Yn dilyn ymadawiad cyn Gyfarwyddwr Platfform yr Amgylchedd Cymru, Dr Jenny Geroni (sydd bellach wedi ymuno â’r tîm yn Amgueddfa Cymru), mae Platfform yr Amgylchedd Cymru wedi croesawu Cyfarwyddwr newydd. Bydd Andy Schofield yn arwain y Platfform yn dilyn gyrfa’n adeiladu ei arbenigedd ym maes rheoli strategol mewn amrywiaeth o rolau amgylcheddol.
Mae Andy wedi treulio’i yrfa’n gweithio yng Nghymru ym meysydd pysgodfeydd, cadwraeth, rheoli tir ac ansawdd dŵr. Cyn symud i’r byd academaidd, treuliodd dair blynedd yn gweithio ar brosiect Morlyn Llanw Bae Abertawe, gan ddatblygu modelau asesu effeithiau a methodolegau lliniaru yn gysylltiedig â phoblogaethau pysgod. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf bu’n rheoli Cynghrair Diogelwch Dŵr GW4, gan hwyluso cydweithrediad rhwng rhanddeiliaid ac ymchwilwyr dŵr o brifysgolion Caerfaddon, Bryste, Caerdydd a Chaerwysg.
Yn ei rôl newydd fel Cyfarwyddwr y Platfform, mae Andy’n gobeithio rhannu’r hyn y mae wedi’i ddysgu drwy gydol ei yrfa i sicrhau bod ymchwilwyr o Gymru’n gallu cael gafael ar gyllid i gyflwyno gwaith ymchwil perthnasol sy’n cyfrannu at ddiogelu ein hamgylchedd anhygoel yma yng Nghymru.
Bydd y gwaith a gyflwynir gan dîm y Platfform hefyd yn cydnabod y pwysau ychwanegol ar ymchwilwyr a’r cyfleoedd y mae myfyrwyr wedi’u colli oherwydd y pandemig.
Meddai Andy:
“Er ein bod wedi colli cyfarfodydd wyneb yn wyneb, mae newid i sgyrsiau, gweithdai a chynadleddau ar-lein wedi arwain at lai o allyriadau ac wedi arbed amser a chostau sylweddol sy’n gysylltiedig â theithio. Bydd y tîm yn addasu’r gwaith o gyflwyno digwyddiadau ymhellach i ddiwallu anghenion ymchwilwyr, myfyrwyr a rhanddeiliaid gyda dull hybrid lle bo modd, gan roi’r dewis i fynychwyr fynychu’n bersonol neu ar-lein.”
“Rwy’n credu bod darparu cyfleoedd symbiotig i fyfyrwyr (ac ymchwilwyr) gael profiad o waith mewn lleoliadau anacademaidd yn hollbwysig, gan alluogi’r ddau bartner i ddeall heriau ei gilydd yn well yn ogystal â chefnogi datblygiad sgiliau unigol a gwell rhagolygon gyrfaol.”
“Gall Cymru chwarae rhan flaenllaw wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a’i effeithiau ac er ein bod yn wynebu llawer o heriau amgylcheddol yn sgil ymddygiad cymdeithas heddiw ac yn y gorffennol, ddylen ni ddim anghofio dathlu a mwynhau’r llu o agweddau cadarnhaol ar ein cymunedau a’n hamgylchedd gwych yng Nghymru…”
Pan nad yw’n gweithio, mae Andy wrth ei fodd yn treulio amser yn rhedeg a cherdded yn yr ardal o amgylch Pen-y-bont ar Ogwr a Bro Morgannwg, gan fynd ar drywydd ein bywyd gwyllt swil, sydd – meddai Andy – yn haws dweud na gwneud pan rydych chi’n cael eich tynnu gan “Labrador sy’n llawn mynd!”
“Dwi wedi treulio bron i 30 mlynedd yn chwarae ac yn hyfforddi gyda Chlwb Hoci Pen-y-bont ar Ogwr ac roeddwn i’n edrych ymlaen at gynrychioli Cymru yng Nghwpan y Byd y Meistri 2020 yn Ne Affrica tan iddo gael ei ohirio oherwydd Covid – y gobaith yw cadw fy nghoesau i symud am flwyddyn arall a rhoi cynnig arall arni!”