Mewn:cysylltiad Pennod 5: Tuag at ddyfrffyrdd di-blastig yng Nghymru

19 Ionawr 11.00-12.30

Ymunwch â ni ar gyfer ein gweminar byw a thrafodiad panel

Ymunwch â ni ar gyfer ein pumed bennod o Mewn:cysylltiad, ein cyfres we Zoom newydd sy’n dod ag amrywiaeth o siaradwyr at ei gilydd sy’n cynrychioli amrywiaeth o safbwyntiau sy’n ymwneud â gwyddoniaeth amgylcheddol. Gan ddefnyddio technoleg Zoom, rydym yn creu lle i gynnal momentwm yn ein gwaith a lle i’n cymuned gyfarfod, rhannu syniadau a chysylltu.

Mae’r weminar hon, a gynhelir gan Blatfform Amgylchedd Cymru mewn partneriaeth â Sefydliad Ymchwil Dŵr Prifysgol Caerdydd, yn gyntaf mewn cyfres o gweminarau ‘Mewn:cysylltiad’ sy’n edrych ar nifer o faterion sy’n ymwneud â stiwardio, diogelu ac ecsbloetio dŵr croyw yng Nghymru. I nodi ein rhaglen weithgarwch sy’n canolbwyntio ar ddŵr croyw yn 2021, edrychwn ymlaen at groesawu gwesteion arbennig sy’n cynrychioli rhai o brif sefydliadau academaidd Cymru, y llywodraeth a’r sector cyhoeddus yn y casgliad hwn o weminarau â thema dŵr.

Bydd y digwyddiad hwn yn canolbwyntio ar blastigau yn ein hecosystemau dŵr croyw, y strategaethau rheoleiddio sydd ar waith i fynd i’r afael ag ef a sut y gallwn weithio tuag at ddyfrffyrdd di-blastig.


Cwrdd â’r siaradwyr

Dr Christian Dunn

Mae Dr Christian Dunn, Cyfarwyddwr Cyswllt Grŵp Gwlyptiroedd Bangor, yn ymchwilydd gweithgar ac yn ddarlithydd mewn gwyddor gwlypdir – yn enwedig ecoleg gwlypdir, biogeocemeg mawndiroedd, dal a storio carbon a defnyddio gwlyptiroedd triniaeth adeiledig. Mae Christian hefyd yn cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Plastig Cymru ac mae ganddo brosiectau ymchwil parhaus sy’n edrych ar lygredd plastig a microblastig. Mae Dr Christian Dunn yn ymgyrchydd amgylcheddol a siaradwr cyhoeddus arobryn. Mae wedi rhoi tair trafodaeth TEDx ac mae’n ymddangos yn rheolaidd ar gyhoeddiadau teledu, radio a’r wasg lleol a cenedlaethol sy’n sôn am faterion amgylcheddol a hinsawdd. Gan ei fod yn gyn newyddiadurwr, mae wedi ysgrifennu ar gyfer amrywiaeth o bapurau newydd a chylchgronau blaenllaw.

Dr Ifan Jams

Mae Dr Ifan Jâms yn Gydymaith Ymchwil yn Sefydliad Ymchwil Dŵr Prifysgol Caerdydd. Ecolegydd dŵr croyw drwy hyfforddiant, mae ganddo ddiddordeb yn bennaf mewn hyrwyddo ecoleg ragwelol. Mae ei ddiddordebau ymchwil presennol yn cynnwys defnyddio graddio maint corff i ddeall deinameg llyncu plastig gan anifeiliaid.

Nia Jones

Mae Nia Jones yn fyfyriwr PhD yn Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor a ariennir gan NERC. Mae ymchwil Nia yn edrych ar gludiant microplastig o’r afon, trwy’r aber, ac yna i’r cefnfor, a’r mecanweithiau sy’n llywodraethu’r drafnidiaeth hon. Wedi’i ategu gan samplau dwr a gwaddod, mae Nia yn gobeithio mesur gwasgariad llygredd microplastig o amgylch arfordir Cymru a Môr Iwerddon gan ddefnyddio cymysgedd o fodelau cyfrifiadurol. Cyn ei PhD, daeth Nia yn angerddol am ficroplastig a’n problem llygredd plastig ehangach trwy ymgyrchu yn y gymuned leol wrth weithio gydag ystod o bobl wahanol yn amrywio o arweinwyr cynghorau lleol i blant ysgol cynradd. Mae hi’n credu bydd cyfuno ymwybyddiaeth, actifaeth ag atebion a arweinir gan wyddoniaeth, yn leihau effeithiau llygredd plastig ar ein hamgylchedd a’n hiechyd ein hunain.


Dal i fyny gyda phenodau eraill o ‘Mewn:cysylltiad’ yma

Comments are closed.