Gweithdy cwmpasu: Rhaglen Hanesion Cudd NERC gyda Amgueddfa Cymru

Gweithdy cwmpasu – galw am ddatganiadau o ddiddordeb

Cynhelir gweithdy ar-lein rhwng 10 ac 13.00 ddydd Gwener 30 Ebrill

Sut y gall dadwaddoliad casgliadau hanes naturiol gynyddu eu gwerth i gynulleidfaoedd amrywiol, gan hyrwyddo dealltwriaeth ddyfnach o’r amgylchedd yng Nghymru a’i gysylltiad ag ef?

Yn aml, mae casgliadau amgueddfeydd wedi’u gwreiddio mewn coloniaeth a hiliaeth. Nid yw Amgueddfa Cymru yn wahanol. Nod Amgueddfa Cymru yw cydweithio â chymunedau amrywiol ledled Cymru, i ddemocrateiddio a dadwaddoli’r casgliadau gan gynnwys gwyddorau naturiol yng nghyd-destun ehangach dadwaddoli’r amgueddfa ei hun.

Yn draddodiadol, canolbwyntiwyd ar y wyddoniaeth o fewn casgliadau gwyddoniaeth naturiol, mae’r broses dadwaddoli yn golygu bod angen datblygu safbwyntiau lluosog i gefnogi gwell dealltwriaeth ac ystyr ddyfnach.

Mae hyn yn her na ellir ond mynd i’r afael â hi drwy gydweithio â phartneriaid cymunedol i ehangu cyd-ddealltwriaeth. Mae hefyd yn gyfle i ddeall y rhwystrau sy’n atal grwpiau lleiafrifol rhag ymgysylltu â bywyd gwyllt a daeareg Cymru. Yn ogystal, mae angen i ni ddatblygu ffyrdd o gynyddu ymgysylltiad â’r amgylchedd naturiol ar draws ystod fwy amrywiol o gymunedau yng Nghymru, ac ymestyn a chynnal ein cyrhaeddiad a’n hymgysylltiad â’r cymunedau hynny.

Rydym yn chwilio am ymchwilwyr sy’n gallu:

  • cyd-ddatblygu diffiniad o’r hyn a olygwn wrth ddadwaddoli casgliadau gwyddoniaeth naturiol
  • gwella mynediad cymunedol i’r casgliadau hyn ac ymgysylltu â hwy
  • datblygu safbwyntiau lluosog i gefnogi gwell dealltwriaeth ac ystyr ddyfnach
  • datblygu perthnasoedd sy’n gwerthfawrogi gwybodaeth, arbenigedd a phrofiad o lygad y gymuned
  • llywio sut y dylid defnyddio’r casgliadau hyn yn y dyfodol

Y nodau yn y pen draw yw hyrwyddo mwy o amrywiaeth o fewn y gwyddorau naturiol a chyfranogiad ehangach mewn cael mynediad at gasgliadau gwyddoniaeth naturiol.

Mae Platfform Amgylcheddol Cymru yn gweithio gydag Amgueddfa Cymru i gynnal gweithdy gydag ymchwilwyr o ystod eang o feysydd arbenigol i fynychu gweithdy cwmpasu cychwynnol i drafod y themâu a sicrhau mwy o gydweithio, mynediad ac ymgysylltiad â chymunedau amrywiol Cymru.

Llenwch y ffurflen isod i gyflwyno eich datganiad o ddiddordeb mewn mynychu

This form is currently closed for submissions.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â thîm EP Cymru.

Comments are closed.