Nick Thomas: Hanes Tri Rhostir

Diolch i: Cyfoeth Naturiol Cymru
Cynnwys partneriaeth mewn cysylltiad a Cyfoeth Naturiol Cymru – Noddwyr Tystiolaeth Amgylchedd 2020

Mae 2020 yn argoeli i fod yn drobwynt i’r DU, yn enwedig i ardaloedd gwledig a’r ucheldiroedd. Mae’r cyfuniad o bandemig y coronafeirws, trafodaethau ynghylch y DU yn gadael yr UE ac effeithiau newid yn yr hinsawdd yn golygu yr ymddengys ein bod ar drothwy newid sylweddol o ran defnydd tir.

Rwyf wedi gweithio i sefydliadau amgylcheddol yng Nghymru ers bron i 35 mlynedd ac yn yr amser hwnnw, rwyf wedi gweld newidiadau sylweddol i amgylchedd ein hucheldiroedd.

Ond mae’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu’r ucheldiroedd dros y degawd i ddod yn debygol o fod yn fwy nag unrhyw beth rydym wedi’i brofi dros y ganrif ddiwethaf.

I ni, yr her fydd dod o hyd i ffordd i liniaru effeithiau mwy y newidiadau hyn a gweithio ar y cyd i fanteisio ar y cyfleoedd cadarnhaol a ddaw i’r amlwg, a fydd yn ein galluogi i symud tuag at system fwy cynaliadwy o ddefnyddio a rheoli tir yr ucheldiroedd.

Am y 25 mlynedd diwethaf, rydw i wedi byw yng ngogledd-ddwyrain Cymru ar gyrion Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd (AHNE) – ardal o rostiroedd tonnog, blociau gwasgaredig o goetiroedd conwydd a chollddail wedi’u hamgylchynu gan fôr o laswelltiroedd wedi’u ffermio’n ddwys yn bennaf, gyda rhai ardaloedd o borfeydd llawn blodau.

Yn yr amser hwnnw, rwyf wedi digalonni o weld rhai rhywogaethau adar bron yn diflannu’n llwyr – adar fel y gornchwiglen, y gog a’r gylfinir, gyda dychweliad ei gri soniarus yn arwydd bod y gaeaf o’r diwedd yn dod i ben. Rwyf hefyd yn pryderu o weld dirywiad ffermio fel rhan allweddol o’r economi wledig. Yn fy nghymuned fy hun, roedd tua 12 fferm yn dibynnu’n bennaf ar amaethyddiaeth am eu hincwm yn y 1990au. Erbyn hyn mae’r rhif hwnnw bron wedi haneru.

Wrth wraidd yr ardal hon mae rhosydd sych ac eang Rhostiroedd Rhiwabon, Llandegla a Llandysilio yn Iâl, i’r gorllewin o Wrecsam. Maent i gyd yn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ac yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA). Er bod eu dynodiadau cadwraeth wedi helpu i gynnal yr ardaloedd hyn fel rhostiroedd dros y degawd diwethaf, mae’r ffordd y maent wedi’u rheoli dros y cyfnod hwn wedi amrywio’n sylweddol.

Tirwedd sy’n newid

Gan mlynedd yn ôl, fel llawer o rostiroedd Cymru, rheolwyd yr ardaloedd hyn yn ddwys ar gyfer defaid a grugieir. Nawr mae Rhiwabon yn un o’r ychydig rostiroedd grugieir sydd ar ôl yng Nghymru ac mae’r rhos yn parhau i gael ei thorri neu ei llosgi bob blwyddyn, gan gynhyrchu’r patrwm bwrdd draffts sydd o fudd i rugieir a defaid ac adar sy’n nythu ar y ddaear. Dyma’r rhostir gorau yng Nghymru ar gyfer grugieir du, mae yna niferoedd rhesymol o ylfinirod o hyd ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae cwtiaid aur wedi dychwelyd i fridio.

Rhostir Rhiwabon: Un o’r rostiroedd olaf a reolir ar gyfer grugieir yng Nghymru. Mae’r cyfuniad o glytiau o lystyfiant byr (wedi’i dorri/llosgi) a hirach ar draws y rhostir yn sicrhau bod defaid wedi’u dosbarthu’n eang ac yn gwneud bugeilio yn haws, ac mae hefyd o fudd i adar sy’n nythu ar y ddaear

Ychydig filltiroedd i ffwrdd, ar ochr ogleddol Rhostir Llandegla, gwelwn wrthgyferbyniad mawr. Prin fod y rhostir wedi cael ei bori gan ddefaid ac nid ydyw wedi cael llawer o reolaeth ers nifer o flynyddoedd. Mae prysgwydd yn datblygu’n gyflym ac erbyn 2030, rydym yn disgwyl gweld coed yma, ac nid rhos. Mae poblogaeth yr adar wedi newid, a phrin iawn y gwelir gylfinirod, grugieir coch na du, yn bennaf oherwydd diffyg rheolaeth ar ysglyfaethwyr. Fodd bynnag, gwelir y gog, corhedydd y coed, telor yr helyg, clochdar y cerrig a chrec yr eithin yn aml.

Ymlediad prysgwydd ar ochr ogleddol rhostir Llandegla. Fe wnaeth Dynodiad SoDdGA atal y rhos rhag cael ei choedwigo â chonwydd yn y 1980au, ond mae diffyg rheolaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn golygu bod prysgwydd yn lledaenu’n gyflym. Heb reolaeth weithredol na bywyd gwyllt, coed ac nid rhos fydd yma erbyn 2030.

Un o’r risgiau mwyaf i’n rhostiroedd yw tanau gwyllt. Gallai un sigarét a deflir yn ddifeddwl neu farbeciw defnydd untro wedi’i adael arwain at dân mawr a allai fod yn ddinistriol i fywyd gwyllt ac o bosibl, y bobl sydd wedi ymgartrefu o amgylch y rhostiroedd.

Mae ein hinsawdd gynyddol eithafol, gyda chyfnodau gwlyb iawn ac yna gyfnodau poeth, sych iawn, yn cynyddu’r risg o ddigwyddiad o’r fath, fel hwnnw a brofwyd ar Fynydd Llandysilio gerllaw yn ystod haf hir, poeth 2018.

Mae’r grug ar ochr orllewinol y mynydd yn cael ei reoli gan y porwyr, gyda chefnogaeth Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych a CNC. Fodd bynnag, ar yr ochr ddwyreiniol o amgylch Bwlch yr Oernant, prin fu’r rheolaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac yng Ngorffennaf 2018, dechreuodd tân mawr a losgodd tan fis Medi. Llosgodd 250ha o rostir a’r haen fawn i ddyfnder o sawl centimetr, gan ryddhau llawer iawn o garbon i’r atmosffer ar gost o fwy na £100,000 i’r gwasanaeth tân.

Bydd yr effeithiau ar y llystyfiant yn cael eu teimlo am flynyddoedd, neu ddegawdau i ddod o bosibl. Mae gan hyn oblygiadau i’r porwyr a bywyd gwyllt, a gallai fod effeithiau ar reolaeth dŵr hefyd, gan y bydd glaw trwm yn rhedeg oddi ar yr ardaloedd yr effeithiwyd arnynt yn gyflymach.

Dywed y gwyddonwyr hinsawdd wrthym y byddwn yn profi mwy o gyfnodau o dywydd poeth a sych yn y dyfodol, a bydd tanau gwyllt i’w gweld yn amlach os na fyddwn yn canolbwyntio ar reoli ein rhostiroedd.

Nick Thomas ar Foel y Faen, Mynydd Llandysilio, lle bu tân 2018 yn gyfrifol am losgi llystyfiant a’r haen fawn, gan adael craig noeth sy’n annhebygol o aildyfu am ddegawdau

Mae newid ar droed

Mae buddion economaidd rhoi defaid allan i bori ar y rhostiroedd hyn eisoes yn ymylol a chyda 35% o gig oen Cymru yn cael ei allforio, yn bennaf i’r UE, mae’r trafodaethau masnach Brexit sy’n digwydd ar hyn o bryd yn hanfodol i’r diwydiant defaid.

Wrth i’r trafodaethau fynd rhagddynt, mae disgwyl gweld newid mawr yn y system cymorthdaliadau amaethyddol hefyd. Mae’r cyfuniad o’r ddau yn debygol o ddwysáu cyflymder prosesau rheoli newid tir. Gyda thua 50% o incwm y mwyafrif o ffermwyr yn dod o gymorthdaliadau, gallai hyn annog ffermwyr i symud i ffermio sy’n fwy ecogyfeillgar. Neu a fydd economeg yn gyrru ffermwyr ar yr ymylon i roi’r gorau iddi, a’r rhai hynny ar dir mwy ffrwythlon i ffermio’n ddwysach, gan waethygu’r tueddiadau presennol?

Er y gallai cytundebau masnach ar ôl Brexit wneud amaethyddiaeth yng Nghymru yn llai cystadleuol, mynegwyd pryderon hefyd ynghylch diogelwch bwyd a’r gadwyn cyflenwi bwyd fyd-eang.

Mae risg wirioneddol y gallai cynnydd mewn tywydd eithafol, a ysgogir gan newid yn yr hinsawdd, amharu ar gyflenwadau bwyd byd-eang a rhaid i ni fod yn barod am hyn.

Yn ogystal, er efallai y gallwn fewnforio bwyd a phren yn rhatach o dramor, nid yw’r cynhyrchion hyn bob amser yn cael eu cynhyrchu mor gynaliadwy ag yn y DU.

Y ffordd ymlaen

Heb reolaeth draddodiadol, bydd y rhostiroedd hyn yn troi’n brysgwydd ac yn goetiroedd yn y pen draw mewn rhai llefydd, a fydd o bosibl yn cael eu heffeithio o bryd i’w gilydd gan danau. Bydd llawer yn dibynnu ar y dulliau cymorth amaethyddol ar ôl Brexit a bydd cymhellion ar gyfer rheoli rhostiroedd yn hanfodol wrth gyflawni’r canlyniadau sydd eu hangen arnom o ran rheoli tir yn yr ucheldiroedd.

Yn ogystal, mae angen i’r cynllun gael digon o staff maes i gynghori a chefnogi ffermwyr gyda rheolaeth amgylcheddol. Mae CNC a Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych ar fin ariannu rôl Swyddog Rhostiroedd a fydd yn gwneud hyn – dyma gam yn agosach at gael y rhostiroedd hyn mewn cyflwr gwell ar gyfer amaethyddiaeth a bywyd gwyllt a lleihau’r risg o dân.

Os ydym am wella bioamrywiaeth yr ucheldiroedd, mae’n ymwneud â llawer mwy na’r rhostiroedd yn unig. Mae llawer o’r glaswelltir hyd at ymyl y rhostir yn cael ei reoli’n ddwys, yn bennaf ar gyfer defaid. Ddegawdau yn ôl, roedd yr ardaloedd hyn yn fwy cyfoethog o ran blodau ac yn aml roeddent yn bwysig ar gyfer bridio a bwydo i adar, fel y gylfinir a’r cwtiaid aur.

Y Gors, ger Rhostir Llandegla, sydd wedi’i draenio i raddau helaeth a’i gwella’n amaethyddol dros y degawdau, gan adael ardal ganolog wlyb nad yw’n ddeniadol i ddefaid, ac felly anaml y caiff ei phori. O ganlyniad, mae’r llystyfiant wedi mynd yn rhy drwchus, ac mae wedi colli rhywfaint o’i amrywiaeth o ran blodau, yn ogystal â’r cornchwiglod a arferai nythu yma.

Mae cyfleoedd hefyd i adfywio neu blannu coed yn yr ucheldiroedd hyn. Mae graddfa’r newid mewn defnydd tir sy’n ofynnol i fodloni dyheadau creu coetiroedd Llywodraeth Cymru yn her, ond mae’n ymddangos y bydd cyfleoedd enfawr ar gyfer gwneud hyn yn ystod y degawd hwn. Bydd creu’r ddealltwriaeth ar y cyd o ran ble a sut y gall yr adnodd hwn ddod â buddion i natur, lliniaru’r hinsawdd a pherchnogion tir yn gwneud llawer i helpu Cymru i weithio gyda’i gilydd i gyrraedd targedau creu coetiroedd, a gwireddu beth all rôl yr ucheldiroedd fod yn hyn o beth.

Wrth i ni edrych tuag at ein dyfodol y tu allan i’r UE, gallai cynllun amaeth-amgylcheddol wedi’i ddylunio’n dda gyda chefnogaeth staff i weithio gyda ffermwyr, cytundebau masnach rhesymol, gyda phwyslais ar gynnal neu gynyddu safonau amgylcheddol a lles anifeiliaid, ein gweld yn symud yn agosach at system ffermio fwy cynaliadwy.

Llethrau serth uwchben Dyffryn Clwyd, a gafodd eu haredig yn y 1970au; nid ydynt yn hawdd i’w ffermio ac nid ydynt o werth uchel o ran bioamrywiaeth. A allai’r rhain fod y math o leoliad lle dylai Creu Coetiroedd fod yn flaenoriaeth?

Rhaid rhoi pwyslais ar reoli pridd yn dda, i gadw carbon a dŵr yn y pridd, hyrwyddo bioamrywiaeth a darparu cyfleoedd i greu coetiroedd, ynghyd â chadw ffermwyr ar y tir, fel y gallwn ddefnyddio eu sgiliau i ddarparu’r nwyddau a’r gwasanaethau ecosystem hyn.

Gorgors wedi dirywio ger Llandegla, a blannwyd yn ystod y degawd diwethaf. O ran dal a storio carbon a bioamrywiaeth, dylai fod yn flaenoriaeth adfer yr ardaloedd hyn yn gors. Mae Rhaglen Adfer Mawndiroedd Llywodraeth Cymru, a weinyddir gan CNC, yn hyrwyddo’r dull hwn

Mae angen i ni ailbwysleisio pwysigrwydd SoDdGA hefyd, sydd wedi helpu i amddiffyn ein cynefinoedd pwysicaf ac wrth wneud hynny, wedi cefnogi gwasanaethau ecosystem ehangach. Dylai’r rhain ffurfio craidd rhaglenni adfer cynefinoedd ar raddfa fawr a allai ddod â bywyd yn ôl i’n bryniau.

Bydd yn wahanol. A all fod yn well?


Dewch o hyd i mwy o wybodaeth am waith Cyfoeth Naturiol Cymru

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi.

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .