Cyflwynwch gwestiynau ymchwil neu anghenion tystiolaeth eich sefydliad

A oes gan eich sefydliad unrhyw gwestiynau heb eu hateb ynghylch yr amgylchedd a chynaliadwyedd, neu a ydych yn chwilio am dystiolaeth i gefnogi penderfyniadau gweithredol, rheoleiddiol a/neu bolisi?

Gallai’r cwestiynau hyn ysbrydoli traethawd hir neu brosiect blwyddyn olaf myfyriwr, gan roi’r cyfle iddynt weithio ar faterion byd go iawn sy’n bwysig i chi – ac o bosib ddarparu atebion gwerthfawr, heb fod angen llawer o adnoddau gennych chi.

Defnyddiwch y ffurflen hon hefyd os ydych am gydweithio gyda myfyriwr neu ymchwilydd gyrfa gynnar.

Llenwch y ffurflen isod i gyflwyno’ch cwestiwn ymchwil neu anghenion tystiolaeth:

1 in 5 Research Question / Evidence Need Form
Looking for collaborators?
External partner (project with a non-university organisation)?
Publicly share contact details?
Name
Name
First
Last

Maximum file size: 104.86MB

Beth sy’n digwydd nesaf?

Bydd y manylion o’ch ffurflen yn cael eu defnyddio i greu cronfa ddata o gwestiynau ymchwil heb eu hateb ac anghenion tystiolaeth. Bydd EPW yn hyrwyddo’r gronfa ddata hon ymhlith myfyrwyr a’u goruchwylwyr ar draws prifysgolion Cymru, gyda’r nod o ysbrydoli rhai myfyrwyr i ddatblygu eu gwaith ymchwil blwyddyn olaf o amgylch eich cwestiwn.

Po fwyaf o wybodaeth y gallwch ei darparu – gan gynnwys dolenni i setiau data perthnasol – mwyaf deniadol fydd eich cwestiwn i fyfyrwyr, a mwyaf perthnasol fydd eu canlyniadau prosiect.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch ag Andy neu Catherine yn info@epwales.org.uk

Comments are closed.