Ers gwanwyn 2020, rydym wedi cynnal cyfres weminar Zoom reolaidd sy’n cynnwys panelwyr a siaradwyr o amrywiaeth o sefydliadau academaidd, canolfannau ymchwil, sefydliadau a grwpiau diddordeb arbennig.
Gan ymdrin â nifer o bynciau sy’n ymwneud â’n cynadleddau a’n digwyddiadau thematig, mae ein gweminarau’n gwahodd panel o leisiau a gwesteion arbenigol i daflu goleuni ar yr heriau sy’n wynebu gwyddorau amgylcheddol yng Nghymru.
Gan ddefnyddio technoleg Zoom, rydym yn creu lle i gynnal momentwm yn ein gwaith a lle i’n cymuned gyfarfod, rhannu syniadau a chysylltu.
Gallwch ddod o hyd i recordiadau blaenorol o’n gweminarau, digwyddiadau panel ac areithiau prif siaradwyr o’n cynadleddau ‘Tystiolaeth yr Amgylchedd’ drwy fynd i’n Sianel Vimeo.
Wedi colli gweminar ddiweddar? Gwyliwch ein gweminarau panel ‘Mewn:cysylltiad’ a’n digwyddiadau byw diweddaraf wedi’u recordio isod.
Sianel fideo Platfform yr Amgylchedd Cymru – casgliad fideo llawn