Lleisiau’r ucheldiroedd – rhannu straeon cymunedau’r ucheldiroedd yng Nghymru

Lleisiau’r Ucheldiroedd


Mae mwy na 80% o Gymru yn cael ei hystyried yn ardal ucheldirol.

Mae bryniau a mynyddoedd Cymru’n llawn chwedlau, ond y tu hwnt i gyffro dinasoedd y trefi mwyaf Cymru – mae cymunedau’r ucheldiroedd yn cael eu hanwybyddu weithiau mewn diwylliant poblogaidd ehangach.

Fel rhan o’n cynhadledd 2020 ‘Cydnerthedd ucheldiroedd Cymru’, rydym yn chwilio am gyfraniadau fideo gan unigolion, teuluoedd a grwpiau gyda chân arbennig, darlleniad o stori, cerdd neu hyd yn oed rysáit i’w rhannu, yn amlygu hanes lleol yr ucheldiroedd. Rydym hefyd yn edrych am flogiau, traethodau a newyddion oddi wrth grwpiau a sefydliadau yn yr ucheldiroedd.

Y tu hwnt i gynadleddau academaidd ac ymchwil wyddonol fanwl, mae gennym ddiddordeb mewn gwyddorau cymdeithasol hefyd – yn benodol, sut mae ein hamgylchoedd yn helpu i lunio profiadau byw pobl o fewn ardal ddaearyddol. 

Delwedd: diolch i garedigrwydd Seren Friel

Y straeon a chwedlau lleol rydym yn eu rhannu o genhedlaeth i genhedlaeth, y cymeriadau lleol sy’n pupryn ein hatgofion a’r caneuon a’r cerddi sy’n helpu i adrodd hanes ein tirluniau, tafodieithoedd lleol a hanesion cymdeithasol o’r gorffennol a’r presennol. Mae’r holl bethau hyn yn cyfoethogi ein profiadau.

Oes gennych chi blog, newyddion, traethawd, stori neu fideo y hoffech ei  rannu? Anfonwch ddolen i ni o’r fideo ar-lein (neu os nad yw’n  fideo ar-lein, anfonwch glip drwy safle rhannu ffeiliau fel Google Drive/Wetransfer) i info@epwales.org.uk.

Gallwch hefyd tagio ni ar gyfryngau cymdeithasol drwy’r dulliau canlynol:

Twitter @ep_wales

Instagram @epwales


Lleisiau’r ucheldiroedd – canllaw

  • Gwnewch yn siŵr nad yw’r fideo dros 2 funud o hyd
  • Cyflwynwch eich hun ac o ble rydych chi’n  dod (e.e. Helô Jim o Ferndale yn y Rhondda, fan hyn …) 
  • Cyflwynwch eich cân/cerdd/stori (os yw wedi ‘i  hysgrifennu gan rywun arall, peidiwch ag anghofio eu canmol)
  • Troi eich ffôn ar yr ochr a saethu eich fideo yn y modd tirlun (nid arddull portread)
  • Byddwn yn llunio montage ‘Straeon yr Ucheldiroedd’ i’w rhannu gydag ymchwilwyr, noddwyr a chynrychiolwyr yn ein cynhadledd ar-lein a thrwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol. Cofiwch, drwy gymryd rhan yn ein hymgyrch ‘Lleisiau’r Ucheldir’, rydych yn cytuno i ni gynnwys eich fideo.
  • Byddem yn hoff iawn gweld cyfraniadau gan neiniau a theidiau a pherthnasau oedrannus (straeon doniol, Cyngor, ryseitiau, cerddi neu ganeuon)

Delweddau trwy garedigrwydd Dr Emyr Roberts a Seren Friel. Gweld mwy o waith ein cychwynwyr cystadleuaeth ffotograffiaeth yr ucheldir ac enillwyr ar y dudalen ‘Cystadleuaeth Ffotograffiaeth  2020’.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .