Gweithdy: Heriau a chyfleoedd ar gyfer datblygu gwledig yng Nghymru

Mawrth 2ail Mawrth, 9.55yb-15.05yp

Llun gan Wales on View/Wales Assets

Beth yw dyfodol datblygu gwledig ar ôl Brexit?

Wrth i ni ffarwelio â strwythurau’r UE mae Llywodraeth Cymru yn edrych tua’r dyfodol ac yn awyddus i ystyried beth yn union yw llwyddiant ar draws ein sectorau a’n cymunedau gwledig.

Nod y gweithdy

Nod y gweithdy hwn yw sbarduno trafodaeth ac ystyried y dystiolaeth o ran yr heriau a’r cyfleoedd sydd ynghlwm wrth ddatblygu gwledig yng Nghymru – gan gwmpasu amaethyddiaeth, bwyd, Iechyd a lles anifeiliaid, ynni, yr amgylchedd/rheoli tir a’r economi wledig.

Byddwn yn dwyn ynghyd wahanol safbwyntiau er mwyn dechrau creu darlun o’r system gymhleth hon ac yn pennu’r meysydd ble y bydd cefnogaeth ac ymyrraeth yn sbarduno’r manteision cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol gorau.

Cofrestrwch eich diddordeb

Cliciwch yma i gofrestru eich diddordeb yn y digwyddiad hwn.


Comments are closed.