Diwrnod Aer Glân Cymru 2020: Ailgodi’n Gryfach

Dydd Iau, 8fed Hydref, 11yb-12.30yp

Mewn cydweithrediad arbennig â Llywodraeth Cymru ar gyfer Diwrnod Aer Glân Cymru 2020, mae Platfform yr Amgylchedd Cymru (EP Cymru) yn cynnal trafodaeth gyda phanelwyr gwadd arbennig i drafod sut y gallwn wella ansawdd aer yng Nghymru.  

Bydd y panelwyr Ben Hudson o Global Action Plan, Ian Taylor o Transport for Quality of Life ac Alice Swift o Sustrans yn rhannu eu syniadau cyn inni agor y sesiwn ar gyfer cwestiynau byw oddi wrth westeion.  

Bydd y sesiwn hon yn cael ei recordio. Gallwch gyflwyno cwestiynau’n ddienw cyn y gweddarllediad. Bydd cwestiynau’n cael eu casglu a’u cymedroli gan ein cadeirydd annibynnol, Cyfarwyddwr EP Cymru, Jennifer Geroni.   

Bydd y sesiwn 1.5 awr hon, sy’n rhad ac am ddim, yn edrych ar sut y gallwn wella ansawdd aer yng Nghymru drwy:  

• Fentrau codi ymwybyddiaeth ac ymgysylltu â’r gymuned 

• Atebion radical ym maes trafnidiaeth  

• Strydoedd ysgol 

Bwriedir y weminar hon ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb yn yr her o sicrhau aer glân, trafnidiaeth gynaliadwy a chymunedau iach.   

Bydd y gweddarllediad hwn o ddiddordeb arbennig i unigolion a grwpiau yn y diwydiannau / sectorau a ganlyn:   

Ansawdd aer, teithio llesol a thrafnidiaeth, cynllunio, datgarboneiddio, iechyd y cyhoedd, cymunedau cynaliadwy.  

Mae croeso i bawb fod yn bresennol. 


Ein siaradwyr

Ben Hudson

Ben fu’n arwain ymchwil ac ymgyrch Global Action Plan (GAP) i sicrhau aer glanach yn ystod y cyfnod o gyfyngiadau symud. Ef yw Pennaeth Dealltwriaeth ac Ymgysylltu, ac mae ei rôl yn GAP yn cynnwys goruchwylio prosiectau cymunedol a chyfrannu at ddealltwriaeth, gwaith dadansoddi, a mesur effaith. 

Cyn i Cyfnewidfa Gynaliadwyedd Llundain (LSx) uno â Global Action Plan yn 2019, Ben oedd Cyfarwyddwr Prosiectau’r Gyfnewidfa honno. Ef oedd yn arwain y gwaith o ddatblygu a chynnal rhaglenni a phrosiectau ymgysylltu â’r gymuned er mwyn mynd i’r afael â llygredd aer. 

Alice Swift

Mae Alice yn cydlynu’r rhaglen Strydoedd Ysgol ar gyfer elusen Sustrans, gan weithio i leihau nifer y ceir sy’n cludo disgyblion i’r ysgol – un o ddangosyddion allweddol tref neu ddinas iach. Mae’n frwd iawn dros greu strydoedd llesol sy’n ystyriol o blant, ac sy’n cael eu llunio gan y cymunedau sy’n eu defnyddio. 

Ian Taylor

Mae Ian yn un o Gyd-gyfarwyddwyr melin drafod a gwasanaeth ymgynghori  Transport for Quality of Life, sy’n gweithio ym maes trafnidiaeth gynaliadwy. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio ar brosiectau sy’n edrych ar sut i sicrhau trafnidiaeth sy’n addas ar gyfer yr Argyfwng Hinsawdd ac ar sut i ailgodi’n gryfach ar ôl y Coronafeirws. Mae’n arwain y gwaith sy’n cael ei wneud gan Transport for Quality of Life i ddadansoddi ffyrdd o wella systemau rheilffyrdd a systemau bysiau Prydain, ac mae wedi gweithio ar secondiad gydag Ysgrifennydd Gwladol yr Wrthblaid dros Drafnidiaeth i arwain y gwaith o ddatblygu polisi’r Blaid Lafur ar reilffyrdd a materion eraill sy’n gysylltiedig â thrafnidiaeth. 

Mae gwaith arall Ian yn cynnwys dylunio a gwerthuso cynlluniau trafnidiaeth gynaliadwy ar gyfer yr Adran Drafnidiaeth ac awdurdodau lleol. Bu’n rheolwr gwasanaethau ymgynghori amgylcheddol ar gyfer y Ganolfan Dechnoleg Amgen; yn gynghorydd gwleidyddol gwyddonol ar gyfer Greenpeace; ac yn ymgyrchydd dros Oxfam. 


I archebu lle, cliciwch ar y botwm isod a llenwch y tudalen Zoom. Cewch nodyn atgoffa oddi wrth Zoom a linc i ynuno’r digwyddiad.

Dewch o hyd i mwy o wybodaeth ynlgyn a ansawdd Aer Glân yn ystod y cyfnod clo

Dewch o hyd i mwy o wybodaeth am Diwrnod Aer Glân a mynediad i adnoddau rhad ac am ddim

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .