10 peth a ddysgom yng nghynhadledd Tystiolaeth yr Amgylchedd 2020

Gan Dr Jennifer Geroni

Ar ôl ychydig fisoedd prysur yn arwain at ein cynhadledd ar-lein gyntaf un, rydym o’r diwedd wedi cael rhywfaint o amser i ymlacio ac edrych yn ôl ar rai o’r materion allweddol ac amlwg sy’n wynebu ein hucheldiroedd yng Nghymru. Dros bum niwrnod o 14 Medi, croesawyd mwy na 50 o siaradwyr, cynhyrchwyd mwy na 60 awr o gynnwys, gwelwyd cerdd ein cynhadledd, ‘Fy Nhir,’ dros 20,000 o weithiau (cerdd John Morris Jones wedi’i darllen gan Michael Sheen, seren Hollywood ac un o enwogion ein cenedl) a chawsom sylw am y tro cyntaf yn y cyfryngau. Mae wedi bod yn andros o daith! Ar ôl peth amser i ffwrdd i ailwefru a chael fy ngwynt ataf, rwyf wedi cael cyfle i fyfyrio ar rai o’r prif themâu a materion a gododd yn y drafodaeth. Dyma fy meddyliau… byddwn wrth fy modd yn clywed eich rhai chi hefyd.

1.) Mae ymddiriedaeth yn allweddol

Mae angen inni feithrin ymddiriedaeth rhwng cymunedau’r ucheldir a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar fywydau’r cymunedau hynny. Mae mannau gwell (yn ffisegol a digidol) lle gall cymunedau gwledig gyfarfod a sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed yn hanfodol. Mae cysylltiad agos rhwng cymunedau Cymraeg eu hiaith a’r economi ffermio yn aml ac maent yn wynebu heriau a phryderon na welwyd eu tebyg o’r blaen. Yn fynych, nhw yw gofalwyr y tirweddau sy’n darparu gwasanaethau ecosystem ar gyfer canolfannau poblogaeth dwys ond gallant fod yn ffisegol ac yn gymdeithasol wahanol iddynt. Mae deall anghenion unigryw ein cymunedau ucheldirol a’u grymuso i ymgysylltu â’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn hanfodol i iechyd a lles Cymru.

2.) Coed yn y mannau cywir

Plannu’r coed cywir yn y mannau cywir. Mae hwn yn ymadrodd rwy’n ei glywed yn aml ar hyn o bryd ac nid yw’n dweud fawr o ddim byd wrthych chi. Yn ystod y gynhadledd cawsom drafodaethau mwy cynnil am yr hyn y mae’r ymadrodd yn ei olygu mewn gwirionedd. Mae cefnogi agrogoedwigaeth drwy blannu’n ddetholus i ddarparu cysgod a lloches sy’n gwella cynhyrchiant da byw yn wahanol iawn i ailblannu coedwig lydanddail fawr. Gall y coed cywir yn y lle cywir sefydlogi priddoedd, lleihau’r perygl llifogydd a chefnogi adferiad bioamrywiaeth. Gall plannu coed yn y mannau anghywir arwain at golli bioamrywiaeth a cholled net mewn carbon o’r pridd a allai gymryd degawdau i adfer.

3.) Pridd: Sinderela ymchwil amgylcheddol

Mae gennym lawer mwy i’w ddysgu am briddoedd. Gwyddom fod mawndiroedd yn adnodd anhygoel ar gyfer storio carbon ac mae llawer o bobl yn astudio’r ffordd y mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio arnynt a sut maent yn addasu iddo. Mae mathau eraill o briddoedd, eu rolau wrth storio carbon ac effeithiau newid yn yr hinsawdd a defnydd tir arnynt yn llawer llai eglur.  Cyfeiriwyd at briddoedd fel Sinderela ymchwil amgylcheddol, hyd yn oed. Rhaid i ddealltwriaeth o gyflwr a phriodweddau’r pridd rydym yn plannu ynddo fod yn rhan allweddol o’r broses o wneud penderfyniadau.

4.) Nid yw nawr yn golygu am byth

Mae angen inni fod yn ymwybodol o’n lle mewn hanes. Mae pobl wedi bod yn byw yn ucheldir Cymru ac yn dylanwadu arno ers dros 9000 o flynyddoedd. Pan soniwn am gadw ein tirweddau a’n ffyrdd o fyw mae’n dda o beth cofio, o safbwynt hanesyddol, bod hyn yn esblygu’n gyson wrth i ni addasu i newid economaidd, cymdeithasol a thechnolegol ehangach. Yn y cyd-destun hwn, dim ond gwyriad ar yr amserlen hanesyddol yw ein canfyddiad presennol o “normal”. Natur ddynol yw gwerthfawrogi’r ffordd yr ydym yn gwneud pethau nawr a theimlo’n ansicr ynghylch newid. Fodd bynnag, mae newid yn dod ac mae angen inni ganolbwyntio ein hegni ar addasu iddo mewn ffyrdd sy’n cefnogi lles ein cymunedau a’n hamgylchedd.

5.) Systemau bwyd: Cost yn erbyn Gwerth

Mae angen i ni dalu gwir gost cynhyrchu bwyd a manteision eraill a gawn o’r tir. Mae degawdau o bolisi amaethyddol a chymorthdaliadau wedi arwain at ddigonedd o fwyd rhad nad yw’n adlewyrchu gwir gostau cynhyrchu. Disgwyliwn i ffermwyr a rheolwyr tir wneud cymaint ond yn aml nid ydym yn deall gwir gost yr hyn yr ydym yn ei ofyn ganddynt.  Rhannodd un o’n panelwyr, Chris Blake, ddyfyniad sydd yn crynhoi’r cyfan yn berffaith, yn fy marn i.

Mae’r hen gontract cymdeithasol rhwng ffermwyr a chymdeithas bellach dan bwysau eithriadol.  Mae arnom angen bargen newydd, dealltwriaeth newydd, system newydd, sy’n dod â ffermio ac ecoleg at ei gilydd. Ac mae hynny’n gofyn am ddeialog, realaeth, ymddiriedaeth a newid ein hymddygiad fel ffermwyr ac fel defnyddwyr, a pharodrwydd i dalu’r pris gwirioneddol (yn y siopau a thrwy ein trethi) ar gyfer bwyd a ffermio da i wneud pethau cystal ag y dylent fod.”

English Pastoral, James Rebanks, Allen Lane, 2020.

6.) Brexit: bygythiad A chyfle

Bydd Brexit yn golygu newidiadau mawr i’r ffordd rydym yn ffermio’r ucheldiroedd a sut rydym yn talu am reoli tir yn yr ardaloedd hyn. Mae llawer o heriau’n wynebu ffermio defaid yn benodol, ond os byddwn yn croesawu’r newid mae cyfleoedd enfawr hefyd. Bydd llawer o’r hyn y gallwn ei wneud yn cael ei ddylanwadu gan newidiadau i ddeddfwriaeth, rheoleiddio a chymorthdaliadau sy’n ganlyniad anochel i adael yr UE. Fodd bynnag, gallwn fanteisio ar y pethau hyn, gan gadw Cymru fel cynhyrchydd arbenigol ar gyfer cynhyrchion premiwm ac ehangu’r cyfleoedd cyflogaeth ar draws yr ucheldiroedd i gynnwys amrywiaeth o swyddi newydd mewn e.e. ffermio digidol, cadwraeth, treftadaeth, twristiaeth a choedwigaeth.

7.) Yr argyfwng bioamrywiaeth

Mae angen sylw cyfartal i’r argyfwng bioamrywiaeth a’r argyfwng hinsawdd! Mae’r newid yn yr hinsawdd wedi cael cryn sylw ers blynyddoedd ac mae’r rhan fwyaf o bobl yn deall yr angen i leihau allyriadau carbon a chynyddu faint o garbon rydym yn ei ddal a’i storio. Dim ond yn ddiweddar y mae’r argyfwng bioamrywiaeth wedi dod yn bwnc llosg ac nid oes gan y rhan fwyaf ohonom syniad beth i’w wneud yn ei gylch. Bydd adegau pan nad yw’r hyn sydd orau ar gyfer newid yn yr hinsawdd cystal ar gyfer bioamrywiaeth (dyma’r broblem ‘coed cywir yn y mannau cywir’ eto). Efallai y bydd adegau pan fydd ecosystemau’n addasu i newid yn yr hinsawdd a’r peth gorau y gallwn ei wneud yw rhoi llonydd iddynt. Dylid ystyried bioamrywiaeth fel rhan annatod o’n penderfyniadau yn yr un modd â datgarboneiddio ac asesiadau o effeithiau ar gydraddoldeb. Yn aml, bydd mesurau lliniaru newid yn yr hinsawdd o fudd i fioamrywiaeth, ond nid bob amser ac mae angen inni fod yn llawer gwell o ran nodi a rheoli’r cyfaddawdau.

8.) Yn ‘naturiol’ dda?

