Mewn:cysylltiad – Calon Cymru: Llesiant a diwylliant yn yr ucheldiroedd

Tuesday 4th August, 11:30 - 13:00

11.30 – 13.00

Dydd Mawrth 4 Awst

Ymunwch â ni ar gyfer trydedd ran ein cyfres Zoom ar y we newydd, In:conversation:, lle mae amrediad o siaradwyr sy’n cynrychioli safbwyntiau a chanfyddiadau amrywiol mewn perthynas â gwyddor yr amgylchedd yn dod ynghyd. Gan ddefnyddio technoleg Zoom, rydym yn creu gofod er mwyn cynnal momentwm yn ein gwaith, a lle i’n cymuned gyfarfod, rhannu syniadau a chysylltu.

Cyfres darllediadau gwe In:conversation: Pennod 3

Mae ein hucheldiroedd yn wynebu adeg o newid digyffelyb. Yn y drydedd weminar hon, byddwn yn rhoi ystyriaeth fanylach i lesiant a gwydnwch cymunedau a diwylliant yr ucheldiroedd ac economi cefn gwlad. Caiff effeithiau Brexit, COVID-19 a’r newid yn yr hinsawdd eu teimlo gan bobl yr ucheldiroedd llawn cymaint â’r byd naturiol sydd o’u cwmpas. Bydd sut mae pobl a natur yn rhyngweithio i gefnogi gwydnwch ynddynt ei gilydd yn allweddol i gynaliadwyedd a llesiant hirdymor ein hamgylchedd a’n cymunedau.

Llanfair PG, Wales on View

Rheoli ein hucheldiroedd newidiol, ac addasu iddynt

Ar gyfer Pennod 3, bydd yr Athro Christine Bundy, yr Athro Chris Rodgers, yr Athro Michael Woods a’r Athro Rhys Jones yn ymuno â ni, y mae gan bob un ohonynt ei safbwynt unigryw i’w gyfrannu at y drafodaeth ar faterion sy’n ymwneud ag ynysiad a chysylltedd yn yr ucheldiroedd, effeithiau diboblogi ar ddiwylliant a hunaniaeth cefn gwlad, a sut y gellir gwella llesiant drwy fentrau amgylcheddol.

Rydym yn edrych ymlaen at gynnal y bennod hon a byddem wrth ein boddau os byddech yn ymuno â ni. Bydd cyfle wrth gwrs i ymuno â’r drafodaeth a gofyn cwestiynau … dewch â’ch chwilfrydedd (a pheidiwch ag anghofio dod â’ch lluniaeth!)

Nodwch, caiff y weminar hon ei recordio a bydd ar gael i’w gwylio ar ôl y darllediad.

Dathliad Dydd Gwyl Dewi 2013, Wales on View

Yr Athro Christine Bundy, PhD, AFBPS

Mae Christine Bundy yn Athro Meddygaeth Ymddygiadol / Seicoleg Iechyd ym Mhrifysgol Caerdydd, Athro Anrhydeddus ym Mhrifysgol Manceinion, ac yn Seicolegydd Ymgynghorol Anrhydeddus yn Ymddiriedolaeth Sefydledig Ysbyty Brenhinol Salford, Ymddiriedolaeth Sefydledig Manceinion a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Mae ei harbenigeddau’n cynnwys rheolaeth seicolegol a chymorth hunanreoli ar gyfer cyflyrau llidus cymhleth, a hyfforddi clinigwyr ar gyfer cymorth hunanreoli i gleifion. Mae Christine yn seicolegydd cymhwysol, sy’n canolbwyntio ar sut mae’r hyn a gredir am salwch a’i driniaeth yn cael effaith ar dymer ac ymddygiad iechyd, ac, yn ei dro, i’r ymyriadau sy’n cefnogi’r cymhelliant i hunanreoli, a gwaith cynllunio a darparu ymyriadau seicolegol ar gyfer rheoli tymer a newid ymddygiad mewn cyflyrau llidus hirdymor, a darparu hyfforddiant ar sgiliau cyfweld cymhellol i staff gofal iechyd fel rhan o’u hymgynghoriadau arferol.

Yr Athro Chris Rodgers

Mae Chris Rodgers yn Athro yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Newcastle. Mae diddordebau ei waith ymchwil yn cwmpasu cyfraith amgylcheddol a chyfraith eiddo. Mae wedi ysgrifennu’n helaeth ar y gyfraith, o ran sut mae’n berthnasol i dir comin yng Nghymru a Lloegr, ac mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn llywodraethu amgylcheddol ar eiddo a ddelir ar y cyd. Mae’n awdur ar ddwy ysgrif – Contested Common Land: Environmental Governance Past and Present (ar y cyd ag A. Winchester, E. Straughton, M. Pieraccini) (Earthscan Publishing, 2011) a The Law of Nature Conservation:  property, environment and the limits of law (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2013). Yn ddiweddarach, mae ei waith wedi canolbwyntio ar drefniadau cyfreithiol ar gyfer diogelu darpariaeth gwasanaethau ecosystemau gan dir comin – gan gynnwys defnyddio tiroedd comin fel safleoedd ar gyfer hyrwyddo mwy o fynediad cyhoeddus i fannau gwyrdd at ddibenion hamdden, cadwraeth natur a gwasanaethau ecosystemau eraill. Ef yw prif olygydd Environmental Law Review (Sage Publishing).

Yr Athro Michael Woods

Mae Michael Woods yn Athro Daearyddiaeth Ddynol ac yn gyd-gyfarwyddwr ar Ganolfan Wleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru: WISERD@Aberystwyth ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae wedi gweithio ar faterion sy’n ymwneud â chymunedau, cymdeithas ac economi cefn gwlad Cymru ers dros 20 mlynedd, gan gynnwys fel cyd-gyfarwyddwr ar Arsyllfa Wledig Cymru. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar ddatblygu cynllun adfer cefn gwlad yn dilyn COVID-19, a gweledigaeth ar gyfer y dyfodol fel rhan o brosiect Horizon 2020 ROBUST yr UE, sy’n archwilio synergeddau trefol–gwledig ar draws Ewrop. Yn ogystal â’i waith ymchwil i gefn gwlad Cymru, mae Michael wedi astudio cymunedau cefn gwald o gwmpas y byd, o Frasil a Tsieina i Newfoundland a Seland Newydd, ac yn fwyaf nodedig am arwain y prosiect GLOBAL–RURAL ar destun globaleiddio a lleoedd cefn gwlad, ac mae’n gyn-olygydd ar y Journal of Rural Studies

Yr Athro Rhys Jones

Mae Rhys Jones yn Athro Daearyddiaeth Ddynol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae ei waith ymchwil yn archwilio themâu sy’n cynnwys syniadau o lesiant a chyfiawnder, daearyddiaeth y Gymraeg, tirweddau diwylliannol, a newid ymddygiadol. Mae wedi cyhoeddi dau lyfr ar ddaearyddiaeth y Gymraeg a diwylliant Cymru, y ffordd y caiff y rhain eu cyfieithu’n fathau gwahanol o dirweddau diwylliannol, a’r ffordd y mae sefydliadau amrywiol ynghlwm â’r gwaith o hyrwyddo a gwarchod ieithoedd, diwylliannau a thirweddau diwylliannol. Mae ganddo hefyd ddiddordeb brwd yn y gwaith o ddatblygu a gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, gan gynnwys ei gwaith o hyrwyddo diwylliant bywiog a ffyniant y Gymraeg. Mae wedi ysgrifennu am y ffordd y mae’r ddeddf yn cysylltu â dealltwriaeth ehangach o safbwynt hunaniaeth Gymreig a’r heriau sy’n gysylltiedig â hyrwyddo llesiant y dyfodol.

Gallwch ddal i fyny â Phennod 1 (COVID-19, Brexit a newid yn yr hinsawdd: y storm berffaith) a  Phennod 2 (Pwysau a phydewau: ecosystemau a bioamrywiaeth yn ucheldiroedd Cymru) drwy fynd i’n tudalen ‘Digwyddiadau Blaenorol’.


Cofrestrwch eich Diddordeb

Cofrestrwch eich diddordeb ar gyfer y gweminar hwn gan pwyso ar y botwm isod. Fyddech yn derbyn gwybodaeth cofrestru a nodyn atgoffa.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .