- Mae EPW wedi dylanwadu, drwy hyrwyddo, hwyluso digwyddiadau, cymorth uniongyrchol ar gynigion a phaneli asesu prosiectau, dros £12,000,000 o gyllid ymchwil. Mae hyn wedi cynnwys:
- Cefnogi ceisiadau llwyddiannus am gyllid UKRI gwerth £8.3m
- Hwyluso bidiau i gyllidwyr eraill £243k
- Annog a chynorthwyo cymorth ymchwil sy’n canolbwyntio ar yr amgylchedd gan Lywodraeth Cymru £3.5m
- Ers 2021, mae EPW wedi cynnal tair cynhadledd fawr:
- Cynhadledd Ansawdd Aer (Abertawe – 2022)
- Cynhadledd Gwell Ansawdd Dŵr i Gymru (Casnewydd – 2023)
- Cynhadledd Tystiolaeth Forol (Bangor – 2024)
Cynhaliwyd yr holl gynadleddau mewn fformat hybrid, a fynychwyd am ddim gan dros 550 o unigolion o bartneriaid craidd EPW a chyrff allanol eraill.
- Mae Cronfa Ddata Ymchwilwyr EPW wedi’i sefydlu sy’n rhoi mynediad cyflym i ddarpar gydweithwyr i 850 ymchwilwyr ar draws partneriaeth EPW.
- Mae EPW wedi cefnogi Llywodraeth Cymru a CNC i ddarparu a recriwtio dros 90 o fyfyrwyr PhD ar gyfer lleoliadau ymchwil amgylcheddol tri mis gyda mwy na 50% o leoedd yn cael eu llenwi gan fyfyrwyr ym mhrifysgolion Cymru.
- Mae staff EPW wedi mynychu ffeiriau gyrfaoedd ym mhob sefydliad er mwyn rhoi cyngor ac arweiniad i fwy na 750 o fyfyrwyr sy’n dymuno dilyn gyrfaoedd amgylcheddol.
- Mae EPW wedi sefydlu wyth cymuned ymchwil, sy’n cynnwys academyddion (a phartneriaid allanol) o bob rhan o’r sefydliadau partner. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Diogelwch Tomenni Glo
- Ansawdd Dŵr
- Rheoli Dŵr Cronfeydd Dŵr
- Amgylchedd a Heddwch
- Tirweddau Dynodedig
- Tystiolaeth Forol
- Fforwm Carbon Glas
- Arsylwi’r Ddaear (Delweddau Lloeren)
Yn ogystal â chyfarfodydd ar-lein rheolaidd y grwpiau uchod, mae EPW wedi hwyluso gweithdai wyneb yn wyneb yng Nghaerdydd, Aberystwyth a Wrecsam.