Mewn:cysylltiad Pennod 4 – Newid tymhorau, tir newydd: edrych ymlaen at Dystiolaeth Amgylchedd 2020

Dydd Mawrth 8 Medi

11.30 – 13.00 

Adeg ddigynsail yn ucheldiroedd Cymru

Ymunwch â ni ar gyfer pedwaredd ran ein cyfres Zoom ar y we newydd, In:conversation:, lle mae amrediad o siaradwyr sy’n cynrychioli safbwyntiau a chanfyddiadau amrywiol mewn perthynas â gwyddor yr amgylchedd yn dod ynghyd. Gan ddefnyddio technoleg Zoom, rydym yn creu gofod er mwyn cynnal momentwm yn ein gwaith, a lle i’n cymuned gyfarfod, rhannu syniadau a chysylltu. 

Nod y bedwaredd bennod yn ein cyfres o ddarllediadau gwe fydd ein hatgoffa o gyfraniadau a phwyntiau allweddol gwesteion blaenorol dros y tair pennod ddiwethaf. Bydd ‘Newid tymhorau, tir newydd’ yn croesawu lleisiau newydd a gwesteion arbennig a fydd yn rhannu eu dulliau a’u safbwyntiau unigryw ar sicrhau gwydnwch yn yr ucheldiroedd.

Rob Millar

Mae Jenny Geroni, Cyfarwyddwr Platfform Amgylchedd Cymru, yn rhannu’r hyn y gall gwylwyr ei ddisgwyl ar gyfer Pennod 4:

“Mae wedi bod yn enwedig o ddyrchafol a chalonogol i weld yr ymgysylltiad â’n darllediadau gwe byw, a’r diddordeb ynddynt, ac mae dod â’r gyfres hon at ei gilydd mewn amgylchedd mor heriol wedi bod yn gromlin ddysgu i ni i gyd. Ond mae wedi bod yn wych gallu canolbwyntio’n fanwl ar amrediad o destunau sy’n berthnasol i’r rhaglen rydym yn ei chynnal ar gyfer Tystiolaeth Amgylchedd 2020 – ac mae recordio’r darllediadau gwe byw wedi bod yn ffordd dda iawn o sicrhau y gall pobl ymgysylltu ar eu cyflymder ac yn eu hamser eu hunain.

“Ym Mhennod 4, byddwn yn rhannu uchafbwyntiau gorau’r penodau blaenorol er mwyn rhoi cyd-destun i’r materion llosg sy’n dod i’r amlwg o’r maes hwn. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu detholiad o gyfeillion da o gymuned Platfform Amgylchedd Cymru, a Hybu Cig Cymru, sef noddwyr newydd y gynhadledd, a fydd yn rhannu eu safbwyntiau eu hunain mewn perthynas â’u gwaith. Hoffem ddiolch i bawb am eu cefnogaeth a’u hanogaeth gyda’r penodau i gyd hyd yn hyn – mae wedi rhoi’r egni i ni barhau ac i ehangu ar y mathau o gymorth y gallwn ei gynnig i’n haelodau a’n partneriaid.”

Unsplash

Edrych ymlaen i’r cynhadledd

Yn ogystal â’n hatgoffa o’r themâu sy’n dod i’r amlwg o’n trafodaethau yn ystod y darllediadau gwe, byddwn yn edrych ymlaen at ein cynhadledd ar-lein ym mis Medi ac yn amlinellu sut y gellir cael mynediad i’n prif areithiau dethol, sesiynau rhyngweithiol a chyflwyniadau poster drwy ein profiad ap newydd.

Mae ein gwesteion arbennig yr wythnos hon yn cynnwys:

  • Angelina Sanderson Bellamy (Cymrawd Ymchwil Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Caerdydd)
  • Catherine Duigan (y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur)
  • Dr Owen Roberts (Hybu Cig Cymru)

Dal i fyny ar Pennod 1 (Covid-19, Brexit & newid hinsawdd – y storm perffaith?)

Dal i fyny ar Pennod 2: (Ecosystemau a bioamrywiaeth yn Ucheldiroedd Cymru)

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .