Digwyddiad ymgynghori Llywodraeth Cymru: aer glân a lleihau allyriadau sy’n deillio o losgi tanwydd

Mawrth 11eg, 13.00-14.30

Yn dilyn ein gweminarau diweddar ‘Blue Sky Thinking – sut gall Cymru gael aer glanach?’ ac ‘Adeiladu’n ôl yn well‘, i nodi Diwrnod Aer Glân Cymru 2020, rydym yn falch o gyhoeddi ein bod unwaith eto’n gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru ar gyfer digwyddiad ymgynghori arbennig – a byddem wrth ein bodd yn clywed eich barn!

Lleisiwch eich barn ar gynigion Llywodraeth Cymru

Ar Fawrth 11eg, byddem yn cynnal digwyddiad ymgynghori arbennig â Llywodraeth Cymru ynghylch yr ymgynghoriadau canlynol:

Ymunwch â ni ar gyfer trafodaeth ynghylch y cynigion, sesiwn Holi ac Ateb. Mae llygredd aer yn effeithio ar bawb yng Nghymru felly ymunwch â ni i ddysgu mwy am y modd y gallwn ni i gyd wella ansawdd ein haer.

Cofrestrwch i ymuno drwy glicio’r botwm isod – bydd y linc yn mynd â chi i dudalen gofrestru Zoom. Sylwch y bydd y gweminar hon yn cael ei recordio.


Comments are closed.