#byddwchynchwilfrydig a chlywed gan amrywiaeth o weithwyr amgylcheddol proffesiynol yng Nghymru
Fel rhan o’n gwaith i gefnogi’r genhedlaeth nesaf o weithwyr amgylcheddol proffesiynol yng Nghymru, mae Platfform yr Amgylchedd Cymru wedi datblygu ‘Curious Minds’, cyfres o sgyrsiau ar ffurf podlediad sy’n canolbwyntio ar yrfaoedd a datblygu sgiliau.
Mae’r sgyrsiau anffurfiol yn cynnwys gweithwyr proffesiynol amgylcheddol yn gynnar yn eu gyrfa o bob rhan o’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector. Rydym yn cwmpasu ystod eang o ddisgyblaethau sy’n gysylltiedig â’r amgylchedd morol a daearol, dŵr croyw, pysgodfeydd, priddoedd, coedwigaeth, ansawdd aer, ecoleg, cadwraeth, datgarboneiddio a mwy.
Sgyrsiau byrion ac ysbrydoliaeth gyrfa
Cynhelir y podlediadau hyn ar safle cynnal podlediadau Anchor a’r llwyfannau adloniant/ffrydio blaenllaw Spotify, Breaker, Google Podcasts, Pocket Casts a Radio Public. Gobeithiwn y bydd y gyfres fer hon yn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r amrywiaeth o swyddi sydd ar gael yn y gwyddorau amgylcheddol a pheirianneg, tynnu sylw at fylchau mewn sgiliau a rhoi cyfle i fyfyrwyr archwilio gwahanol lwybrau gyrfa posibl.
Dywedwch eich stori – ymunwch â ni ar bennod o’n podlediad ‘Curious Minds’
Os ydych chi’n frwdfrydig ac yn angerddol am yr hyn rydych chi’n ei wneud ac yn meddwl y gallech chi helpu i dynnu sylw at gyfleoedd yn eich maes gwaith, byddem wrth ein bodd yn cydweithio. Defnyddiwch y dolen isod i gysylltu â ni ynghylch ymuno â ni ar bodlediad yn y dyfodol.
Dewch i ymuno’r podleiad – cysylltwch â ni
Rhannwch eich adborth am ‘Curious Minds’ – ac ennill taleb! (Stori newyddion, Platfform yr Amgylchedd Cymru)
Fel rhan o’r ymdrechion i ddatblygu a gwella’r gyfres podlediadau, mae Platfform yr Amgylchedd Cymru yn gwahodd myfyrwyr, graddedigion a gweithwyr proffesiynol yn gynnar yn eu gyrfa i wrando ac adolygu’r podlediadau er mwyn cael cyfle i ennill talebau Amazon ar gyfer y Nadolig.