Hyfforddiant Doethurol OLD

Short term policy and evidence placements with our member organisations

Lleoliadau polisi a thystiolaeth tymor byr gyda’n haelod-sefydliadau

Gall defnyddwyr tystiolaeth a myfyrwyr elwa’n fawr ar gydweithredu ar brosiectau polisi a thystiolaeth tymor byr. Nod Platfform yr Amgylchedd Cymru yw cynyddu’r ystod o gyfleoedd ar gyfer cydweithredu rhwng ein haelodau.

Mehefin 2020

Cymorth ar gyfer cyflawni’r Strategaeth Coetiroedd i Gymru

Mae tîm Polisi Adnoddau Coedwigoedd Llywodraeth Cymru yn ceisio cymorth i gyflawni’r Strategaeth Coetiroedd i Gymru, sy’n amlinellu’r weledigaeth a’r targedau ar gyfer coed, coetiroedd a choedwigoedd Cymru. Mae’r strategaeth yn seiliedig ar bedair thema strategol:

  • Ymateb i’r newid yn yr hinsawdd
  • Coetiroedd i bobl
  • Sector coedwigoedd cystadleuol ac integredig
  • Ansawdd amgylcheddol

Mae’r tîm yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr yn yr is-adran Tir, Natur a Choedwigaeth wrth iddo symud tuag at ddull mwy cydgysylltiedig o reoli’r defnydd o dir a newid i’r defnydd o dir.

I gael manylion pellach ac i wneud cais, darllenwch y ddogfen isod.

Cefnogi Cymru ar ei thaith tuag at ddod yn genedl ddiwastraff erbyn 2050

Mae is-adran Effeithlonrwydd Adnoddau ac Economi Gylchol Llywodraeth Cymru yn chwilio am fyfyriwr PhD i ddod ar leoliad o fewn ei thîm.   Mae’r tîm yn gyfrifol am gefnogi Cymru ar ei thaith tuag at ddod yn genedl ddiwastraff erbyn 2050, gan arwain ar ystod o weithgareddau yn cynnwys polisi, seilwaith, deddfwriaeth a rheoleiddio Effeithlonrwydd Adnoddau a’r Economi Gylchol.   Mae’r tîm yn gweithio ar draws adrannau, gan ganolbwyntio ar y cyfraniad y gall economi fwy cylchol ei wneud tuag at gyflawni nodau ehangach Llywodraeth Cymru, yn cynnwys ein cynlluniau carbon isel a modelau datblygu economaidd.

I gael manylion pellach ac i wneud cais, darllenwch y ddogfen isod.

Chwefror 2020

Datblygu Strategaeth Drafnidiaeth newydd i Gymru – MAE’R CYFLE HWN WEDI CAU BELLACH

Mae Llywodraeth Cymru yn datblygu Strategaeth Drafnidiaeth newydd i Gymru fel un o brif flaenoriaethau Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ar gyfer gweddill tymor y Cynulliad. Bydd y strategaeth yn gosod gweledigaeth hirdymor ar gyfer trafnidiaeth, dros 25 mlynedd, gyda’r canlyniadau rydym am eu cyflawni a’r dangosyddion perfformiad y byddwn yn eu defnyddio i fesur y canlyniadau hynny.

Rôl deiliad y swydd fydd darparu cymorth wrth gyflawni’r strategaeth, gan gynnwys cynorthwyo i ddarparu dulliau ymgynghori ac ymgysylltu, a darparu cymorth dadansoddol a mewnbwn technegol i gynorthwyo’r sawl sy’n llunio polisïau.

Tachwedd 2019

Datblygu sylfaen dystiolaeth i lywio polisi’r dyfodol ar gyfer rheoli offer pysgota ar ddiwedd eu hoes yng Nghymru – MAE’R CYFLE HWN WEDI CAU BELLACH

Gan weithio o fewn tîm Ecosystemau a Bioamrywiaeth Forol Llywodraeth Cymru, rydym yn edrych am fyfyriwr PhD i gynorthwyo â’r gwaith o ddatblygu’r sylfaen dystiolaeth sydd ei hangen i lywio polisi’r dyfodol ar gyfer rheoli offer pysgota ar ddiwedd eu hoes yng Nghymru.  Yn cau 6 Rhagfyr 2019.


Ar gyfer myfyrwyr

Mae lleoliadau polisi a thystiolaeth mewn sefydliadau fel Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru neu’r Gymdeithas Parciau Cenedlaethol yn rhoi darlun gwerthfawr iawn o sut i gymhwyso gwaith ymchwil yn y byd go iawn. Drwy’r lleoliadau hyn, byddwch yn dysgu sut i gyfleu gwyddoniaeth gymhleth i wneuthurwyr penderfyniadau ac adeiladu eich rhwydweithiau ar gyfer cydweithredu yn y dyfodol.

Gall y prosiectau gynnwys, ymhlith pethau eraill, cyfuno tystiolaeth i greu canllawiau neu argymhellion ar gyfer gwneuthurwyr polisi, casglu tystiolaeth i gefnogi’r gwaith o wneud penderfyniadau ar gyfer rheolaeth amgylcheddol, gwerthuso’r opsiynau ar gyfer gwaith monitro amgylcheddol, cyfrannu at ddatblygu offer a modelau newydd, a llawer mwy.

Caiff y cyfleoedd eu postio yma wrth iddynt godi felly cadwch lygad yn rheolaidd am y newyddion diweddaraf. Y sefydliad cynnal fydd yn penderfynu ar y cyllid ar gyfer pob lleoliad, a ble y bydd wedi’i leoli, a hynny fesul achos.

Ar gyfer defnyddwyr tystiolaeth

Gall gweithio gyda myfyriwr doethurol ar brosiectau tymor byr ddod â sgiliau a phrofiad gwerthfawr i’ch tîm. Mae’n ffordd wych o ddatblygu cysylltiadau newydd â’r gymuned ymchwil a gall fod yn gam tuag at weithio ar brosiectau cydweithredol mwy sylweddol.

Os oes gennych brosiect mewn golwg, cwblhewch y ffurflen cynnig prosiect isod a’i hanfon dros e-bost at sue.cody@epwales.org.uk. Mae canllawiau pellach ar sut i lenwi’r ffurflen a’r hyn sy’n cyfateb i brosiect addas ar gael isod hefyd.


Comments are closed.