Cynnwys partneriaeth mewn cysylltiad a Cyfoeth Naturiol Cymru – Noddwyr Tystiolaeth Amgylchedd 2020
Mae 2020 yn argoeli i fod yn drobwynt i’r DU, yn enwedig i ardaloedd gwledig a’r ucheldiroedd. Mae’r cyfuniad o bandemig y coronafeirws, trafodaethau ynghylch y DU yn gadael yr UE ac effeithiau newid yn yr hinsawdd yn golygu yr ymddengys ein bod ar drothwy newid sylweddol o ran defnydd tir.
Rwyf wedi gweithio i sefydliadau amgylcheddol yng Nghymru ers bron i 35 mlynedd ac yn yr amser hwnnw, rwyf wedi gweld newidiadau sylweddol i amgylchedd ein hucheldiroedd.
Ond mae’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu’r ucheldiroedd dros y degawd i ddod yn debygol o fod yn fwy nag unrhyw beth rydym wedi’i brofi dros y ganrif ddiwethaf.
I ni, yr her fydd dod o hyd i ffordd i liniaru effeithiau mwy y newidiadau hyn a gweithio ar y cyd i fanteisio ar y cyfleoedd cadarnhaol a ddaw i’r amlwg, a fydd yn ein galluogi i symud tuag at system fwy cynaliadwy o ddefnyddio a rheoli tir yr ucheldiroedd.
Am y 25 mlynedd diwethaf, rydw i wedi byw yng ngogledd-ddwyrain Cymru ar gyrion Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd (AHNE) – ardal o rostiroedd tonnog, blociau gwasgaredig o goetiroedd conwydd a chollddail wedi’u hamgylchynu gan fôr o laswelltiroedd wedi’u ffermio’n ddwys yn bennaf, gyda rhai ardaloedd o borfeydd llawn blodau.
Yn yr amser hwnnw, rwyf wedi digalonni o weld rhai rhywogaethau adar bron yn diflannu’n llwyr – adar fel y gornchwiglen, y gog a’r gylfinir, gyda dychweliad ei gri soniarus yn arwydd bod y gaeaf o’r diwedd yn dod i ben. Rwyf hefyd yn pryderu o weld dirywiad ffermio fel rhan allweddol o’r economi wledig. Yn fy nghymuned fy hun, roedd tua 12 fferm yn dibynnu’n bennaf ar amaethyddiaeth am eu hincwm yn y 1990au. Erbyn hyn mae’r rhif hwnnw bron wedi haneru.
Wrth wraidd yr ardal hon mae rhosydd sych ac eang Rhostiroedd Rhiwabon, Llandegla a Llandysilio yn Iâl, i’r gorllewin o Wrecsam. Maent i gyd yn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ac yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA). Er bod eu dynodiadau cadwraeth wedi helpu i gynnal yr ardaloedd hyn fel rhostiroedd dros y degawd diwethaf, mae’r ffordd y maent wedi’u rheoli dros y cyfnod hwn wedi amrywio’n sylweddol.
Tirwedd sy’n newid
Gan mlynedd yn ôl, fel llawer o rostiroedd Cymru, rheolwyd yr ardaloedd hyn yn ddwys ar gyfer defaid a grugieir. Nawr mae Rhiwabon yn un o’r ychydig rostiroedd grugieir sydd ar ôl yng Nghymru ac mae’r rhos yn parhau i gael ei thorri neu ei llosgi bob blwyddyn, gan gynhyrchu’r patrwm bwrdd draffts sydd o fudd i rugieir a defaid ac adar sy’n nythu ar y ddaear. Dyma’r rhostir gorau yng Nghymru ar gyfer grugieir du, mae yna niferoedd rhesymol o ylfinirod o hyd ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae cwtiaid aur wedi dychwelyd i fridio.
