd mis Medi. Darganfyddwch fwy am sut y gallwch chi gymryd rhan.


Cyfleoedd a Digwyddiadau

Gweminar Fyw ‘In:Conversation’ Platfform yr Amgylchedd Cymru, 11.30am, ddydd Mawrth 7 Gorffennaf : Pwysau a pheryglon – Ecosystemau a bioamrywiaeth yn ucheldiroedd Cymru.  

Ymunwch â ni ar gyfer Pennod 2 gyda’r Athro Bridget Emmett (Pennaeth Maes Gwyddoniaeth y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg – Priddoedd a Defnydd Tir), Dr Paul Sinnandurai FCIEEM (Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog) a Tom Jenkins (Ymchwil Coedwigaeth). Ymunwch â’n cyflwynydd Jennifer Geroni a’r gwesteion gwâdd, a fydd yn ymchwilio i broblemau sy’n arwain at leihau bioamrywiaeth yn ein hucheldiroedd a’r hyn y gallwn ni ei wneud i fynd i’r afael â nhw.

Cyfleoedd Ariannu Ymchwil COVID-19

Mae hwn yn gyfnod anodd iawn i bawb a gall fod yn arbennig o anodd os yw eich gwaith ymchwil wedi cael ei ohirio neu os yw dyfodol eich cyllid yn ansicr bellach.

Mae UKRI ac arianwyr eraill yn ailgyfeirio eu hymdrechion at fesurau i leihau effaith y feirws ar iechyd, yr amgylchedd a’r economi. Os ydych chi’n chwilio am ffyrdd o wneud cyfraniad cadarnhaol trwy syniad newydd neu addasu cyllid prosiect presennol at wahanol ddibenion, mae amrywiaeth o gyfleoedd ar gael.

Cewch wybodaeth am amrywiaeth o gyfleoedd yma yn ogystal â’r Alwad ddiweddaraf am Syniadau Pwnc Blaenllaw gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol yma.

Gweithdy ar yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol – Penodau terfynol SoNaRR2020 (Ar-lein) 

Bydd SoNaRR2020 yn darparu’r sylfaen dystiolaeth ac yn asesu i ba raddau y mae rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy (SMNR) yn cael ei gyflawni (gan gynnwys ein hasesiad o fioamrywiaeth). Bydd yr adroddiad yn nodi heriau a chyfleoedd o ran rheoli adnoddau naturiol, ynghyd â bylchau yn yr wybodaeth sydd ei hangen i wneud hyn. Gan ddilyn ymlaen o’r ymgysylltu blaenorol, rydym yn awyddus i’n rhanddeiliaid helpu gyda’r casgliadau terfynol

Mwy o wybodaeth am weithdy ar-lein Cyfoeth Naturiol Cymru yn ogystal â’u galwad am adolygwyr gwirfoddol.


 

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .