Platfform yr Amgylchedd Cymru yn cyflwyno podlediad newydd o’r enw ‘Curious Minds’ sy’n canolbwyntio ar yrfaoedd

Fel rhan o’n gwaith i gefnogi’r genhedlaeth nesaf o weithwyr amgylcheddol proffesiynol yng Nghymru, mae Platfform yr Amgylchedd Cymru yn cynhyrchu cyfres o sgyrsiau byrion sy’n canolbwyntio ar yrfaoedd a datblygu sgiliau. Bydd y gyfres hon o bodlediadau gan siaradwyr gwadd yn cynnwys gweithwyr amgylcheddol proffesiynol ar ddechrau eu gyrfa o bob rhan o’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector. Bydd y podlediadau’n sôn am amrywiaeth eang o ddisgyblaethau’n ymwneud ag amgylchedd y tir a’r môr, dŵr croyw, pysgodfeydd, pridd, coedwigaeth, ansawdd aer, ecoleg, cadwraeth, datgarboneiddio, a mwy, a nod y gyfres yw ysbrydoli gweithwyr proffesiynol ar ddechrau eu gyrfa i ystyried llwybrau gyrfa newydd a chyffrous.

Fel rhan o ffocws cynyddol ar gymorth ar ddechrau gyrfa a phrofiad myfyrwyr/graddedigion, caiff y gyfres hon o bodlediadau ei chyflwyno wrth i Blatfform yr Amgylchedd Cymru lansio Hwb Gyrfaoedd newydd ar ei wefan, yn ychwanegol at raglenni partneriaeth newydd gydag aelod-sefydliadau yn y gwanwyn a’r haf. Bydd dolenni ar gyfer y podlediadau i’w cael ar yr hwb gyrfaoedd sydd ar ddod, ochr yn ochr â chyfleoedd ymchwil a rhestrau o leoliadau, digwyddiadau a gweithdai.

Rhoi adborth ac adolygu’r podlediadau – a chyfle i ennill Taleb Amazon ar gyfer y Nadolig!

Fel ymdrech i ddatblygu a gwella’r gyfres hon o bodlediadau, mae Platfform yr Amgylchedd Cymru yn gwahodd myfyrwyr, graddedigion a gweithwyr proffesiynol ar ddechrau eu gyrfa i wrando ar y podlediadau a’u hadolygu – a thrwy wneud hynny, cewch gyfle i ennill talebau Amazon yn barod ar gyfer y Nadolig.

Beth am adolygu’r podlediad a rhannu eich barn – cewch gyfle i ennill taleb £50 i sbarduno dathliadau’r Blwyddyn Newydd! (dolen)

Dyma a ddywedodd Gemma Treharne-Foose, cyflwynydd y podlediad ac arweinydd cyfathrebu Platfform yr Amgylchedd Cymru:

“Mae hi’n adeg anodd ar hyn o bryd i fyfyrwyr, graddedigion a gweithwyr proffesiynol ar ddechrau eu gyrfa. Rydyn ni’n gweithio gyda’n haelodau, eu harweinwyr recriwtio a’u harweinwyr graddedigion i gynnig cyfleoedd newydd a chyffrous i’r rhai sydd â diddordeb mewn dilyn gyrfa yn y gwyddorau amgylcheddol. Mae’r podlediadau’n rhan bwysig o’n cenhadaeth i ddangos yr amrywiaeth o swyddi sydd ar gael yn y meysydd gwyddorau amgylcheddol a pheirianneg, er mwyn tynnu sylw at fylchau mewn sgiliau ac archwilio gwahanol lwybrau gyrfa….”

Gwrandewch ar ein Podlediad ‘Curious Minds’ neu gwyliwch ein gweddarllediad ‘Mewn:cysylltiad’

Caiff podlediadau ‘Curious Minds’ gan Blatfform yr Amgylchedd Cymru eu cynnwys ar y prif blatfformau adloniant/ffrydio – Spotify, Anchor, Google Podcasts, Breaker, RadioPublic a Pocket Cast: chwiliwch am ‘Curious Minds by Environment Platform Wales’.

Gallwch hefyd wylio rhifynnau blaenorol o’n gwe-gyfres ‘Mewn:cysylltiad’ (lle rydyn ni’n trafod pynciau amgylcheddol amrywiol gyda phanel o arbenigwyr a gwesteion) trwy gyfrwng ein sianel Vimeo.


Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .