Gweithiwch gyda ni | Byddwch yn Bartner i ni

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau ledled Cymru i gyd-gynhyrchu digwyddiadau â thema sy’n cwmpasu ystod eang o bynciau sy’n ymwneud â’r amgylchedd a chynaliadwyedd. Fel rhan o’r gwaith hwn rydym yn cynnal gweithdai casglu tystiolaeth a datblygu polisi gyda Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru drwy gydol y flwyddyn.  

Os oes gennych syniad, bwlch tystiolaeth, ymgynghoriad, neu gyfeiriad polisi yr hoffech gynnal gweithdy ar ei gyfer neu os hoffech arbrofi gyda dulliau newydd o ymgysylltu â rhanddeiliaid gydag ymchwilwyr ac ymarferwyr amgylcheddol ar draws y sector cyhoeddus preifat a’r trydydd sector – gallwn eich helpu!  

Mae ein haelodaeth yn cynnwys 10 prifysgol a sefydliad ymchwil sy’n arbenigo yn y gwyddorau amgylcheddol a chymuned ehangach o ymchwilwyr, academyddion a gweithwyr amgylcheddol proffesiynol ledled Cymru a thu hwnt. Mae ein rhwydwaith yn gyfuniad pwerus o gynrychiolwyr o amrediad o ddisgyblaethau sy’n cwmpasu pob agwedd ar gynaliadwyedd a gwyddor amgylcheddol gan gynnwys peirianneg, gwyddorau cymdeithasol, y celfyddydau a’r dyniaethau.  

Gallwn weithio gyda chi i gael gafael ar yr arbenigwyr sydd eu hangen arnoch, cynnal a rheoli digwyddiadau a hyrwyddo eich gwaith i randdeiliaid allweddol. Pa un a yw’n weithdy wyneb yn wyneb, fforwm drafod, podlediad neu weminar – cysylltwch â ni i weld sut y gallwn helpu.  

Fel arall, os hoffech hyrwyddo eich gwaith, mae ein sianeli cyfryngau cymdeithasol a’n cylchlythyr, ein cyfres o bodlediadau a gweminarau panel ‘In conversation’ yn fan cychwyn ardderchog.  


Darllen mwy: gwirfoddoli – siarad – cyflwyno

Comments are closed.