1ymhob5 yw fframwaith sy’n galluogi’r gymuned academaidd i ganolbwyntio rhywfaint o’i gallu deallusol ar faterion amgylcheddol, hinsawdd a bioamrywiaeth. Rydym yn adeiladu ar waith y prosiect 1 ymhob 5 i gydnabod cyfraniadau i ymchwil amgylcheddol, hinsawdd a bioamrywiaeth o bob rhan o Gymru.
Yn y DU yn unig, bob blwyddyn, mae tua 500,000 o fyfyrwyr yn cwblhau gradd israddedig. Yn eu blwyddyn olaf, mae bron pob myfyriwr, mewn cydweithrediad â ni ac â goruchwylwyr academaidd arbenigol, yn cyflawni darn sylweddol o waith uwch: prosiect ymchwil, cyfansoddiad, traethawd hir, sioe ac ati. Pe bai 1 ymhob 5 o’r darnau hyn o waith yn canolbwyntio ar newid amgylcheddol, gallai fod effaith sylweddol.
Oes angen ysbrydoliaeth ar gyfer pwnc eich traethawd hir?