Cipolwg Cymru | Llwybrau tuag at Economi Gylchol | Gary Walpole | 30/09/2026 13:00 – 14:00

Cyfarwyddiadau i Ymuno: Ymunwch â’r cyfarfod ar MS Teams | ID y Cyfarfod: 321 300 428 853 4 | Cyfrinair: q75gi6cL

Gweld y Recordiad: Gyda chaniatâd y siaradwyr, byddwn yn rhannu recordiad y cyflwyniad ar ein gwefan yn: Insights Wales / Cipolwg Cymru – 2026-27 Recordings – epwales.org.uk

Cronfa Newydd i’r Economi Gylchol

Cyd-greodd Cymunedau Arloesi’r Economi Gylchol gronfa hadau newydd, gyda Llywodraeth Cymru, ar gyfer sefydliadau sy’n awyddus i ddatblygu prosiectau arloesi Economi Gylchol. Cynigiodd y gronfa beilot Newydd i’r Economi Gylchol hyd at £10,000 mewn grant i sefydliadau fel rhan o gyfnod cwmpasu neu ddichonoldeb gwerth £15,000 ar gyfer cynnyrch neu wasanaeth newydd. Cefnogodd Cymunedau Arloesi’r Economi Gylchol Cymru 77 o sefydliadau i ddatblygu ceisiadau amlinellol gyda 27 yn cyflwyno eu prosiectau arfaethedig i banel Llywodraeth Cymru a llwyddodd 18 o sefydliadau i sicrhau cyllid i ddatblygu astudiaethau dichonoldeb cadarn ar gyfer eu prosiect arloesi economi gylchol arfaethedig. Mae Nature Protects yn disgrifio eu harloesedd mewn astudiaeth achos fideo.


Mae Dr Gary Walpole yn Gyfarwyddwr Cymunedau Arloesedd Economi Gylchol ac yn Gyd-Gyfarwyddwr Canolfan Arloesedd a Ailfrandio Rhanbarthol. Cyhoeddiadau Diwethaf: https://pure.cardiffmet.ac.uk/en/persons/gary-walpole/publications/

Comments are closed.