Tystiolaeth yr Amgylchedd 2021

Medi 14 – 17

Dyfroedd croyw yw rhai o amgylcheddau pwysicaf y Ddaear. Maent hefyd dan fygythiad llym. Wrth ddarparu dŵr er lles pobl, budd economaidd a bioamrywiaeth, mae dyfroedd croyw yn wynebu effeithiau camddefnydd, gorddefnydd a newid byd-eang. Un o brif heriau’r ganrif hon yw cydbwyso defnydd ac amddiffyniad dyfroedd croyw; hynny ar lefelau lleol a byd-eang. Mae gan Gymru ran i’w chwarae wrth ymafael â’r her hon, lle mae gwerth sylweddol adnoddau dŵr croyw yn cyd-fynd ag angen i wella ein stiwardiaeth o holl agweddau’r gylchred ddŵr ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Bydd y gynhadledd hon yn ystyried problemau cyfredol, atebion arloesol, a heriau’r dyfodol gan ymofyn cyfraniadau parthed:

  • Problemau cyfredol: ee llygredd hanesyddol a modern; arllwysiad cloddfeydd; risg llifogydd; llygredd amaethyddol; dŵr gwastraff; echdyniad dŵr a newid i gyfundrefnau llif; addasiadau ffisegol a chysylltedd; dirywiad bioamrywiaeth a risgiau i bysgod; newid hinsawdd; fflachbwyntiau adloniadol; pathogenau’r dŵr; amcan gwerth dŵr; cynnal isadeiledd; cyflenwad a galw.
  • Atebion arloesol: ee moderneiddio monitro ag asesu; masnach dŵr; trosglwyddiadau dŵr diogel; atebion digidol; cyfuno rheolaeth dalgylchol; dŵr yn yr economi cylchol; isadeiledd gwyrdd ac atebion naturiol; rheolaeth well; cymhellion newydd ar gyfer ymarfer da; prosiectau arddangos a gweithred wirfoddol; defnydd doethach; ymwybyddiaeth a newid ymddygiad; lliniaru hinsoddol â ymaddasu; cyfuno gallu proffesiynol â gwyddoniaeth dinasyddion.
  • Heriau’r dyfodol: llifogydd a sychderau; anghytundeb cysyniadau; ail-wylltio llynnoedd, afonydd a gwlypdiroedd; lleihau ôl-troed dŵr tramor; cynnal medrusrwydd technegol; anghydbwysedd rhanbarthol cyflenwad a galw; plastigion a llygredd newydd; cyfuno cynhyrchiant bwyd â gwarchodaeth dŵr croyw.

Bydd y gynhadledd yn cynnwys prif siaradwyr, papurau, trafodaethau panel, cyfarfodydd bord gron a gweithdai. Ein nod yw arddangos y ddealltwriaeth ac arloesedd wedi-selio-ar-dystiolaeth sydd gan Gymru yn yr amgylchedd dŵr, wrth ddysgu am broblemau ac atebion o weddill y Byd.

Cyn Cofrestru


Bydd mwy o fanylion a therfynau amser ar gyfer cyflwyno crynodeb yn dod yn fuan. Os hoffech gael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd, cofrestrwch eich diddordeb yma.

Please select a valid form

Comments are closed.