Cymunedau’r ucheldir yn wynebu ‘bygythiad triphlyg’
Mae ffermio wedi newid siâp tirweddau Cymru ers cenedlaethau, ond mae gwyddonwyr amgylcheddol yng Nghymru yn cydweithio fel rhan o’r gynhadledd ar-lein gyntaf o’i bath i ganolbwyntio’n llwyr ar y dystiolaeth wyddonol sy’n helpu i wneud ucheldiroedd Cymru yn fwy gwydn yn y dyfodol.
Gyda ‘perygl triphlyg’ o newid yn yr hinsawdd, Brexit a COVID 19 erbyn hyn, mae’r ucheldiroedd mynyddig sy’n cwmpasu mwy nag 80% o Gymru yn wynebu her serth i sicrhau eu bod mewn sefyllfa dda i oroesi a ffynnu yn y dyfodol. Mae’r heriau hinsoddol ac economaidd y mae’r tirweddau hyn yn eu hwynebu, gyda oblygiadau enfawr i les cymunedau a’r ecosystemau ynddynt.
Gyda mwy na 200 o arbenigwyr yn y sector amgylchedd yn ymuno, bydd Tystiolaeth Amgylchedd 2020 yn archwilio thema cydnerthedd a beth mae’r heriau hyn yn ei olygu i ucheldiroedd o amrywiaeth o safbwyntiau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd. Mae’r gynhadledd ar-lein, 14-18th Medi yn dwyn ynghyd rhanddeiliaid o bob rhan o’r sector academaidd, cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector i drafod sut y gall yr ymchwil ddiweddaraf helpu i lunio polisïau’r dyfodol.
Gyda siaradwyr yn mynychu o bob rhan o’r DU ac Iwerddon, nod y trefnwyr Platform Amgylchedd Cymru yw herio’r meddylfryd presennol ac agor llwybrau newydd ar gyfer cydweithredu ac arloesi.
Mae aelodau cymuned y platfform yn cynrychioli Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, bob un o’r wyth Prifysgol Cymru a Chanolfan Ecoleg a Hydroleg y DU a chawsant gefnogaeth yr actor Cymreig chwedlonol Michael Sheen, i helpu i harneisio angerdd a rhamant tirweddau Cymru a dathlu eu harddwch unigryw.
Mewn fideo a gynsail ar-lein ar y 9Fedi, mae’r seren actio Michael yn darllen cerdd emosiynol John Morris Jones ‘Fy Nhir’ (My Land), a ysbrydolwyd efallai gan borfeydd ei gartref yng Ngogledd Cymru. Mae gan John Morris Jones, a aned ym Môn, gysylltiad cryf â Phrifysgol Bangor ac mae gan y brifysgol neuaddau preswyl wedi’u henwi ar ei ôl. Bu hefyd yn gomisiynydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
Dywedodd Cyfarwyddwr Platfform Amgylchedd Cymru Jennifer Geroni:
“Rydym wrth ein bodd bod Michael Sheen wedi cynnig ei gefnogaeth i Blatfform Amgylchedd Cymru, gan ein helpu i dynnu sylw at bwysigrwydd diogelu’r tirweddau hyn gyda thystiolaeth wyddonol gref a chadarn. Mae’r ymchwil gan aelodau ein cymuned yn helpu i ddod o hyd i ffyrdd newydd ac arloesol o gefnogi ymdrechion i wneud yr ucheldiroedd hyn yn fwy gwydn yn y dyfodol.
“Ymhlith y sgyrsiau niferus sy’n digwydd yr wythnos nesaf, byddwn yn clywed gan wyddonwyr yn rhannu sut i gynyddu bioamrywiaeth a sut i hyrwyddo allyriadau nwyon tŷ gwydr is. Rhaid gwneud penderfyniadau polisi sydd o fudd i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol ac yn cael ei gefnogi gan sylfaen dystiolaeth gadarn. Mae’r gynhadledd hon, ein cystadleuaeth ffotograffiaeth yr ucheldiroedd a chyfres blog ‘lleisiau’r ucheldiroedd’ wedi helpu i dynnu sylw at straeon a phrofiadau’r rhai sy’n byw ac yn gweithio yn y cymunedau yma. Edrychwn ymlaen at weld ein holl gyfranogwyr ar-lein yr wythnos nesaf!”
Creuwyd y gynhadledd Tystiolaeth Amgylchedd 2020 ‘Cydnerthedd ucheldiroedd Cymru – safbwynt tystiolaeth’ diolch i cymorth gan noddwyr y gynadledd: Hybu Cig Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Sefydliad Siartredig Ecoleg a Rheoli Amgylcheddol (CIEEM) a’r ymgynghoriaeth treftadaeth Trysor.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â info@epwales.org.uk