Ffair Yrfaoedd Rithiol

1at Mawrth, 10yb-3yp

Cyfle i gwrdd â chyflogwyr, cymdeithasau a phrifysgolion blaenllaw ledled Cymru

Gall dod o hyd i’r llwybr gyrfa gorau edrych fel rhwystr enfawr i’w oresgyn.

Dyna pam fod Ffair Yrfaoedd Rhithiol Cymru yma i helpu. Mae rhai o brif gyflogwyr Cymru’n gweithio mewn partneriaeth â ni i greu ffair yrfaoedd rithiol unigryw y gallwch ymuno â hi o gysur eich cartref eich hun.

Ddydd Llun 1 Mawrth, cynhelir Ffair Yrfaoedd Rithiol Cymru ac mae gwahoddiad i fyfyrwyr cyfredol a graddedigion diweddar ymuno!

Dyma gyfle i chi gael rhwydweithio â chymdeithasau, prifysgolion a chwmnïau blaenllaw sy’n cyflogi graddedigion, o bob rhan o Gymru i’ch helpu i feithrin sgiliau cyflogadwyedd gwerthfawr trwy sesiynau byw ac ennill profiad gwych i’w roi ar eich CV heb hyd yn oed adael eich ystafell.

Yn ystod y ffair byddwch yn gallu:

  • Ychwanegu at eich rhwydwaith proffesiynol a gofyn cwestiynau i recriwtwyr
  • Gwella eich sgiliau ysgrifennu CV a chael cyngor ar gael eich cyfweld
  • Dysgu sut mae gwneud i’ch cais sefyll allan
  • Dod o hyd i’ch llwybr a dysgu am y cyfleoedd sydd ar gael i chi
  • Gwneud ceisiadau uniongyrchol am swyddi sydd ar gael
  • Cael gafael ar gynnwys unigryw trwy ymuno â gweithdai a chyflwyniadau byw.

Gwneud gwahaniaeth i bobl a’r blaned

Mae Platfform Amgylchedd Cymru yn gweithio gyda Phrifysgolion Cymru i ddarparu cyngor ac arbenigedd ar lwybrau gyrfaoedd mewn gwyddorau amgylcheddol a chynaliadwyedd. Byddwn yn bresennol i sgwrsio â myfyrwyr a graddedigion am eu hopsiynau gyrfa – gobeithio welwn ni chu yno!


Comments are closed.