Ychydig filltiroedd i ffwrdd, ar ochr ogleddol Rhostir Llandegla, gwelwn wrthgyferbyniad mawr. Prin fod y rhostir wedi cael ei bori gan ddefaid ac nid ydyw wedi cael llawer o reolaeth ers nifer o flynyddoedd. Mae prysgwydd yn datblygu’n gyflym ac erbyn 2030, rydym yn disgwyl gweld coed yma, ac nid rhos. Mae poblogaeth yr adar wedi newid, a phrin iawn y gwelir gylfinirod, grugieir coch na du, yn bennaf oherwydd diffyg rheolaeth ar ysglyfaethwyr. Fodd bynnag, gwelir y gog, corhedydd y coed, telor yr helyg, clochdar y cerrig a chrec yr eithin yn aml.
Un o’r risgiau mwyaf i’n rhostiroedd yw tanau gwyllt. Gallai un sigarét a deflir yn ddifeddwl neu farbeciw defnydd untro wedi’i adael arwain at dân mawr a allai fod yn ddinistriol i fywyd gwyllt ac o bosibl, y bobl sydd wedi ymgartrefu o amgylch y rhostiroedd.
Mae ein hinsawdd gynyddol eithafol, gyda chyfnodau gwlyb iawn ac yna gyfnodau poeth, sych iawn, yn cynyddu’r risg o ddigwyddiad o’r fath, fel hwnnw a brofwyd ar Fynydd Llandysilio gerllaw yn ystod haf hir, poeth 2018.
Mae’r grug ar ochr orllewinol y mynydd yn cael ei reoli gan y porwyr, gyda chefnogaeth Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych a CNC. Fodd bynnag, ar yr ochr ddwyreiniol o amgylch Bwlch yr Oernant, prin fu’r rheolaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac yng Ngorffennaf 2018, dechreuodd tân mawr a losgodd tan fis Medi. Llosgodd 250ha o rostir a’r haen fawn i ddyfnder o sawl centimetr, gan ryddhau llawer iawn o garbon i’r atmosffer ar gost o fwy na £100,000 i’r gwasanaeth tân.
Bydd yr effeithiau ar y llystyfiant yn cael eu teimlo am flynyddoedd, neu ddegawdau i ddod o bosibl. Mae gan hyn oblygiadau i’r porwyr a bywyd gwyllt, a gallai fod effeithiau ar reolaeth dŵr hefyd, gan y bydd glaw trwm yn rhedeg oddi ar yr ardaloedd yr effeithiwyd arnynt yn gyflymach.
Dywed y gwyddonwyr hinsawdd wrthym y byddwn yn profi mwy o gyfnodau o dywydd poeth a sych yn y dyfodol, a bydd tanau gwyllt i’w gweld yn amlach os na fyddwn yn canolbwyntio ar reoli ein rhostiroedd.
Nick Thomas ar Foel y Faen, Mynydd Llandysilio, lle bu tân 2018 yn gyfrifol am losgi llystyfiant a’r haen fawn, gan adael craig noeth sy’n annhebygol o aildyfu am ddegawdau
Mae newid ar droed
Mae buddion economaidd rhoi defaid allan i bori ar y rhostiroedd hyn eisoes yn ymylol a chyda 35% o gig oen Cymru yn cael ei allforio, yn bennaf i’r UE, mae’r trafodaethau masnach Brexit sy’n digwydd ar hyn o bryd yn hanfodol i’r diwydiant defaid.
Wrth i’r trafodaethau fynd rhagddynt, mae disgwyl gweld newid mawr yn y system cymorthdaliadau amaethyddol hefyd. Mae’r cyfuniad o’r ddau yn debygol o ddwysáu cyflymder prosesau rheoli newid tir. Gyda thua 50% o incwm y mwyafrif o ffermwyr yn dod o gymorthdaliadau, gallai hyn annog ffermwyr i symud i ffermio sy’n fwy ecogyfeillgar. Neu a fydd economeg yn gyrru ffermwyr ar yr ymylon i roi’r gorau iddi, a’r rhai hynny ar dir mwy ffrwythlon i ffermio’n ddwysach, gan waethygu’r tueddiadau presennol?
Er y gallai cytundebau masnach ar ôl Brexit wneud amaethyddiaeth yng Nghymru yn llai cystadleuol, mynegwyd pryderon hefyd ynghylch diogelwch bwyd a’r gadwyn cyflenwi bwyd fyd-eang.
Mae risg wirioneddol y gallai cynnydd mewn tywydd eithafol, a ysgogir gan newid yn yr hinsawdd, amharu ar gyflenwadau bwyd byd-eang a rhaid i ni fod yn barod am hyn.
Yn ogystal, er efallai y gallwn fewnforio bwyd a phren yn rhatach o dramor, nid yw’r cynhyrchion hyn bob amser yn cael eu cynhyrchu mor gynaliadwy ag yn y DU.
Y ffordd ymlaen
Heb reolaeth draddodiadol, bydd y rhostiroedd hyn yn troi’n brysgwydd ac yn goetiroedd yn y pen draw mewn rhai llefydd, a fydd o bosibl yn cael eu heffeithio o bryd i’w gilydd gan danau. Bydd llawer yn dibynnu ar y dulliau cymorth amaethyddol ar ôl Brexit a bydd cymhellion ar gyfer rheoli rhostiroedd yn hanfodol wrth gyflawni’r canlyniadau sydd eu hangen arnom o ran rheoli tir yn yr ucheldiroedd.
Yn ogystal, mae angen i’r cynllun gael digon o staff maes i gynghori a chefnogi ffermwyr gyda rheolaeth amgylcheddol. Mae CNC a Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych ar fin ariannu rôl Swyddog Rhostiroedd a fydd yn gwneud hyn – dyma gam yn agosach at gael y rhostiroedd hyn mewn cyflwr gwell ar gyfer amaethyddiaeth a bywyd gwyllt a lleihau’r risg o dân.
Os ydym am wella bioamrywiaeth yr ucheldiroedd, mae’n ymwneud â llawer mwy na’r rhostiroedd yn unig. Mae llawer o’r glaswelltir hyd at ymyl y rhostir yn cael ei reoli’n ddwys, yn bennaf ar gyfer defaid. Ddegawdau yn ôl, roedd yr ardaloedd hyn yn fwy cyfoethog o ran blodau ac yn aml roeddent yn bwysig ar gyfer bridio a bwydo i adar, fel y gylfinir a’r cwtiaid aur.
Mae cyfleoedd hefyd i adfywio neu blannu coed yn yr ucheldiroedd hyn. Mae graddfa’r newid mewn defnydd tir sy’n ofynnol i fodloni dyheadau creu coetiroedd Llywodraeth Cymru yn her, ond mae’n ymddangos y bydd cyfleoedd enfawr ar gyfer gwneud hyn yn ystod y degawd hwn. Bydd creu’r ddealltwriaeth ar y cyd o ran ble a sut y gall yr adnodd hwn ddod â buddion i natur, lliniaru’r hinsawdd a pherchnogion tir yn gwneud llawer i helpu Cymru i weithio gyda’i gilydd i gyrraedd targedau creu coetiroedd, a gwireddu beth all rôl yr ucheldiroedd fod yn hyn o beth.
Wrth i ni edrych tuag at ein dyfodol y tu allan i’r UE, gallai cynllun amaeth-amgylcheddol wedi’i ddylunio’n dda gyda chefnogaeth staff i weithio gyda ffermwyr, cytundebau masnach rhesymol, gyda phwyslais ar gynnal neu gynyddu safonau amgylcheddol a lles anifeiliaid, ein gweld yn symud yn agosach at system ffermio fwy cynaliadwy.
Rhaid rhoi pwyslais ar reoli pridd yn dda, i gadw carbon a dŵr yn y pridd, hyrwyddo bioamrywiaeth a darparu cyfleoedd i greu coetiroedd, ynghyd â chadw ffermwyr ar y tir, fel y gallwn ddefnyddio eu sgiliau i ddarparu’r nwyddau a’r gwasanaethau ecosystem hyn.
Mae angen i ni ailbwysleisio pwysigrwydd SoDdGA hefyd, sydd wedi helpu i amddiffyn ein cynefinoedd pwysicaf ac wrth wneud hynny, wedi cefnogi gwasanaethau ecosystem ehangach. Dylai’r rhain ffurfio craidd rhaglenni adfer cynefinoedd ar raddfa fawr a allai ddod â bywyd yn ôl i’n bryniau.
Bydd yn wahanol. A all fod yn well?
Dewch o hyd i mwy o wybodaeth am waith Cyfoeth Naturiol Cymru