Rhagfyr 3ydd, 10-12yb
Ymunwch â’n digwyddiad byw i weld sut mae Cymru Fyw wedi datblygu gallu unigryw i helpu Cymru delio â heriau byd-eang a lleol drwy arsylwadau’r Ddaear.
Mewn partneriaeth â Cymru Fyw, hoffai Platfform Amgylchedd Cymru eich gwahodd i ddigwyddiad rhithwir ar Ragfyr 3ydd 2020 (10yb-hanner dydd) i ddysgu ffyrdd newydd o edrych ar ein tirweddau sy’n newid yn barhaus a sut i ddeall, cael mynediad agored a defnyddio adnoddau cynyddol Cymru Fyw.
Dros y tair blynedd diwethaf, mae prosiect Cymru Fyw / Living Wales wedi bod yn gwneud gwaith ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth i wella’r capasiti cenedlaethol ar gyfer mapio tir a monitro newidiadau drwy arsylwadau’r Ddaear.
Mae nhw bellach yn barod i ryddhau mapiau agored cyntaf ar gyfer Cymru (ar gyfer 2017, 2018 a 2019) yn ogystal ag adnodd sylweddol ar dirwedd ac amgylchedd Cymru.
I ddathlu’r garreg filltir hon, hoffai Cymru Fyw eich gwahodd i ddigwyddiad rhithwir ddydd Iau 3 Rhagfyr rhwng 10am a hanner dydd, lle byddant yn rhoi trosolwg o gysyniadau a dulliau Cymru Fyw, yn darparu mynediad i setiau data ac yn cyfleu’r manteision tymor byr i hirdymor i Gymru. Bydd y deunydd a gyflwynir hefyd ar gael i gyfeirio ato yn y dyfodol ar wefan Cymru Fyw.
Pwy ddylai fod yn bresennol?
Bydd y digwyddiad hwn o ddiddordeb i’r rhai sydd â diddordeb mewn:
- Monitro ac arsylwi
- Rheoli tir
- Cynefinoedd a bioamrywiaeth
- Tirweddau, adfer, dad-ddofi tir ac ecoleg
- Ffermio ac amaethyddiaeth – polisi a thystiolaeth
- Lles, addysg awyr agored, gwaith allgymorth yn y gymuned leol
Mae prosiect Cymru Fyw ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi datblygu adnodd unigryw i alluogi Cymru i fynd i’r afael â heriau lleol a byd-eang drwy arsylwadau’r Ddaear.
Bydd y meysydd trafod yn cynnwys:
· Cyflwyniad i Cymru Fyw
· Arsylwadau lloeren ac o’r awyr
· Disgrifwyr amgylcheddol
· Categorïau tiroedd Cymru
· Perthnasedd i gynefinoedd
· Newidiadau i’r tirwedd ar sail tystiolaeth
· Cymru Fyw ar y ddaear
· Ymgysylltu byd-eang
· Adfer ecosystemau a thirweddau’r dyfodol
· Cysylltiadau â pholisi, yr economi, llesiant a rheoli tir
· Addysg ac allgymorth
· Gyrru ac ymateb i uchelgeisiau cenedlaethol a rhyngwladol
Caiff y digwyddiad ei arwain gan yr Athro Richard Lucas sy’n dal Cadair Ymchwil Sêr Cymru yng Ngrŵp Ymchwil Arsylwi’r Ddaear a Dynameg Ecosystemau Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth.
Ymunwch â ni – cofrestrwch!
Bydd hwn yn ddigwyddiad caeedig, a gynhelir drwy Zoom ac mae rhaid i chi gofrestru ymlaen llaw. Cliciwch y botwm ‘Cofrestru’ isod i gofrestru drwy’r tudalen Zoom (byddwch yn cael eich atgoffa).
Darllenwch fwy am Cymru Fyw yn ein cyfweliad â’r Athro Richard Lucas – ‘Cymru Fyw: Y mapiau lloeren a allai ragweld ein dyfodol’ (Cyswllt mewnol, Saesneg yn unig)