Tystiolaeth Amgylchedd 2020: galw am ‘Rapporteurs’ (ysgrifenyddion)

desk

Adeiladu eich brand, derbyn cydnabyddiaeth…a thocynnau cynhadledd am ddim!

Mae’r trefnwyr y tu ôl i ‘Tystiolaeth Amgylchedd 2020 ‘ (Cydnerthedd Ucheldiroedd Cymru – Safbwynt Tystiolaeth) yn chwilio am fyfyrwyr ac ymchwilwyr sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli fel ‘rapporteurs’ (ysgrifenyddion) ar gyfer y gynhadledd a gynhelir ar 14-18 Medi.

Dyma’r ail gynhadledd flynyddol gan Blatfform Amgylchedd Cymru ac mae’r digwyddiad yn cael ei chynnal ar-lein gyda chymorth ap cynadledda rhyngweithiol Whova, technoleg ffrydio Zoom ac ystafelloedd sgwrsio.

Mae tîm EP Cymru yn chwilio am ddeg ysgrifennydd i wirfoddoli eu gwasanaethau rapporteur/ysgrifennydd ar gyfer un sesiwn er wyn derbyn tocyn ‘mynediad i bob ardal’ yn ogystal â dyfyniad/credyd yn nhaflen ôl-gynhadledd y digwyddiad a’r cyhoeddiad ar-lein.

Llun gan Tamas Kolassa

Ychwanega Cyfarwyddwr Platfform Amgylchedd Cymru Jenny Geroni  :

“Fe wnaethom weithio’n llwyddiannus gydag ymchwilwyr myfyrwyr i’n helpu i hwyluso tystiolaeth amgylchedd 2019 yn Abertawe ac rydym yn chwilio am fwy o wirfoddolwyr brwdfrydig ar gyfer 2020. Y  bonws ychwanegol  yma yw eu bod yn gallu mewngofnodi o gysur eu cartref eu hunain a  bod yn hyblyg gyda’r dyddiau a’r amserau o’u dewis ar gyfer y sesiynau. Ar ôl y gynhadledd, byddwn  yn cynhyrchu cyhoeddiad ar-lein a fydd yn cynnwys themâu allweddol sy’n deillio o’r gynhadledd, crynodebau o sesiynau  a  graffeg gan gynllunydd Laura  Sorvala. Bydd ein rapporteurs gwirfoddol yn cael ei gredydu fel cydawdur y cyhoeddiad hwn. Edrychwn ymlaen at weithio gyda phob un o’r gwirfoddolwyr, ni allwn gynnal digwyddiad fel hwn heb eu cefnogaeth. “

Diddordeb gwirfoddoli fel rapporteur ar gyfer tystiolaeth Amgylchedd 2020?

Dyma grynodeb o’r hyn i’w ddisgwyl:

  • Gwirfoddolwch am unrhyw un sesiwn ar draws yr wythnos, nodwch eich dewisiadau
  • Ymunwch â ni am ragbriffio cyn y digwyddiad (cyfanswm o 30 munud)
  • Ymunwch â ni yn y digwyddiad byw, cael dolen i gael mynediad at unrhyw un/yr holl sesiynau eraill drwy gydol y gynhadledd
  • Cyflwynwch eich nodiadau sesiwn i ni yn dilyn y digwyddiad
  • Adolygu ac adborth ar y ddogfen derfynol cyn ei chyhoeddi (dewisol)
  • Derbyn dyfyniad/credyd fel cyd-awdur ar y ddogfen derfynol

Wirfoddoli drwy gysylltu â info@epwales.org.uk gan ddarparu’r wybodaeth ganlynol:

Cofiwch gynnwys ‘rapporteur gwirfoddol 2020’ yn flwch pwnc / teitl eich e-bost

  • Enw
  • Sefydliad/Prifysgol
  • Diwrnodau/sesiynau a ffefrir
  • E-bost a rhif ffôn cyswllt

Mynediad i raglen y gynhadledd yma

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .