Gweithdy ar Ddefnydd Tir ar gyfer Sero Net

Bydd Uned Dystiolaeth Strategol Llywodraeth Cymru yn hwyluso sesiwn drafod anffurfiol ar y Rhaglen Defnydd Tir ar gyfer Sero Net – ymchwil (LUNZ-Research) – sy’n cael ei chynnal gan Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI).  Bydd y drafodaeth yn canolbwyntio’n bennaf ar Sefydliadau Academaidd Cymru ond mae croeso i bawb sydd â diddordeb ymuno â’r digwyddiad hwn.  Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 11 Gorffennaf, felly os ydych yn ystyried cyflwyno cais neu hyd yn oed yn chwilio am gyfleoedd posibl i weithio mewn partneriaeth a chydweithredu, dewch i ymuno â ni. 

https://cardiff.zoom.us/meeting/register/tZMtdu6oqj0iGdAPqfIegP4WuT90GS3lzojr

Comments are closed.