1at Mawrth, 10yb-3yp
Cyfle i gwrdd â chyflogwyr, cymdeithasau a phrifysgolion blaenllaw ledled Cymru
Gall dod o hyd i’r llwybr gyrfa gorau edrych fel rhwystr enfawr i’w oresgyn.
Dyna pam fod Ffair Yrfaoedd Rhithiol Cymru yma i helpu. Mae rhai o brif gyflogwyr Cymru’n gweithio mewn partneriaeth â ni i greu ffair yrfaoedd rithiol unigryw y gallwch ymuno â hi o gysur eich cartref eich hun.
Ddydd Llun 1 Mawrth, cynhelir Ffair Yrfaoedd Rithiol Cymru ac mae gwahoddiad i fyfyrwyr cyfredol a graddedigion diweddar ymuno!
Dyma gyfle i chi gael rhwydweithio â chymdeithasau, prifysgolion a chwmnïau blaenllaw sy’n cyflogi graddedigion, o bob rhan o Gymru i’ch helpu i feithrin sgiliau cyflogadwyedd gwerthfawr trwy sesiynau byw ac ennill profiad gwych i’w roi ar eich CV heb hyd yn oed adael eich ystafell.
Yn ystod y ffair byddwch yn gallu:
- Ychwanegu at eich rhwydwaith proffesiynol a gofyn cwestiynau i recriwtwyr
- Gwella eich sgiliau ysgrifennu CV a chael cyngor ar gael eich cyfweld
- Dysgu sut mae gwneud i’ch cais sefyll allan
- Dod o hyd i’ch llwybr a dysgu am y cyfleoedd sydd ar gael i chi
- Gwneud ceisiadau uniongyrchol am swyddi sydd ar gael
- Cael gafael ar gynnwys unigryw trwy ymuno â gweithdai a chyflwyniadau byw.
Gwneud gwahaniaeth i bobl a’r blaned
Mae Platfform Amgylchedd Cymru yn gweithio gyda Phrifysgolion Cymru i ddarparu cyngor ac arbenigedd ar lwybrau gyrfaoedd mewn gwyddorau amgylcheddol a chynaliadwyedd. Byddwn yn bresennol i sgwrsio â myfyrwyr a graddedigion am eu hopsiynau gyrfa – gobeithio welwn ni chu yno!