Mae ailwylltio’n gymhleth iawn ac efallai nad hwn fydd yr ateb cywir byth. Yn yr un modd â sut mai nid ailgoedwigo ein hucheldiroedd yn llwyr yw’r ateb, nid mynd â’r defaid i ffwrdd ac ailgyflwyno rhywogaethau a ddiflannodd (weithiau gannoedd o) flynyddoedd yn ôl yw’r ateb ychwaith. Dyma lle mae angen inni atgoffa ein hunain bod pobl wedi bod yn siapio’r ucheldiroedd ers dros 9000 o flynyddoedd ac nad oes un ardal y gellid ei hystyried yn gynefin “naturiol” ar ôl yng Nghymru. Hoffem i gyd weld bywyd gwyllt mwy niferus ac amrywiol yng nghefn gwlad. Ar yr un pryd, rhaid i ni gofio efallai na fydd ailgyflwyno rhywogaeth i gynefin nad yw wedi’i haddasu’n dda ar ei gyfer yn gallu darparu digon o fwyd ac y gallai greu mwy o broblemau nag y mae’n ei ddatrys yn agos at ganolfannau poblogaeth.

9.) Dinasyddion â diddordeb

Addysgu ac ymgysylltu â dinasyddion yw’r allwedd. Un o ychydig fanteision COVID-19 yw bod pobl wedi bod yn treulio mwy o amser y tu allan yn ymgysylltu â natur, boed hynny mewn gerddi, parciau ar deithiau cerdded gwledig neu yn eu coetiroedd lleol.  Prin y bu’r diddordeb yn y byd naturiol a’r cyswllt â’n lles ein hunain erioed yn amlycach.  Mae angen i’r gymuned amgylcheddol fanteisio ar hyn i ennyn brwdfrydedd pobl (y to ifanc yn enwedig) i ymwneud â monitro a diogelu eu hamgylcheddau lleol. Mae prosiectau gwyddoniaeth dinasyddion yn ffordd wych o gael pobl i gymryd rhan. Os ydym am ddatblygu atebion sy’n para, dylai fod drwy weledigaeth gyffredin sy’n ystyried treftadaeth cymunedau lleol a phawb sy’n elwa o iechyd ein hucheldiroedd.

10.) Syniadau radical ar gyfer cyfnod eithriadol

Mae pobl eisiau gwneud y peth iawn. Drwy gydol y gynhadledd cyfarfuom ag arbenigwyr mewn ecoleg, bioamrywiaeth, defnydd tir, cadwraeth, mawndiroedd, coedwigaeth, dŵr croyw, economeg, gwyddorau cymdeithasol, y celfyddydau a llawer mwy. Cawsom ymchwilwyr PhD, prif gynghorwyr gwyddonol, cyrff anllywodraethol amgylcheddol, ffermwyr ac ymgynghorwyr amgylcheddol yn cyflwyno ac yn herio ei gilydd. Un peth a unodd bawb oedd yr awydd i wneud y gorau dros y bobl a’r ecosystemau sy’n byw yn ein hucheldiroedd. Yr angen am newid radical weithiau a rhoi’r gorau i drefn ‘busnes fel arfer’. Yr hyn sydd ei angen arnom yn awr yn ein byd ar ôl Brexit yw arweiniad cryf a chymorth ariannol gan ein Llywodraeth, wedi’u llywio gan y dystiolaeth, i sicrhau ein bod i gyd yn gyrru i’r un cyfeiriad.

Rhywbeth i’w ychwanegu am y gynhadledd? Beth am barhau â’r sgwrs ar Twitter (gan ddefnyddio’r hashnod #ucheldiroeddcymru2020 neu fel arall, gwyliwch ein gweminarau blaenorol ar ein sianel Vimeo neu cysylltwch â info@epwales.org.uk i weld sut y gallwch weithio gyda ni.


Ynglŷn â’r awdur

Dr Jennifer Geroni yw Cyfarwyddwr Platfform Amgylchedd Cymru, rhwydwaith amlbartner sy’n ceisio cynyddu ansawdd a pherthnasedd y dystiolaeth sydd ar gael ar gyfer rheoli amgylcheddol a llunio polisïau yng Nghymru. Mae’r platfform yn gwneud hyn drwy gefnogi ymchwilwyr i ymgysylltu’n uniongyrchol â Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru drwy weithdai a gweithgorau a thrwy gefnogi’r gwaith o ddatblygu ceisiadau ariannu ar raddfa fawr sy’n uniongyrchol berthnasol i lunwyr polisi yng Nghymru. Mae bwrdd y platfform yn cynnwys aelodau o bob un o’r wyth prifysgol yng Nghymru a Chanolfan Ecoleg a Hydroleg y DU.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .