Crynodeb o Weithgaredd Platfform Amgylchedd Cymru (2022-2024)

  • Mae EPW wedi dylanwadu, drwy hyrwyddo, hwyluso digwyddiadau, cymorth uniongyrchol ar gynigion a phaneli asesu prosiectau, dros £12,000,000 o gyllid ymchwil. Mae hyn wedi cynnwys:
    • Cefnogi ceisiadau llwyddiannus am gyllid UKRI gwerth £8.3m
    • Hwyluso bidiau i gyllidwyr eraill £243k
    • Annog a chynorthwyo cymorth ymchwil sy’n canolbwyntio ar yr amgylchedd gan Lywodraeth Cymru £3.5m

  • Ers 2021, mae EPW wedi cynnal tair cynhadledd fawr:
    • Cynhadledd Ansawdd Aer (Abertawe – 2022)
    • Cynhadledd Gwell Ansawdd Dŵr i Gymru (Casnewydd – 2023)
    • Cynhadledd Tystiolaeth Forol (Bangor – 2024)

Cynhaliwyd yr holl gynadleddau mewn fformat hybrid, a fynychwyd am ddim gan dros 550 o unigolion o bartneriaid craidd EPW a chyrff allanol eraill.

  • Mae Cronfa Ddata Ymchwilwyr EPW wedi’i sefydlu sy’n rhoi mynediad cyflym i ddarpar gydweithwyr i 850 ymchwilwyr ar draws partneriaeth EPW.

  • Mae EPW wedi cefnogi Llywodraeth Cymru a CNC i ddarparu a recriwtio dros 90 o fyfyrwyr PhD ar gyfer lleoliadau ymchwil amgylcheddol tri mis gyda mwy na 50% o leoedd yn cael eu llenwi gan fyfyrwyr ym mhrifysgolion Cymru.

  • Mae staff EPW wedi mynychu ffeiriau gyrfaoedd ym mhob sefydliad er mwyn rhoi cyngor ac arweiniad i fwy na 750 o fyfyrwyr sy’n dymuno dilyn gyrfaoedd amgylcheddol.
  • Mae EPW wedi sefydlu wyth cymuned ymchwil, sy’n cynnwys academyddion (a phartneriaid allanol) o bob rhan o’r sefydliadau partner. Mae’r rhain yn cynnwys:
    • Diogelwch Tomenni Glo
    • Ansawdd Dŵr
    • Rheoli Dŵr Cronfeydd Dŵr
    • Amgylchedd a Heddwch
    • Tirweddau Dynodedig
    • Tystiolaeth Forol
    • Fforwm Carbon Glas
    • Arsylwi’r Ddaear (Delweddau Lloeren)

Yn ogystal â chyfarfodydd ar-lein rheolaidd y grwpiau uchod, mae EPW wedi hwyluso gweithdai wyneb yn wyneb yng Nghaerdydd, Aberystwyth a Wrecsam.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .