Platfform Amgylchedd Cymru yn Ffair Yrfaoedd Cymru Gyfan 2021

Unwaith eto, bydd Platfform Amgylchedd Cymru yn partneru gyda holl Brifysgolion Cymru a llu o sefydliadau sector preifat a chyhoeddus eraill yn Ffair Yrfaoedd Cymru 2021. Wedi’i gynnal ar y cyd â GTI a Target Connect, mae’n gyfle i raddedigion a myfyrwyr Cymru gwrdd â chyflogwyr , derbyn cyngor a syniadau sy’n hybu llwybrau gyrfaoedd newydd a cyfleoedd annisgwyl posib yn y maes ymchwil, tystiolaeth a pholisi. Dewch i ddweud shw’mae – cofrestrwch nawr!