Mae Platfform yr Amgylchedd Cymru wedi cyhoeddi enillwyr terfynol y Gystadleuaeth Ffotograffiaeth ar thema’r Ucheldiroedd. Bydd y Platfform, sy’n cynrychioli wyth Prifysgol Cymru, Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a Chanolfan Ecoleg a Hydroleg y DU yn canolbwyntio eleni ar wydnwch ardaloedd Ucheldirol yn ei gynhadledd ‘Tystiolaeth Amgylcheddol’ ym mis Medi.
Lansiwyd y gystadleuaeth cyn y gynhadledd, oedd i fod i gael ei chynnal ym Mhrifysgol Aberystwyth, ond nawr bydd yn cael ei ffrydio a’i chynnal ar 14 Medi. Bwriad thema’r gystadleuaeth ffotograffiaeth: ‘Ddoe, heddiw ac yfory’, yw tynnu sylw at yr heriau sy’n wynebu Ucheldiroedd Cymru nawr ac yn y dyfodol.
Dewiswyd pedwar categori y gystadleuaeth i adlewyrchu cymhlethdod ac amrywiaeth tirweddau, pobl, cymunedau, bywyd gwyllt a ffordd o fyw yr Ucheldiroedd a chafwyd cynigion o bob cwr o Gymru – gyda nifer yn dod gan y rheini sydd wedi ymweld â Chymru dros y blynyddoedd un ai fel twristiaid cyson, pobl sy’n dod am y diwrnod neu weithwyr.
Dyma enillwyr a chynigion y gystadleuaeth:
Enillwyr y Categorïau
Tirwedd: Robert (Rob) Miller – y Llwybr Llaethog dros Ddyffryn Ogwen
Pobl: Dr Emyr Roberts – Owie Bryn Eithin
Anifeiliaid/Da Byw: Bradley Carr – Cywion Elyrch ar Gamlas Aberhonddu
18 ac Iau: Seren Friel (Ysgol Cwm Rhondda) – Ffrindiau a Theulu, Llanwynno
Clod Uchel
Tamás Kolossa – Bryniau a haenau oren, Gogledd Cymru
Jon Moorby – Alpacas mewn tirwedd ucheldirol, y dyfodol?
Dywedodd Cyfarwyddwr Platfform yr Amgylchedd Cymru, Dr Jenny Geroni:
“Mae ardaloedd Ucheldirol yn cynrychioli dros 80% o ehangdir Cymru, ac maen nhw’n arbennig o agored i niwed gan yr heriau a ddaw gan COVID-19, Brexit a Newid yn yr Hinsawdd. Mae ein cystadleuaeth a’n cynhadledd hyd yn oed yn bwysicach eleni oherwydd eu bod nhw’n tynnu sylw at frys a maint y dasg sydd o’n blaenau. Fel y gallwch weld o’r cynigion trawiadol rydyn ni wedi eu derbyn, mae’r tirweddau a’r cymunedau’n dangos prydferthwch, cyfoeth a llawnder yn Ucheldiroedd Cymru. Ond er mwyn sicrhau cydnerthedd yn y dyfodol, mae angen inni gydweithio er mwyn cael darlun clir o sut y gallwn ni sicrhau eu bod nhw’n parhau i ffynnu.
“Fis Medi, byddwn ni’n dod ag arweinwyr syniadau, ymchwilwyr ac arbenigwyr yn y maes ynghyd i ystyried y dystiolaeth sydd ar gael i wneud i hyn ddigwydd. Mae’r gystadleuaeth hon yn llythyr caru go iawn – yn deyrnged sy’n ein hatgoffa ni beth sydd yn y fantol. Derbynion ni gyfanswm o 95 o gynigion, ac roedd y gwaith beirniadu yn anodd dros ben, ond dwi’n siŵr y byddwch chi’n cytuno bod yr holl enillwyr wedi helpu i adrodd stori’r Ucheldiroedd. Llongyfarchiadau i’r holl enillwyr a’n dau ffotograffydd sydd wedi cael ‘Clod Uchel’ hefyd!”
Rhagor o wybodaeth
Cynhelir Cynhadledd Ucheldiroedd Cymru: Cydnerthedd Ucheldiroedd Cymru – Safbwynt Tystiolaeth ar-lein 14-18Medi. Mae Mynediad i Bob Man i Gynadleddwyr ar gael am ddim ond £50 a gall myfyrwyr ymuno â’r digwyddiad am £25.
Shaun Lewis Steve Smout Richard Mends-Rees Rob Millar Dr Emyr Roberts Maria Kull
Tamas Kolassa Richard Mends-Rees
Seren Friel Dr Emyr Roberts
Jon Moorby Luke Maggs
Gethin Davies
Gethin Davies