Plastig Untro – Gweithdy

(Digwyddiad ar-lein) 10.30-14.30

19 Hydref 2020

Delwedd: Unsplash

Cefndir

Pan fydd plastig wedi’i ddylunio’n dda ac yn angenrheidiol, mae’n gallu chwarae rôl bwysig yn ein heconomi a’n bywydau bob dydd. Fodd bynnag, gan ei fod yn cael ei ddefnyddio’n eang iawn erbyn hyn ac nad yw pobl yn ei werthfawrogi fel adnodd, caiff ei waredu yn aml ar ôl ei ddefnyddio unwaith, ni chaiff ei ailgylchu neu caiff ei daflu’n sbwriel. Mae hyn yn arbennig o wir am eitemau llai nad oes modd eu codi’n hawdd o’r llawr. Caiff yr eitemau hyn yna eu golchi i’r môr ac maent yn ymddangos ar ein traethau. Yn 2018, yn ôl ymchwil gan y Comisiwn Ewropeaidd, roedd 80 i 85% o sbwriel morol, a fesurwyd drwy arolygon sbwriel ar y traeth, yn blastig, gydag eitemau plastig untro yn cynrychioli 50% o’r cyfanswm.

Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn datblygu amrywiaeth o ymyriadau polisi a deddfwriaethol i helpu i newid ymddygiad defnyddwyr o ddefnyddio eitemau untro i ddefnyddio cynhyrchion y gellir eu hailddefnyddio neu’r rheini sydd wedi’u gwneud o ddeunyddiau mwy cynaliadwy. Mae hyn yn cynnwys cynigion i wahardd rhai eitemau plastig untro (SUP) sy’n cael eu gweld yn yr amgylchedd morol. Mae dogfen yr ymgynghoriad i’w gweld yma: < https://llyw.cymru/lleihau-plastig-untro-yng-nghymru?_ga >. Mae’r ymyriad polisi arfaethedig hwn yn cyd-fynd ag Erthygl 5 Cyfarwyddeb yr Undeb Ewropeaidd ar leihau effaith cynhyrchion plastig penodol ar yr amgylchedd (Cyfarwyddeb (EU) 2019/904 <https://eur-lex.europa.eu/eli/dir/2019/904/oj> neu a elwir yn gyffredin yn Gyfarwyddeb SUP).

Wrth gyhoeddi Cyfarwyddeb SUP, amlinellodd yr Undeb Ewropeaidd ei hystyriaethau mewn perthynas â deunyddiau y creda oedd wedi’u cynnwys yng nghwmpas y ddeddfwriaeth a’r sail resymegol dros ddefnyddio’r dull hwn. Fodd bynnag, mae rhai sectorau wedi beirniadu’r canllawiau drafft ychwanegol a gyhoeddwyd yn ddilynol am fod eu cwmpas yn cael ei ehangu i gynnwys eitemau nad oedd wedi’u cynnwys yn wreiddiol yn y darpariaethau. Mae hyn wedi arwain at ddadl a thrafodaeth barhaus ar lefel yr UE ynghylch pa blastigion untro y dylid ac na ddylid eu cynnwys yng Nghyfarwyddeb SUP.

Gan fod Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn ymgynghori ar ei gynigion i wahardd rhai eitemau plastig untro, gan gynnwys y rheini sydd wedi’u gwneud o blastig oxo-diraddadwy, bydd y digwyddiad hwn yn gyfle i drafod y materion hyn o safbwynt Cymru a bydd yn helpu i lywio’r polisi.

Diben

  • Helpu Llywodraeth Cymru i ddatblygu ei bolisïau ynghylch lleihau’r effeithiau amgylcheddol sy’n gysylltiedig â defnyddio eitemau plastig untro a’u gwaredu’n amhriodol. Bydd hyn yn cynnwys llywio penderfyniadau polisi mewn perthynas â drafftio’r ddeddfwriaeth arfaethedig i wahardd sawl eitem plastig untro.
  • Hoffwn ddeall yn well y goblygiadau posibl o ddefnyddio’r diffiniadau o blastig yn y Gyfarwyddeb, yn enwedig o ran a fydd yn atal neu’n helpu’r datblygiad o ddeunyddiau newydd eraill a all fod yn fwy ecogyfeillgar na phlastigion a ddefnyddir eisoes.
  • Byddem hefyd yn hoffi deall i ba raddau y mae deunyddiau eraill nad ydynt yn dod o fewn diffiniad ‘plastig’ Cyfarwyddeb SUP eisoes ar gael ac a oes effeithiau amgylcheddol negyddol yn gysylltiedig â nhw.
  • Mae llunwyr polisi yn ceisio barn y gymuned wyddonol ac ymchwil ar gynnwys deunyddiau megis plastigion oxo-diraddadwy yn eu cynigion.
  • Yng nghwestiwn 12 o’n hymgynghoriad, rydym wedi gofyn am farn ynghylch eitemau y gellir eu cynnwys yn yr ail set o gamau gweithredu i leihau plastigion untro. Hoffem ddeall yn well yr hyn y mae’r grŵp yn ei ystyried yn eitemau posibl i’w gwahardd neu gamau deddfwriaethol eraill. Byddai angen i hynny gynnwys ystyried argaeledd unrhyw ddeunyddiau amgen.

Cofrestru yma

Please select a valid form

Comments are closed.