Rheoli perygl llifogydd Cymru – CNC yn lansio cyfres fach newydd o bodlediadau

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi lansio cyfres fach o bodlediadiau 10 rhan sy’n canolbwyntio ar sut mae’n rheoli perygl llifogydd yng Nghymru yn erbyn cefndir hinsawdd sy’n newid.

Mae pob pennod yn edrych ar elfen benodol o reoli perygl llifogydd, ac yn ymdrin ag ystod o bynciau gan gynnwys addasu arfordirol, rhagweld llifogydd a rheoli amddiffynfeydd llifogydd.

Lluniwyd y gyfres i ddangos y gwaith sy’n aml ddim yn cael ei weld sy’n mynd i reoli perygl llifogydd yng Nghymru, ac i esbonio’r effaith y mae’r argyfwng hinsawdd yn ei chael ar waith CNC nawr, a sut mae’n addasu i fynd i’r afael â risg uwch o lifogydd yn y dyfodol.

Ym mhob pennod, mae staff arbenigol CNC yn rhannu eu straeon am sut y daethant i’w maes gwaith ac yn egluro eu rôl yn ymdrech CNC i leihau perygl llifogydd a helpu cymunedau yng Nghymru.

Dywedodd Jeremy Parr, Pennaeth Rheoli Perygl Llifogydd a Digwyddiadau CNC:

“Rydym yn wynebu heriau amgylcheddol mawr yma yng Nghymru ac ar draws y byd. Bydd yr argyfyngau hinsawdd a natur, a’r cynnydd yn lefel y môr, i gyd yn cael effaith ar y ffordd yr ydym yn byw ein bywydau yn y dyfodol a bydd angen i ni wynebu’r heriau hyn trwy ddod o hyd i atebion cynaliadwy ac arloesol.
“Bydd y deg pennod hyn yn rhoi cipolwg i chi ar y gwahanol ffyrdd yr ydym yn rheoli perygl llifogydd yma yng Nghymru. Mae ein gwaith yn eang, ac ym mhob sgwrs, byddwch yn clywed gan arbenigwyr mewn maes penodol o reoli perygl llifogydd.
“Byddwch yn cael gwybod sut y datblygodd eu llwybrau gyrfa a beth maen nhw’n ei wneud yn eu rolau i leihau’r perygl o lifogydd yng Nghymru.”

Mae’r gyfres podlediad ar gael gan yr holl ddarparwyr podlediadau mawr, gan gynnwys Apple Podcasts, Spotify, Amazon Music a mwy. Chwiliwch am ‘Cyfoeth: Podlediad Amgylchedd Cyfoeth Naturiol Cymru’ i wrando.

Cyfoeth: Podlediad Amgylchedd Cyfoeth Naturiol Cymru (buzzsprout.com)

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .