Cyfle Cymrodoriaeth: Trawsnewid Cymdeithasol a Newid Ymddygiad, Adran yr Amgylchedd a Materion Gwledig (ERA), Llywodraeth Cymru

Dyddiad cau (gwaith papur) 14.00 29 Mehefin 2021

Dyddiad Cau (cwestriynnau) 14 Mehefin 2021

Mae Llywodraeth Cymru yn gwahodd cynigion ar gyfer swydd Cymrodoriaeth Trawsnewid Cymdeithasol a Newid Ymddygiad, gan weithio o fewn Adran yr Amgylchedd a Materion Gwledig (ERA).   Nod y swydd hon yw cefnogi datblygiad a dealltwriaeth o wyddoniaeth gymdeithasol a gwyddor ymddygiad wrth feddwl am systemau ar draws yr adran.

Bydd y swydd hon o fewn tîm tystiolaeth amlddisgyblaethol sy’n cefnogi rhaglen ehangach i gyfrannu at gyflawni penderfyniadau cadarn sy’n seiliedig ar dystiolaeth o fewn polisïau amgylchedd ac amaethyddiaeth Cymru.  Mae’r tîm yn gweithio drwy gydweithio ym maes ymchwil gyda phartneriaid polisi, busnes a rheoli tir i gyflawni’r canlyniadau polisi a ddymunir.

Gwahoddir ceisiadau am gynigion gan Ymchwilwyr Ôl-ddoethuriaeth i Uwch Ymchwilwyr ac mae’r swydd yn agored i ymgeiswyr greu eu cynnig eu hunain ar gyfer sut y gallai lleoliad weithredu.  Gall Llywodraeth Cymru gefnogi hyn fel swydd ran-amser neu llawn amser.

Disgwylir i ganlyniadau gweithgareddau a gynhelir yn ystod y Gymrodoriaeth arwain at ddealltwriaeth newydd a gwell o synthesis ymchwil o wyddoniaeth gymdeithasol ac ymddygiad a’r defnydd o ganlyniadau ymchwil wrth lunio polisïau a chymwysiadau, a dulliau newydd ac arloesol ar gyfer prosesau penderfynu cyfranogol a chynhwysol.

Rhaid i bob ymgeisydd gael ei gyflogi gan sefydliad cynnal cymwys drwy gydol y Gymrodoriaeth i dderbyn cyllid.  Mae sefydliadau cynnal cymwys yn cynnwys Sefydliadau Addysg Uwch y DU, Sefydliadau Ymchwil Annibynnol cymwys neu Sefydliadau Ymchwil y Sector Cyhoeddus (PSREs).

Am fwy o wybodaeth fanwl am y cyfle yma, cliciwch ar y ddolen isod:


Comments are closed.