Mewn:cysylltiad – A ydym yn barod ar gyfer newid hinsawdd?

Mawrth, 3ydd Tach, 12.15 – 14.15yp

Ymunwch a’r gweiminar fyw


Er gwaethaf blynyddoedd o addewidion gan lywodraethau ledled y byd, rydym yn dal i fod ymhell iawn o leihau digon ar allyriadau carbon i gadw’r cynnydd yn nhymheredd y byd dan 2 radd Celsius. Er mai cynnydd bach mewn tymheredd yw hwn i bob golwg, fe fydd yn arwain at newidiadau mawr ym mhatrymau tywydd y byd, gan effeithio ar y ffordd rydym yn byw. Yn y blynyddoedd nesaf, fe fydd yn rhaid inni addasu i fwy o lifogydd a sychder a’r effaith a gaiff hyn ar dai, cynhyrchu bwyd a’r gallu i gael gafael ar gyflenwadau sefydlog o ynni a dŵr. Fel rhan o Wythnos Hinsawdd Cymru, rydym yn dwyn ynghyd bobl sy’n arbenigo mewn seicoleg risg, diogelwch bwyd, adnoddau dŵr a newid amgylcheddol er mwyn gweld a ydym wedi paratoi ar gyfer y newidiadau sydd i ddod.

Ymunwch â’n pumed sesiwn o Mewn:Trafodaeth, sef ein gwe-gyfres Zoom lle caiff gwahanol siaradwyr sy’n cynrychioli amrywiaeth o safbwyntiau’n ymwneud â Gwyddor yr Amgylchedd eu dwyn ynghyd. Gan ddefnyddio technoleg Zoom, rydym yn creu lle i gynnal y momentwm yn ein gwaith, ynghyd â lle i’n cymuned gyfarfod, rhannu syniadau a chysylltu.

Rydym yn edrych ymlaen at gynnal y sesiwn hon, a byddem wrth ein bodd pe bai modd i chi ymuno â ni. Wrth gwrs, fe fydd yna gyfle i ymuno â’r drafodaeth a gofyn cwestiynau… dewch yn llawn chwilfrydedd (a dewch â lluniaeth hefyd!).

Sylwer: bydd y weminar hon yn cael ei recordio a bydd modd ei gwylio ar ôl y darllediad.

Cyfarfod â’r siaradwyr

Dr Briony McDonagh, Prifysgol Hull

Mae Briony McDonagh yn Ddarllenydd mewn Daearyddiaeth Hanesyddol ym Mhrifysgol Hull, lle mae hi hefyd yn Gyfarwyddwr y Coleg Doethurol. Mae hi wedi cyhoeddi llawer o ddeunyddiau’n ymwneud â’r dirwedd a newid amgylcheddol (yn enwedig yng nghyswllt Prydain yn y canol oesoedd a’r cyfnod modern cynnar), hanes merched, a’r ddaearyddiaeth hanesyddol sydd ynghlwm wrth diroedd caeedig, tiroedd comin a phrotestio. Ar hyn o bryd, hi yw Prif Ymchwilydd ‘Risky Cities: Living with Water in an Uncertain Future Climate’, sef prosiect 24 mis a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau sy’n anelu at ddysgu ar sail y gorffennol er mwyn meithrin ymwybyddiaeth o’r hinsawdd, yn awr ac ar gyfer y dyfodol.

Yr Athro Nick Pidgeon, Prifysgol Caerdydd

Nick yw Cyfarwyddwr y Grŵp Ymchwil Deall Risg o fewn yr Ysgol a’r Brifysgol. Mae’n gweithio ar asesu risgiau, dirnad a chyfathrebu risgiau, ymgysylltu â’r cyhoedd mewn perthynas â risgiau a thechnoleg, a phennu gwerth gwasanaethau ecosystemau. Mae ei ymchwil yn rhyngddisgyblaethol, gan ddwyn ynghyd seicoleg gymdeithasol, gwyddorau amgylcheddol a daearyddiaeth ddynol, ac astudiaethau gwyddoniaeth a thechnoleg. Ar hyn o bryd mae’n ymchwilio i ymatebion y cyhoedd i newidiadau mewn systemau ynni, risgiau newid hinsawdd, technolegau datblygol (yn cynnwys cael gwared â nwyon tŷ gwydr

Dr Angelina Sanderson Bellamy – Prifysgol Caerdydd

Mae Angelina yn Uwch Gymrawd Ymchwil yn y Sefydliad Lleoedd Cynaliadwy. Mae’n gweithio ar themâu’n ymwneud â systemau bwyd cynaliadwy, newidiadau yn y defnydd o dir, gwytnwch ecolegol a gwasanaethau ecosystemau. Mae’n defnyddio fframwaith ecolegol-gymdeithasol a dulliau rhyngddisgyblaethol (cyfweliadau, grwpiau ffocws, arsylwi a samplu ecolegol) i ddeall sut y mae pobl yn ysgogi ac yn ymateb i newidiadau mewn ecosystemau. Yn ddiweddar, fe wnaeth Angelina gyd-ysgrifennu adroddiad ar gyfer y WWF, “A Food system fit for Future Generations”.

Ben Burggraaf – Dŵr Cymru

Enillodd Ben radd mewn Peirianneg Fecanyddol ym Mhrifysgol Twente yn 2003 a daeth yn Beiriannydd Siartredig gyda Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol yn 2008. Gan gychwyn ar ei yrfa yn 2002 yng nghyfleuster Ymchwil a Datblygu Corus/Tata Steel yn yr Iseldiroedd, cafodd ei benodi’n Rheolwr Optimeiddio Ynni yng Ngwaith Dur Port Talbot yn 2007. Yn 2014, symudodd i Dŵr Cymru, gan ysgwyddo cyfrifoldeb am gostau ynni beunyddiol mwy na 4,000 o safleoedd ledled Cymru a Swydd Henffordd. Ym mis Hydref 2018, cafodd ei benodi’n Bennaeth Ynni, ac mae’n cynnig arweiniad ar bob agwedd ar reoli ynni o fewn Dŵr Cymru.

Archebwch eich lle nawr!

Cliciwch yma i gofrestru (bydd manylion cofrestru, dolen gysylltu a nodion atgoffa yn cael eu hanfon atoch trwy Zoom)


Daliwch i fyny a phenodau blaenorol o’n gweminarau ‘Mewn:cysylltiad’ isod

Mewn:cysylltiad, Pennod 1 – COVID 19, Brexit & newid hinsawdd (Saesneg)

Mewn:cysylltiad, Pennod 2 – Ecosystemau a bioamrywiaeth yn ucheldiroedd Cymru (Saesneg)

Mewn:cysylltiad, Pennod 3 – Calon Cymru: Llesiant a diwylliant yn yr ucheldiroedd

Mewn:cysylltiad, Pennod 4 – Newid tymhorau, tir newydd: edrych ymlaen at Dystiolaeth Amgylchedd 2020

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .