Simon Baldwin – Llywodraeth Cymru
Pennaeth Tystiolaeth Strategol
Dr James Bull – Prifysgol Abertawe
Athro Cyswllt mewn Biowyddorau Ecolegol yn y Coleg Gwyddoniaeth
Richard Cardwell – Cyfoeth Naturiol Cymru
Ystadegydd Arweiniol
Dr Sarah Davies – Prifysgol Aberystwyth
Darllenydd daearyddiaeth ffisegol a gwyddor amgylcheddol
Dr David Sprake – Prifysgol Glyndŵr Wrecsam
Darlithydd mewn Peirianneg Fecanyddol
Yr Athro Bridget Emmett – Canolfan Ecoleg a Hydroleg
Pennaeth Ardal Wyddoniaeth – Priddoedd a Defnydd Tir a Phennaeth safle Bangor
Yr Athro Isabelle Durance – Prifysgol Caerdydd
Cyfarwyddwr, Sefydliad Ymchwil Dŵr/Athro yn Ysgol y Biowyddorau
Yr Athro Julia Patricia Gordon Jones
Cyfarwyddwr Rhwydwaith Ymchwil Ynni Carbon Isel a’r Amgylchedd Cymru
Dr David Lee – Prifysgol De Cymru
Uwch Ddarlithydd mewn Ecoleg Bywyd Gwyllt
Yr Athro Christine Maggs – JNCC
Prif Wyddonydd
Yr Athro Morag McDonald – Prifysgol Bangor
Deon y Coleg/Athro – Coleg Gwyddorau’r Amgylchedd a Pheirianneg
Yr Athro Rhian Jenkins – Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Cyfarwyddwr Academaidd
Dr Peter Sykes – Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Prif Ddarlithydd a Deon Cyswllt ar gyfer Menter ac Arloesi
Dr James Bull – Prifysgol Abertawe
Athro Cyswllt mewn Biowyddorau Ecolegol yng Ngholeg y Gwyddorau
Mae gen i ddiddordeb mewn cysylltedd gofodol o fewn dynameg poblogaeth a chanlyniadau symud ar lefel y boblogaeth, yn ogystal ag ecoleg afiechydon. Mae’r meysydd ymchwil hyn yn gorgyffwrdd wrth i organebau byw’n rhydd ddod i gysylltiad â chyfryngau trosglwyddadwy clefydau heintus. Rwy’n defnyddio cyfuniad o ddulliau modelu mathemategol, arbrofion ecolegol gyda rhywogaethau model, ac arsylwadau maes o ecosystemau naturiol. Mae fy ymchwil ddamcaniaethol ar ecoleg poblogaeth a chymuned yn seiliedig ar broblemau cymhwysol pwysig, gan gynnwys diogelwch bwyd, ynni adnewyddadwy, colli bioamrywiaeth, a rhywogaethau goresgynnol.
Rwy’n Uwch Gymrawd o’r Academi Addysg Uwch ac yn Gymrawd o’r Gymdeithas Frenhinol Entomolegol.
Dr Sarah Davies – Prifysgol Aberystwyth
Darllenydd mewn daearyddiaeth ffisegol a gwyddor yr amgylchedd
Ymunais â’r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2002 ac ar hyn o bryd rydw i’n Bennaeth Adran Dros Dro. Mae fy ymchwil yn ymwneud ag adlunio newid hinsoddol ac amgylcheddol gan ddefnyddio tystiolaeth ecolegol a geocemegol o waddodion llynnoedd ac o archifau dogfennol.
Mae prosiectau presennol yn canolbwyntio ar archwilio effeithiau cymdeithasol tywydd eithafol hanesyddol yng Nghymru ac ar gofnodion o newid hinsawdd a stormydd o amgylch arfordiroedd Cymru ac Iwerddon. Rydw i’n Olygydd Cyswllt ar gyfnodolyn mynediad agored y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol, Geo: Geography and Environment ac rwy’n cynrychioli Prifysgol Aberystwyth ar grŵp prosiect Newid Hinsawdd ac Adnoddau Naturiol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion.
Yr Athro Richard Day – Prifysgol Glyndŵr Wrecsam
Dirprwy Is-ganghellor Ymchwil
Ymunais â Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam ym mis Ionawr 2010 fel Athro Peirianneg Deunyddiau Cyfansawdd ac ar ôl hynny deuthum yn Bennaeth yr Adran Peirianneg gyda chyfrifoldeb dros weithgareddau ledled safleoedd Wrecsam, Brychdyn a Llanelwy.
Rydw i nawr yn Ddirprwy Is-ganghellor yn arwain y paratoadau ar gyfer cais am bwerau dyfarnu Graddau Ymchwil yn ogystal â pharatoadau ar gyfer cyflwyniad i Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021. Mae gennyf brofiad cryf o ymchwil ac arweinyddiaeth ymchwil mewn prifysgolion grŵp Russell yn ogystal â phrofiad mewn derbyniadau a monitro ôl-raddedig.
Yr Athro Bridge Emmett – Y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg
Pennaeth Adran y Gwyddorau – Priddoedd a Defnydd Tir a Phennaeth safle Bangor
Mae gennyf ddiddordeb ymchwil mewn priddoedd, gwyddoniaeth biogeocemegol ac ecosystemau. Mae fy ymchwil yn edrych ar effaith rheoli tir ar gyfalaf naturiol a gwasanaethau ecosystemau. Mae hyn yn cynnwys newid mewn seilwaith a swyddogaeth priddoedd, effeithiau llygredd nitrogen, effeithiau newid hinsawdd ar briddoedd a swyddogaeth ecosystemau, cylchoedd biogeocemegol a goblygiadau i strwythur a swyddogaeth ecosystemau.
Mae fy ngwaith yn canolbwyntio ar wella’r sylfaen dystiolaeth i gefnogi datblygiad polisïau ac mae’r cyllid wedi dod oddi wrth NERC, BBSRC, EPSRC, DEFRA, yr UE a Llywodraeth Cymru. Rydw i’n Athro Anrhydeddus ym Mhrifysgol Bangor, yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, y Gymdeithas Frenhinol Bioleg a Chymdeithas Gwyddor Pridd Prydain. Derbyniais Wobr Marsh ar gyfer Ymchwil Newid Hinsawdd gan Gymdeithas Ecolegol Prydain yn 2016.
Yr Athro John Healey – Prifysgol Bangor
Cyfarwyddwr Ymchwil – Coleg y Gwyddorau Amgylcheddol a Pheirianneg
Mae fy niddordebau ymchwil yn cynnwys ecoleg, rheolaeth a gwasanaethau ecosystem coedwigoedd a systemau amaethgoedwigaeth, gyda phwyslais arbennig ar amgylcheddau trofannol ac ucheldirol. Cadwraeth bioamrywiaeth wrth ddiogelu a chreu coedwigoedd; rhywogaethau coediog goresgynnol. Adfer coedwigoedd ac adfer tir diraddiedig ac ôl-ddiwydiannol. Polisi rheoli coedwigoedd mewn modd cynaliadwy gan gynnwys: mesurau lliniaru newid yn yr hinsawdd; Lleihau allyriadau o ganlyniad i ddatgoedwigo a diraddio coedwigoedd; lleihau effaith y fasnach goed; coedamaeth; rheoli coedwigoedd eilaidd a llain glustogi; cyfranogiad y gymuned; monitro. Ecoleg coedwigoedd gan gynnwys: adfywiad naturiol; ymwrthedd a gwydnwch coedwigoedd i aflonyddwch; olyniaeth; tirwedd; addasu i’r newid yn yr hinsawdd. Ecoleg ecosystem ar draws ystod o ddefnydd tir coedwig, amaethgoedwigaeth, amaethyddol ac ucheldir: ailgylchu maethynnau a charbon; dwysáu cynaliadwy.
Dr Peter Sykes – Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Prif Ddarlithydd a Deon Cyswllt Menter ac Arloesi
Rwy’n Brif Ddarlithydd yn Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae fy niddordeb ymchwil mewn bioaerosolau wedi fy ngalluogi i gyhoeddi’n eang yn y maes hwn, cyflwyno mewn cynadleddau rhyngwladol a chyfrannu at ddatblygu canllawiau’r diwydiant. Ar hyn o bryd rwy’n cydweithio â nifer o gwmnïau trwy’r DU yn eu cynorthwyo i ddatblygu protocolau monitro a gweithdrefnau asesu risg i leihau’r effeithiau posibl o ganlyniad i gysylltiad gweithwyr â llwch a bioaerosolau yn y sector rheoli gwastraff.