Michael Sheen yn ymuno â’r alwad i ddiogelu Ucheldiroedd Cymru


Cymunedau’r ucheldir yn wynebu ‘bygythiad triphlyg’

Mae ffermio wedi newid siâp tirweddau Cymru ers cenedlaethau, ond mae gwyddonwyr amgylcheddol yng Nghymru yn cydweithio fel rhan o’r gynhadledd ar-lein gyntaf o’i bath i ganolbwyntio’n llwyr ar y dystiolaeth wyddonol sy’n helpu i wneud ucheldiroedd Cymru yn fwy gwydn yn y dyfodol.

Gyda ‘perygl triphlyg’ o newid yn yr hinsawdd, Brexit a COVID 19 erbyn hyn, mae’r ucheldiroedd mynyddig sy’n cwmpasu mwy nag 80% o Gymru yn wynebu her serth i sicrhau eu bod mewn sefyllfa dda i oroesi a ffynnu yn y dyfodol. Mae’r heriau hinsoddol ac economaidd y mae’r tirweddau hyn yn eu hwynebu, gyda oblygiadau enfawr i les cymunedau a’r ecosystemau ynddynt.

Gyda mwy na 200 o arbenigwyr yn y sector amgylchedd yn ymuno, bydd Tystiolaeth Amgylchedd 2020 yn archwilio thema cydnerthedd a beth mae’r heriau hyn yn ei olygu i ucheldiroedd o amrywiaeth o safbwyntiau amgylcheddol,  cymdeithasol ac economaidd. Mae’r gynhadledd ar-lein, 14-18th Medi yn dwyn ynghyd rhanddeiliaid o bob rhan o’r sector academaidd, cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector i drafod sut y gall yr ymchwil ddiweddaraf helpu i lunio polisïau’r dyfodol.  

Gyda siaradwyr yn mynychu o bob rhan o’r DU ac Iwerddon, nod y trefnwyr Platform Amgylchedd Cymru yw herio’r meddylfryd presennol ac agor llwybrau newydd ar gyfer cydweithredu ac arloesi.

Mae aelodau cymuned y platfform yn cynrychioli Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, bob un o’r wyth Prifysgol Cymru a Chanolfan Ecoleg a Hydroleg y DU a chawsant gefnogaeth yr actor Cymreig chwedlonol Michael Sheen, i helpu i harneisio angerdd a rhamant tirweddau Cymru a dathlu eu harddwch unigryw.  

Mewn fideo a gynsail ar-lein ar y 9Fedi,  mae’r seren actio Michael yn darllen cerdd emosiynol John Morris Jones ‘Fy Nhir’ (My Land), a ysbrydolwyd efallai gan borfeydd ei gartref yng Ngogledd Cymru. Mae gan John Morris Jones, a aned ym Môn, gysylltiad cryf â Phrifysgol Bangor ac mae gan y brifysgol neuaddau preswyl wedi’u henwi ar ei ôl. Bu hefyd yn gomisiynydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.  

Dywedodd Cyfarwyddwr Platfform Amgylchedd Cymru Jennifer Geroni:  

“Rydym wrth ein bodd bod Michael Sheen wedi cynnig ei gefnogaeth i Blatfform Amgylchedd Cymru, gan ein helpu i dynnu sylw at bwysigrwydd diogelu’r tirweddau hyn gyda thystiolaeth wyddonol gref a chadarn. Mae’r ymchwil gan aelodau ein cymuned yn helpu i ddod o hyd i ffyrdd newydd ac arloesol o gefnogi ymdrechion i wneud yr ucheldiroedd hyn yn fwy gwydn yn y dyfodol.

“Ymhlith y sgyrsiau niferus sy’n digwydd yr wythnos nesaf, byddwn yn clywed gan wyddonwyr yn rhannu sut i gynyddu bioamrywiaeth a sut i hyrwyddo allyriadau nwyon tŷ gwydr is. Rhaid gwneud penderfyniadau polisi sydd o fudd i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol ac yn cael ei gefnogi gan sylfaen dystiolaeth gadarn. Mae’r gynhadledd hon, ein cystadleuaeth ffotograffiaeth yr ucheldiroedd a chyfres blog ‘lleisiau’r ucheldiroedd’ wedi helpu i dynnu sylw at straeon a phrofiadau’r rhai sy’n byw ac yn gweithio yn y cymunedau yma. Edrychwn ymlaen at weld ein holl gyfranogwyr ar-lein yr wythnos nesaf!”

Creuwyd y gynhadledd Tystiolaeth Amgylchedd 2020 ‘Cydnerthedd ucheldiroedd Cymru – safbwynt tystiolaeth’ diolch i cymorth gan noddwyr y gynadledd: Hybu  Cig Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Sefydliad Siartredig Ecoleg a Rheoli Amgylcheddol (CIEEM) a’r ymgynghoriaeth treftadaeth Trysor.  

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â  info@epwales.org.uk


Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .