Rhwng 27 a 29 Mehefin 2023, bydd Platfform Amgylchedd Cymru yn cynnal cynhadledd ar-lein sy’n canolbwyntio ar well ansawdd dŵr i Gymru. Y prif themâu y byddwn yn mynd i’r afael â nhw yn y gynhadledd hon yw:
- Ewtroffigedd Dyfroedd Croyw
- Halogyddion sy’n dod i’r amlwg
- Dyfroedd Ymdrochi Mewndirol
- Trin Dŵr Gwastraff
Os ydych chi wedi bod yn gweithio ar unrhyw un o’r meysydd hyn ac eisiau rhannu eich ymchwil, rydyn ni eisiau clywed gennych chi! Llenwch y ffurflen isod os hoffech gyflwyno yn y gynhadledd a byddwn yn cysylltu â chi.