Cymru fyw – yn fyw!

Rhagfyr 3ydd, 10-12yb

Ymunwch â’n digwyddiad byw i weld sut mae Cymru Fyw wedi datblygu gallu unigryw i helpu Cymru delio â heriau byd-eang a lleol drwy arsylwadau’r Ddaear.

Mewn partneriaeth â Cymru Fyw, hoffai Platfform Amgylchedd Cymru eich gwahodd i ddigwyddiad rhithwir ar Ragfyr 3ydd 2020 (10yb-hanner dydd) i ddysgu ffyrdd newydd o edrych ar ein tirweddau sy’n newid yn barhaus a sut i ddeall, cael mynediad agored a defnyddio adnoddau cynyddol Cymru Fyw.

Dros y tair blynedd diwethaf, mae prosiect Cymru Fyw / Living Wales wedi bod yn gwneud gwaith ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth i wella’r capasiti cenedlaethol ar gyfer mapio tir a monitro newidiadau drwy arsylwadau’r Ddaear.

Mae nhw bellach yn barod i ryddhau mapiau agored cyntaf ar gyfer Cymru (ar gyfer 2017, 2018 a 2019) yn ogystal ag adnodd sylweddol ar dirwedd ac amgylchedd Cymru.

I ddathlu’r garreg filltir hon, hoffai Cymru Fyw eich gwahodd i ddigwyddiad rhithwir ddydd Iau 3 Rhagfyr rhwng 10am a hanner dydd, lle byddant yn rhoi trosolwg o gysyniadau a dulliau Cymru Fyw, yn darparu mynediad i setiau data ac yn cyfleu’r manteision tymor byr i hirdymor i Gymru.  Bydd y deunydd a gyflwynir hefyd ar gael i gyfeirio ato yn y dyfodol ar wefan Cymru Fyw.

Pwy ddylai fod yn bresennol?

Bydd y digwyddiad hwn o ddiddordeb i’r rhai sydd â diddordeb mewn:

  • Monitro ac arsylwi
  • Rheoli tir
  • Cynefinoedd a bioamrywiaeth
  • Tirweddau, adfer, dad-ddofi tir ac ecoleg
  • Ffermio ac amaethyddiaeth – polisi a thystiolaeth
  • Lles, addysg awyr agored, gwaith allgymorth yn y gymuned leol

Mae prosiect Cymru Fyw ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi datblygu adnodd unigryw i alluogi Cymru i fynd i’r afael â heriau lleol a byd-eang drwy arsylwadau’r Ddaear.

Bydd y meysydd trafod yn cynnwys:

· Cyflwyniad i Cymru Fyw

· Arsylwadau lloeren ac o’r awyr

· Disgrifwyr amgylcheddol

· Categorïau tiroedd Cymru

· Perthnasedd i gynefinoedd

· Newidiadau i’r tirwedd ar sail tystiolaeth

· Cymru Fyw ar y ddaear

· Ymgysylltu byd-eang

· Adfer ecosystemau a thirweddau’r dyfodol

· Cysylltiadau â pholisi, yr economi, llesiant a rheoli tir

· Addysg ac allgymorth

· Gyrru ac ymateb i uchelgeisiau cenedlaethol a rhyngwladol

Caiff y digwyddiad ei arwain gan yr Athro Richard Lucas sy’n dal Cadair Ymchwil Sêr Cymru yng Ngrŵp Ymchwil Arsylwi’r Ddaear a Dynameg Ecosystemau Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth.

Ymunwch â ni – cofrestrwch!

Bydd hwn yn ddigwyddiad caeedig, a gynhelir drwy Zoom ac mae rhaid i chi gofrestru ymlaen llaw. Cliciwch y botwm ‘Cofrestru’ isod i gofrestru drwy’r tudalen Zoom (byddwch yn cael eich atgoffa).


Darllenwch fwy am Cymru Fyw yn ein cyfweliad â’r Athro Richard Lucas – ‘Cymru Fyw: Y mapiau lloeren a allai ragweld ein dyfodol’ (Cyswllt mewnol, Saesneg yn unig)

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .